Neidio i'r prif gynnwys
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban

Bydd Dafydd Jenkins yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf.

Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban

Gyda phob tocyn wedi ei werthu ar gyfer y gêm, mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu’r Alban yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 3 Chwefror (4.45pm yn fyw ar S4C a’r BBC).

Rhannu:

Bydd y cefnwr Cameron Winnett yn ennill ei gap cyntaf ac mae Rio Dyer a Josh Adams wedi eu dewis ar yr esgyll.

21 oed a 60 niwrnod fydd Dafydd Jenkins ac ef fydd yr ail gapten ieuengaf erioed i arwain Cymru ddydd Sadwrn. Dim ond Syr Gareth Edwards sydd wedi cael y fraint honno ag yntau’n iau na chlo Caerwysg. Adam Beard sydd wedi ei ddewis i bartneru ei gapten yn yr ail reng.

DFP – Leaderboard

Bydd Owen Watkin yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf ers Tachwedd 2022. Nick Tompkins fydd y canolwr arall.

Dechrau am y tro cyntaf erioed yn y Chwe Gwlad fydd y prop pen rhydd Corey Domachowski. Leon Brown fydd y prop pen tynn a Ryan Elias fydd yn bachu.

Yn y rheng ôl, bydd James Botham yn dechrau dros ei wlad am y tro cyntaf ers dwy flynedd. Tommy Reffell fydd y blaen asgellwr agored ac Aaron Wainwright sydd wedi ei ddewis yn wythwr.

Haneri’r Scarlets Gareth Davies a Sam Costelow fydd yn dechrau’r ornest yn erbyn yr Albanwyr. Er bod Costelow eisoes wedi ennill 8 cap dros ei wlad – dyma fydd y tro cyntaf iddo chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad.

Os y bydd Alex Mann yn cael ei alw o’r fainc, bydd chwaraewr rheng ôl Caerdydd yn ennill ei gap cyntaf ef dros Gymru.

Fr gynrychiolodd Kemsley Mathias (prop pen rhydd), Keiron Assiratti (prop pen tynn) a Teddy Williams (clo) eu gwlad am y tro cyntaf yn ystod Cyfres Haf Vodafone 2023, tra nôl yn Hydref 2020 yr enillodd Ioan Lloyd ei gap cyntaf ef. Ni does ‘run ohonynt wedi chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn.

Elliot Dee fydd yr eilydd o fachwr gyda Tomos Williams a Mason Grady yn debygol iawn o chwarae’u rhan hefyd y tu ôl i’r pac pan ddaw’r alwad i wneud hynny.

Dywedodd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru: “ Mae gan Cameron Winnett sgiliau hyfryd ac ‘rwy’n credu y bydd yn datblygu i fod yn dipyn o chwaraewr ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n ifanc wrth gwrs ac felly fydd dim pwysau arno.

“Mae wedi ymarfer yn arbennig o dda ers ymuno gyda’r garfan ac ‘rwy’n falch i’w gynnwys yn y tîm.

Bydd Cameron Winnett yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn.

“Mae’n braf gallu dewis Alex Mann ar y fainc – a gobeithio y caiff ei  gyfle ef i ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn hefyd.

“Rwy’n credu bod cydbwysedd da yn y garfan yma. Mae gennym chwaraewyr profiadol sydd wedi chwarae yng Nghwpan y Byd a rhai ifanc addawol hefyd. Mae gennym flaenwyr swmpus iawn – mae ‘na dipyn o faint ar ein pac i ddweud y gwir.

“Dyw’r Alban heb ennill ar ein tomen ni ers tipyn o amser ac mae hwn yn gyfle i ni ymestyn y record honno. Bydd y to ar agor gan mai dyna ddymuniad yr Albanwyr yn anffodus. ‘Rwy’n credu y gall hynny amharu ar yr awyrgylch – oherwydd pan fo’r to ar gau mae’r sŵn yn y stadiwm yn syfrdanol. Ond dyna’r penderfyniad y maen nhw wedi ei wneud.

“Mae’r garfan yn deall pa mor bwysig yw’r gêm agoriadol yma. Mae pob tocyn wedi ei werthu – felly mae’n bwysig bod y chwaraewyr yn gwneud eu gorau, dechrau’r Bencampwriaeth yn dda a chreu momentwm ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.

“Mae eu hagwedd wedi fy mhlesio’n fawr wrth ymarfer yr wythnos hon ac mae gennym reswm da dros deimlo’n gyffrous wrth edrych ymlaen at y gêm.”

Wrth sôn am y ffaith nad yw George North a Will Rowlands wedi eu cynnwys, ychwanegodd Gatland: “Fe gafodd George anaf i’w ysgwydd ac felly nid yw wedi ymarfer yn llawn yr wythnos hon. Dyna’r rheswm pam fo Owen Watkin yn cael ei gyfle yng nghanol cae.

“Dyw Will heb ymuno gyda’r garfan eto. Fe gafodd ei wraig fabi ychydig wythnosau yn ôl yn Ffrainc ac yn anffoudus mae ambell gymhlethdod wedi bod. Y neges syml a chlir yw iddo aros gyda’i deulu am y tro. Mae’n chwaraewr hynod bwysig i ni ac fe fydd yn ymuno gyda’r garfan pan mae’n barod i wneud hynny.”

15. Cameron Winnett (Caerdydd – heb gap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 54 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 36 chap)
12. Nick Tompkins (Saraseniaid – 32 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 14 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 8 cap)
9. Gareth Davies (Scarlets – 74 cap)
1. Corey Domachowski (Caerdydd – 6 chap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 38 cap)
3. Leon Brown (Dreigiau – 23 chap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 12 cap) Capten
5. Adam Beard (Gweilch – 51 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 9 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 13 chap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 43 chap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dreigiau – 46 chap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 2 gap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 1 cap)
20. Alex Mann (Caerdydd – heb gap)
21. Tomos Williams (Caerdydd – 53 chap)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 2 gap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 6 chap)

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Rhino Rugby
Sportseen
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban
Amber Energy
Opro
Jenkins i arwain tîm cyffrous Cymru yn erbyn Yr Alban