News

Gwynebu'r Gwyddelod yn cyffroi Gareth

Bydd Gareth Thomas yn hen ben ymysg carfan ifanc Cymru.

Bydd Cymru yn awchu at y sialens o wynebu’r Gwyddelod ddydd Sadwrn, er nad ydynt wedi ennill yn Nulyn ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012. 

Mae grym blaenwyr Iwerddon wedi bod yn hynod amlwg ac effeithiol yn ystod eu dwy gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth eleni a bydd y frwydr yn y rheng flaen rhwng Gareth Thomas a Tadhg Furlong yn un o’r rhai allweddol yn Stadiwm Aviva. 

Gyda 38 buddugoliaeth yn eu 40 gêm gartref ddiwethaf, mae tipyn o dasg yn wynebu’r Cymry ond mae prop y Gweilch yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur a’r her ar dir Iwerddon y penwythnos hwn.

Dywedodd Gareth Thomas, fydd yn cynrychioli ei wlad am yr 28ain tro ddydd Sadwrn: “Ry’n ni’n siomedig ein bod wedi colli’r ddwy gêm gyntaf o gyfanswm o driphwynt yn unig – pethe’ bach iawn sy’n golygu ein bod wedi colli dwy yn hytrach nac ennill dwy hyd yn hyn.

“Dyle’r Gwyddelod deimlo’n hyderus gyda’r ffordd maen nhw’n yn chware’ ond maen rhaid i ni beidio â gadael iddyn nhw chware’ eu steil arferol.

“Fydd hynny ddim yn rhwydd i’w wneud gan mai nhw yw un o dime’ gore’r byd wrth gwrs.

“I fod yn onest – ‘dyw Cymru heb roi gwir sialens i Iwerddon dros y blynydde’ diwethaf ac felly mae’n rhaid i ni ddechre’r gêm yn dda a chynnig her iddyn nhw o’r dechre’.

“Os nad y’n ni’n gwneud hynny – fe all hi fod yn brynhawn anodd gan y bydd Iwerddon yn ceisio rheoli’r chware’ a gwneud pethe’n anodd i ni yn ein hanner ein hunen.

“Mae pawb yn gwybod bod ein carfan yn ifanc ar hyn o bryd. Mae wastad yn anodd colli aelodau profiadol o’r garfan ond mae’r chwaraewyr ifanc yn datblygu bod dydd a dy’n nhw ddim yn ofni mynd i Ddulyn.”

Related Topics

Blaenwyr
Chwe Gwlad
International Tournaments CYM
Newyddion
Player
Rhagolwg Gêm
Rhanbarthol
Y Gweilch
News