Neidio i'r prif gynnwys
Coaches

Mae Siwan Lillicrap a Richie Pugh wedi enwi eu carfanau o Dan 18.

Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn

Mae’r Chwe Gwlad wedi cyhoeddi heddiw y bydd Gŵyliau o Dan 18 ar gyfer Dynion a Merched yn cael eu cynnal ym Mharma yn Yr Eidal a Bae Colwyn yng Nghymru y Gwanwyn hwn.

Rhannu:

Dyma fydd y trydydd tro i’r gŵyliau hyn gynnwys y Chwe Gwlad traddodiadol – ond bydd Georgia a Phortiwgal yn cymryd rhan yn nigwyddiad y Dynion y tro hwn hefyd.

Bydd y gŵyliau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i dalentau ifanc y gwledydd i gael blas o’r llwyfan rhyngwladol yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Felly hefyd hyfforddwyr a dyfarnwyr – fydd yn berthnasol i gynrychiolwyr Portiwgal a Georgia yn y digwyddiad yn Yr Eidal.

DFP – Leaderboard

Bydd fframwaith taclo’r gêm gymunedol yn weithredol yn y ddwy ŵyl a bydd modd gwylio’r gemau ar sianeli’r Chwe Gwlad.

Stadio Sergio Lanfranchi,Parma fydd yn cynnal pumed gŵyl y Dynion o dan 18 a bydd y tocynnau ar gyfer yr holl gemau ar gael am ddim. (30ain o Fawrth, 3ydd o Ebrill a’r 7fed o Ebrill).

Bydd pob tîm yn chwarae 1 gêm 70 munud o hyd ar y diwrnod cyntaf gyda phedair gornest yn digwydd bob dydd.

Stadiwm CSM, Bae Colwyn fydd yn cynnal trydedd gŵyl y Merched o Dan 18 – y tro cyntaf i Gymru groesawu’r digwyddiad.

Bydd pob tîm yn chwarae dwy gêm 35 munud o hyd ar ddau ddiwrnod cystadleuol cyntaf yr ŵyl – cyn chwarae 1 gêm 70 munud ar y trydydd diwrnod o gystadlu.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y tridiau (29ain o Fawrth, 2il o Ebrill & 6ed o Ebrill) am bris o £10 i oedolion a £5 i rai o dan 16 oed.

Yn ystod gŵyl y Merched bydd y defnydd o bêl maint 4.5 yn cael ei dreialu am y tro cyntaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyliau y Chwe Gwlad o Dan 18, Julie Paterson:

“Mae’r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig yn natblygiad ein chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a’n staff cynorthwyol. Maen nhw’n cynnig profiad gwerthfawr o ddiwrnod gêm ar y lefel rhyngwladol yn ogystal â chynnig y cyfle i’r chwaraewyr addawol hyn ddangos eu doniau.

“Bydd y gŵyliau’n digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol ac maen nhw’n brawf o ymrwymiad y Chwe Gwlad i gynnig llwybr clir ac effeithiol i gyrraedd y prif lwyfan rhyngwladol. ‘Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu estyn croeso i Bortiwgal a Georgia i ddigwyddiad y Dynion. Bydd y gwledydd hynny a’r Chwe Gwlad arall yn elwa o’u presenoldeb.

“Hoffwn ddiolch i’r Undebau yn Yr Eidal ac yng Nghymru am gynnal y digwyddiadau pwysig yma’r Gwanwyn hwn.”

Dywedodd Llywydd Under Yr Eidal (FIR) Marzio Innocenti:  “Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn natblygiad chwaraewyr y dyfodol. Mae’n stadiwm yn cynnal gemau cartref Zebre a thîm rhyngwladol ein Menywod ac felly mae’n lleoliad addas i greu cysylltiadau newydd a chreu atgofion oes.”

Ychwanegodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru:” Ry’n ni’n hynod o falch bod y Chwe Gwlad wedi dewis Bae Colwyn i gynnal gŵyl y Merched eleni.

“Mae gennym brofiad helaeth o gynnal digwyddiadau pwysig yng Ngogledd Cymru ac ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu parhau i gydweithio gyda Chyngor Conwy. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt unwaith eto am eu cefnogaeth.

“Mae Rygbi Gogledd Cymru yn feithrinfa gampus i rygbi Merched a Menywod. Mae 12 o ferched newydd gael eu dewis yng ngharfan estynedig o Dan 18 Cymru.

“Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn llwybr datblygu ein merched ifanc a bydd y gemau’n cynnig cyfle gwirioneddol i’r chwaraewyr brofi eu hunain yn erbyn goreuon Ewrop ar y lefel yma.”

Gemau Gŵyl y Merched
Diwrnod 1 (Gwener 29ain Mawrth) (Gemau 35mun)
12:00 Lloegr v Iwerddon
13:00 Yr Eidal v Lloegr
14:00 Iwerddon v Yr Eidal
15:00 Ffrainc v Yr Alban
16:00 Cymru v Ffrainc
17:00 Yr Alban v Cymru

Diwrnod 2 (Mawrth 2il Ebrill) (Gemau 35mun)
12:00 Cymru v Iwerddon
13:00 Iwerddon v Ffrainc
14:00 Lloegr v Cymru
15:00 Ffrainc v Yr Eidal
16:00 Yr Alban v Lloegr
17:00 Yr Eidal v Yr Alban

Diwrnod 3 (Sadwrn 6ed Ebrill) (Gemau 70mun)
12:00 Ffrainc v Lloegr
14:15 Cymru v Yr Eidal
16:30 Yr Alban v Iwerddon

Gemau Gŵyl y Dynion
Diwrnod 1 (Sadwrn 30ain Mawrth)
11:00 – Georgia v Yr Alban
13:15 – Yr Eidal v Portiwgal
15:30 – Iwerddon v Ffrainc
17:45 – Lloegr v Cymru

Diwrnod 2 (Mercher 3ydd Ebrill)
11:00 – Cymru v Portiwgal

13:15 – Yr Alban v Lloegr
15:30 – Georgia v Ffrainc
17:45 – Yr Eidal v Iwerddon

Diwrnod 3 (Sul 7fed Ebrill)
11:00 – Portiwgal v Iwerddon
13:15 – Ffrainc v Cymru
15:30 – Lloegr v Georgia
17:45 – Yr Alban v Yr Eidal

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Rhino Rugby
Sportseen
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
Amber Energy
Opro
Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn