Neidio i'r prif gynnwys
Wales

Bydd un newid i'r XV fydd yn dechrau yn erbyn Iwerddon.

Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, yn Stadiwm Aviva, Dulyn ddydd Sadwrn y 24ain o Chwefror (2.15 yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Mae un newid o’r pymtheg ddechreuodd y gêm yn erbyn Lloegr yn Nhwickenham ar y 10fed o Chwefror – gyda Sam Costelow yn dychwelyd i safle’r maswr.

Ymhlith yr eilyddion, mae’r chwaraewr rheng ôl Mackenzie Martin wedi ei gynnwys – ac os caiff ei alw o’r fainc, ef fydd y 1,200fed chwaraewr i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

DFP – Leaderboard

Mae’r prop pen tynn profiadol Dillon Lewis wedi ei ddewis ar y fainc hefyd ac yn debygol o chwarae ei ran am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni os y caiff ei alw i’r maes.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Ddulyn er mwyn profi’n hunain yn erbyn un o dimau gorau’r byd. Bydd hi’n her a hanner – ond mae’r garfan yn awchu i wynebu’r her honno.

“Ry’n ni wedi cymryd camau pendant i’r cyfeiriad cywir yn ystod yr wythnosau diwethaf – ac mae’n rhaid i ni ddysgu o brofiadau’r ddwy gêm gyntaf ac adeiladu ar hynny y penwythnos hwn.

“Mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed, bod yn glinigol a chywir yn ein chwarae, cadw’n disgyblaeth a pherfformio am yr 80 munud.”

Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Aviva, Dulyn ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, ddydd Sadwrn 24ain o Chwefror, 2.15pm yn fyw ar S4C ac ITV.

15 Cameron Winnett (Caerdydd – 2 gap)
14 Josh Adams (Caerdydd – 56 chap)
13 George North (Gweilch – 119 cap)
12 Nick Tompkins (Saraseniaid – 34 cap)
11 Rio Dyer (Dreigiau – 16 chap)
10 Sam Costelow (Scarlets – 9 cap)
9 Tomos Williams (Caerdydd – 55 cap);
1 Gareth Thomas (Gweilch – 27 cap)
2 Elliot Dee (Dreigiau – 48 cap)
3 Keiron Assiratti (Caerdydd – 4 cap)
4 Dafydd Jenkins (Caerwysg – 14 cap) Capten
5 Adam Beard (Gweilch – 53 chap)
6 Alex Mann (Caerdydd – 2 gap)
7 Tommy Reffell (Caerlŷr – 15 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 45 cap)

Eilyddion
16 Ryan Elias (Scarlets – 40 cap)
17 Corey Domachowski (Caerdydd – 8 cap)
18 Dillon Lewis (Harlequins – 54 cap)
19 Will Rowlands (Racing 92 – 30 cap)
20 Mackenzie Martin (Caerdydd – heb gap)
21 Kieran Hardy (Scarlets – 19 cap)
22 Ioan Lloyd (Scarlets – 4 cap)
23 Mason Grady (Caerdydd – 8 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod
Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gatland yn gwneud un newid i herio’r Gwyddelod