Neidio i'r prif gynnwys
Steffan Emanuel

Steffan Emanuel will captain Wales U18s against Scotland U18s

Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban

Mae Prif Hyfforddwr o dan 18 Cymru, Richie Pugh wedi enwi ei dîm i wynebu’r Alban yn Ystrad Mynach ddydd Sul y 3ydd o Fawrth (2.30pm).

Rhannu:

Mae tîm Datblygu o dan 18 hefyd wedi ei ddewis er mwyn herio’r Albanwyr mewn gêm fydd yn codi’r llen ar brif ornest y prynhawn. Bydd y gêm rhwng y timau Datblygu yn dechrau am 12.30pm.

Dywedod Richie Pugh: “Mae’n wych ein bod yn gallu gwylio 46 o chwaraewyr yn cynrychioli ein gwlad mewn un diwrnod a bydd yn achlysur arbennig i nifer o’r bechgyn fydd yn gwisgo’r crys coch am y tro cyntaf erioed.

DFP – Leaderboard

“Ry’n ni eisoes wedi trafod pwysigrwydd datblygiad y chwaraewyr yma drwy Gynghrair yr Ysgolion a’r Colegau i mewn i’r Rhanbarthau. Mae gennym gyfle arbennig wrth adeiladu tuag at Ŵyl y Chwe Gwlad yn Parma – a bydd herio’r Alban yn gam allweddol yn ein paratoadau.

Steff Emanuel, sydd wedi ail-ymuno â Chaerdydd, sydd wedi ei enwi’n gapten.

Ychwanegodd Richie Pugh: “Mae’n wych cael profiad Steff yn ôl gyda ni ac mae wedi bod yn perfformio’n gampus gyda Millfield a Chaerfaddon yn ddiweddar. ‘Roedd yn amlwg iawn yn y Chwe Gwlad y llynedd hefyd wrth gwrs.

“Mae’n cael ei barchu’n fawr gan y bechgyn eraill a bydd yn ffynnu ar y cyfrifoldeb o arwain y tîm.”

Dim ond 26 o chwaraewyr fydd yn cael eu dewis yn y pendraw ar gyfer y garfan fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Chwe Gwlad, fydd yn gweld y Cymry’n herio Lloegr, Portiwgal a Ffrainc yn Yr Eidal rhwng Mawrth y 30ain ac Ebrill y 7fed.

“Mae gan bob un o’r bechgyn fydd yn cymryd rhan yn y ddwy gêm ddydd Sul yma obaith o ddal ein llygad. Tydi aelodau’r tîm Datblygu ddim yn bell ar ei hôl hi o gwbl.

“Os edrychwch chi ar gêm y tîm o dan 20 yng Nghorc nos Wener ddiwethaf – ‘roedd rhai bechgyn yn y tîm hwnnw fethodd ag ennill cap o dan 18. Dwi’n gwybod y bydd nifer o’n bechgyn ni yn siomedig na fyddan nhw’n ennill cap wrth chwarae yn y brif gêm ddydd Sul – ond mae cyfleoedd pellach ar y llwyfan rhyngwladol yn bosib i’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y gêm Ddatblygu.

“Roedd Cynghrair yr Ysgolion a’r Colegau’n gystadleuaeth dda eleni ac mae’r cystadlaethau rhanbarthol hefyd wedi bod yn gystadleuol – fel pob un o’n sesiynau ymarfer gyda’r garfan. ‘Ry’n ni mewn lle da ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at y penwythnos yn fawr.”

Cymru o dan 18 v Yr Alban o dan 18, Sul 3ydd o Fawrth, Ystrad Mynach, 2.30pm
15 Jack Woods (Dreigiau)
14 Tom Bowen (Bryste)
13 Lewis Edwards (Gweilch)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd – capt)
11 Joseff Jones (Caerdydd)
10 Carwyn Jones (Scarlets)
9 Siôn Davies (Caerdydd);
1 Dylan James (Gweilch)
2 Ruben Cummings (Caerloyw)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Sam Williams (Scarlets)
5 Dylan Alford (Rygbi Gogledd Cymru)
6 Dom Kossuth (Scarlets)
7 Ryan Jones (Dreigiau)
8 Deian Gwynne (Scarlets)

Eilyddion
16 Thomas Howe (Caerdydd)
17  George Tuckley (Dreigiau)
18 Alex Bosworth (Caerloyw)
19 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
20 Caio James (Caerloyw)
21 Tudur Jones (Rygbi Gogledd Cymru)
22 Steff Jac Jones (Scarlets)
23 Jack Harrison (Carfaddon)

Tîm Datblygu Cymru o dan 18 v Tîm Datblygu Yr Alban o dan 18, Sul 3ydd o Fawrth, Ystrad Mynach, 12.30pm
15 Ben Roberts (Caerdydd)
14 Jac Wyn Roberts (Rygbi Gogledd Cymru)
13 Osian Darwin Lewis (Caerdydd)
12 David-Florian Petrescu (Gorllewin Canolbarth Lloegr)
11 Oliver Das (Caerdydd)
10 Lloyd Lucas (Caerdydd)
9 Nick Fisk-Jones (Gweilch);
1 Dylan Barratt (Caerdydd)
2 Evan Gallagher (Caerfaddon)
3 Codi Purnell (Caerfaddon)
4 Dylan Hodkinson (Sale)
5 Osian Williams (Scarlets)
6 Cerrig Smith (Dreigiau)
7 Evan Minto (Dreigiau – Capt)
8 Charlie Ward (Caerfaddon)

Eilyddion
16 Oscar Thomas (Llundain & De Canolbarth Lloegr)
17 Greg Thomas (Rygbi Gogledd Cymru)
18 Nathan Davies (Scarlets)
19 Noah Williams (Gweilch)
20 Alex Ridgway (Scarlets)
21 Carter Pritchard (Dreigiau)
22 Math Jones (Harlequins)
23 Ioan Penry (Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban
Amber Energy
Opro
Cymru’n enwi dau dîm o dan 18 i herio’r Alban