Neidio i'r prif gynnwys
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad

Prif Hyfforddwr Menywod Cymru Ioan Cunningham

Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi enwi carfan estynedig o 47 wrth baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024.

Rhannu:

Bydd y garfan yn ymgynnull am dridiau wrth i Cunningham benderfynu pwy fydd yn hawlio’u lle yn ei garfan derfynol ar gyfer y Bencampwriaeth, fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth.

Llwyddodd Ioan Cunningham a’i garfan orffen yn drydydd yn y Chwe Gwlad y llynedd cyn cystadlu yn y WXV1 cyntaf erioed yn Seland Newydd – cystadleuaeth oedd yn cynnwys chwe thîm gorau’r byd.

DFP – Leaderboard

Bydd gêm agoriadol Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn digwydd ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ddydd Sadwrn y 23ain o Fawrth pan fydd tîm Yr Alban yn ymweld â’r Brifddinas.

Tocynnau ar gael yma:  https://www.eticketing.co.uk/principalitystadium/Events

Mae mwyafrif llethol y garfan deithiodd i Seland Newydd wedi eu cynnwys unwaith eto yn y garfan ddiweddaraf hon ac mae’r chwaraewyr ail-reng Natalia John a Gwen Crabb wedi eu cynnwys hefyd yn dilyn anafiadau heriol.

Mae cyn gapten o dan 20 Lloegr, Jenny Hesketh, wedi ei chynnwys yn y garfan hefyd. Mae ei mam yn Gymraes ac felly mae cefnwr Bryste’n gymwys i gael ei chynnwys.

Yn dilyn perfformiadau o safon yn yr Her Geltaidd – mae nifer o wynebau newydd eraill wedi eu dewis hefyd ac mae ambell chwaraewr cyfarwydd yn dychwelyd i’r garfan yn ogystal.

Wedi cyfnod o beidio â chael eu cynnwys yn y garfan ryngwladol, mae Shona Wakley a Rebecca De Filippo, wedi dal llygad y tîm hyfforddi yn dilyn eu perfformiadau diweddar dros Brython Thunder a Gwalia Lightning.

Mae’r wythwr Wakely eisoes wedi ennill 45 o gapiau dros ei gwlad tra bod y canolwr De Filippo wedi cynrychioli Cymru ar 26 achlysur hyd yn hyn.

Mae naw o wynebau newydd o garfan Gwalia Lightning wedi eu dewis gan gynnwys y chwaraewr rheng ôl o Awstralia Tess Evans. Mae’r mewnwr Sian Jones a’r wythwr addawol Gwennan Hopkins hefyd wedi eu cydnabod am eu perfformiadau yn yr Her Geltaidd

Dywedodd Ioan Cunningham: “Ry’n ni wedi dewis carfan fwy na’r arfer i asesu ble ry’n ni ar y foment ac mae’n gyfle i ni wobrwyo ambell un sydd wedi dal ein llygad yn ystod yr Her Geltaidd.

“Mae’n gyfle i’r hyfforddwyr a’r staff i gael golwg fanylach ar yr holl chwaraewyr mewn awyrgylch broffesiynol. I’r rhai sydd â’r awydd a’r angerdd gwirioneddol hwnnw i chwarae dros Gymru ar y llwyfan rhyngwladol – bydd hyn yn gyfle i ddangos iddyn nhw beth yw’r safonau ry’n ni y neu disgwyl ar y cae ac oddi arno.

“Mae diwylliant ac undod ein carfan yn bwysig ac mae hyn hefyd yn gyfle i rannu hynny gyda phawb – gan ddangos hefyd ble ry’n ni’n anelu tuag ato ar y llwyfan rhyngwladol.

“Ry’n ni’n dechrau creu gwir gystadleuaeth am safleoedd ac mae’r Her Geltaidd wedi cynnig amser gwerthfawr ar y cae i nifer o chwaraewyr.

“Mae safon y gemau cystadleuol hynny hefyd wedi bod yn arbennig o werthfawr.

“Bydd y tridiau gyda’n gilydd yn heriol i aelodau’r garfan – ond mae gwisgo’r crys coch yn fraint aruthrol – ac mae angen gweithio’n galed er mwyn haeddu’r cyfle hwnnw.

“Mae’n amser i ni edrych ymlaen bellach a chanolbwyntio ar Bencampwriaeth Chwe Gwlad eleni. Mae’n argoeli i fod yn hynod o gyffrous.”

Carfan Estynedig Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad:

Olwyr: Nel Metcalfe, Lisa Neumann, Hannah Jones, Hannah Bluck, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan, Courtney Keight, Carys Williams-Morris, Meg Webb, Kerin Lake, Robyn Wilkins, Meg Davies, Amelia Tutt, Niamh Terry, Ffion Lewis, Jenny Hesketh, Kelsey Webster, Rebecca De Filippo, Cath Richards, Sian Jones, Ellie Tromans

Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Kate Williams, Alex Callender, Bethan Lewis, Abbey Constable, Kelsey Jones, Donna Rose, Natalia John, Gwen Crabb, Alisha Butchers, Cerys Hale, Bryonie King, Chloe Thomas-Bradley, Molly Reardon, Jenni Scoble, Alaw Pyrs, Maisie Davies, Tess Evans, Gwennan Hopkins, Shona Wakley, Cadi-Lois Davies.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Rhino Rugby
Sportseen
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad
Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi carfan estynedig ar gyfer y Chwe Gwlad