Neidio i'r prif gynnwys
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc

Mae breuddwyd Iwerddon o ennill tair Camp Lawn o'r bron dal yn fyw.

Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc

O ystyried nad oedd Iwerddon wedi colli gêm yn y Chwe Gwlad ar y lefel yma ers y 23ain o Chwefror 2018 – doedd hi’n ddim syndod i Gymru golli o 43-8 yng Nghorc.

Rhannu:

Wedi tair gêm o’r Bencampwriaeth eleni – mae’r Gwyddelod yn dal i lygadu trydedd Camp Lawn yn olynol wedi iddynt groesi am chwe chais yn erbyn Cymry ifanc Richard Whiffin.

Er bod Cymru’n gobeithio gwneud i’r Gwyddelod brofi colled yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf mewn tair gêm ar ddeg yn erbyn y pum gwlad arall – y tîm cartref oedd yn haeddu’r fuddogoliaeth o flaen torf swmpus, swnllyd a gwlyb yng Nghorc.

DFP – Leaderboard

Cyn y gêm, fe ddywedodd Richard Whiffin bod angen i’w dîm wella’n sylweddol yn y chwarae gosod ac fe amlygodd y Gwyddelod eu cryfder yn yr agweddau hynny o’r chwarae yn ystod y 7 munud agoriadol. Arweiniodd y pwysau gan Iwerddon at gic gosb hawdd i Jack Murphy ac fe lwyddodd y maswr i agor y sgorio gyda’i ymdrech gyntaf o’r noson.

Yn union o’r ail-ddechrau dangoswyd cerdyn melyn i fachwr y Scarlets Harry Thomas am dacl anghyfreithlon. Fe chwaraeodd y Cymry’n ddeallus am y munudau canlynol ac fe holltodd Harri Wilde y pyst gyda chic gosb gampus i wneud pethau’n gyfartal gyda bron i chwarter awr ar y cloc.

Lai na munud cyn i Thomas ddychwelyd i’r maes, fe gadwodd y Gwyddelod bethau’n dynn ymysg eu blaenwyr a chanlyniad hynny oedd i’r blaen-asgellwr lleol o dalaith Munster, Sean Edogbo groesi o dan y pyst am gais cynta’r ornest. Mater hawdd oedd i Murphy ychwanegu deubwynt pellach i’w gwneud hi’n 10-3.

Cafwyd ergyd bellach i obeithion yr ymwelwyr toc wedi hanner awr o chwarae, pan orfodwyd y maswr Harri Wilde i adael y maes o ganlyniad i anaf i’w goes – ac yn greulon o hwyr yn y cyfnod cyntaf croesodd y canolwr Hugh Gavin ail gais y Gwyddelod o’r noson.

Manteisiodd Murphy’n llawn ar yr ergyd seicolegol drom honno wrth ymestyn mantais y tîm cartref i 14 pwynt gyda digwyddiad olaf yr hanner agoriadol.

Sgôr ar yr Egwyl Iwerddon 17 Cymru 3

Er bod y Cymry wedi hawlio bron i hanner y meddiant yn ystod y 40 munud agoriadol – fe ildiodd yr ymwelwyr wyth o giciau cosb o’i gymharu â dwy’r Gwyddelod.

Byddai gwella eu disgyblaeth wedi bod yn ganolog i bregeth hanner amser Richard Whiffin – ond ildiwyd tair cic gosb bellach yn ystod pum munud goriadol yr ail hanner.  Llwyddodd y bachwr Henry Walker i fanteisio ar y drydedd drosedd honno a doedd dim ffordd yn ôl i’r Cymry wedi hynny.

Parhau wnaeth cicio perffaith Murphy i sicrhau mantais o un pwynt ar hugain i’w dîm.

Dangosodd y Cymry ifanc gryn ddycnwch wrth barhau i geisio lledu’r bêl ac wedi i’r eilydd o faswr Harri Ford redeg a bylchu’n wych yn ddwfn o’i hanner ei hun – fe gyflwynodd gais ar blât i’r mewnwr bywiog Ieuan Davies wedi 52 munud.

Ieuan Davies yn croesi am unig gais Cymru o’r noson

Serch hynny, cryfder blaenwyr Iwerddon oedd y prif wahaniaeth yn y pendraw a doedd hi’n ddim syndod gweld yr eilydd o fachwr Danny Sheahan yn tirio pedwerydd cais ei dîm wedi awr o chwarae i ail sefydlu goruchafiaeth y Gwyddelod ac i hawlio’r pwynt bonws hefyd.

Ychwanegodd Murphy ddeubwynt pellach a thra bod yr eilydd o fachwr Evan Wood yn ôl y eistedd ar y fainc am 10 munud wedi iddo weld cerdyn melyn – fe hawliodd eilydd o fachwr Iwerddon, Danny Sheahan ei ail gais o’r gêm.

Parhau i gadw’u troed ar y sbardun wnaeth y Gwyddelod – a gydag 8 munud yn weddill croesodd y cefnwr Ben O’Connor yng nghysgod y pyst am yr olaf o chwe chais ei dîm.

Breuddwydion Iwerddon am drydedd Camp Lawn yn olynol yn dal yn fyw – a thrydedd colled Richard Whiffin a’i dîm ers i’r hyfforddwr newydd gymryd yr awennau. Bydd Whiffin a’i garfan yn gobeithio am dro ar fyd yn erbyn Ffrainc ymhen llai na phythefnos.

Sgôr Terfynol Iwerddon 43 Cymru 8

Yn dilyn y chwiban olaf, dywedodd sgoriwr unig gais Cymru o’r noson, Ieuan Davies: “Fi’n credu bod y sgôr ychydig yn garedig iddyn nhw. Mae llawer o waith gennym ni i’w wneud ond mae lot o bethe positif i ni weithio arnyn nhw cyn i ni chware dwy gêm gartref.”

Iau 7 Mawrth, Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.45pm

Gwener 15 Mawrth, Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.30pm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Rhino Rugby
Sportseen
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc
Amber Energy
Opro
Colled drom i’r Cymry ifanc yng nglaw trwm Corc