Neidio i'r prif gynnwys
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib

Bydd Dafydd Jenkins yn arwain ei wlad am y trydydd tro ddydd Sadwrn.

Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib

Gan bod capten Cymru Dafydd Jenkins eisoes wedi ennill yn erbyn tîm Gwyddelig y tymor hwn mae’n edrych ymlaen yn fawr at yr ornest yn Stadiwm Aviva brynhawn yfory.  

Rhannu:

‘Roedd Jenkins yn rhan o dîm Caerwysg gurodd Munster o 32-24 yng Nghwpan Ewrop fis Rhagfyr.  

Mae capten Cymru nawr yn gobeithio mai tro ei wlad yw sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod. 

DFP – Leaderboard

Dywedodd Dafydd Jenkins, fydd yn arwain ei wlad am y trydydd tro ddydd Sadwrn: “Mae wynebu Iwerddon yn Nulyn yn sialens enfawr. Nhw yw’r tîm gorau yn y byd ar hyn o bryd, ond gallwn ni fynd yno a chwarae heb fawr o bwysau ar ein hysgwyddau. 

“Gallwn ni yn sicr achosi sioc. ‘Ry’n ni’n hyderus fod gennym ni siawns o ennill, ond mi fydd hi’n anodd iawn wrth gwrs.” 

Nid yw Cymru wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Nulyn ers 2012 ac mae’r ffaith fod Cymru ar rediad o golli 9 o’u 10 gêm ddiwethaf yn y Chwe Gwlad – yn golygu fod ganddynt fynydd i’w ddringo. 

Ychwanegodd Jenkins: “Os y’n ni’n gadael popeth ar y cae, gall unrhyw beth ddigwydd. Ry’n ni’n gweithio yn arbennig o galed er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ni ennill y gêm. 

“Chwarae teg i Iwerddon, maen nhw’n dîm ardderchog sy’n ymfalchio eu bod yn gryf yn ardal y dacl yn enwedig – ac ry’n ni wedi gweithio’n galed ar hynny trwy gydol yr wythnos.  

“Mi fydd wynebu pac Iwerddon yn sialens a hanner, ond fi’n edrych ymlaen yn arw.” 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Capten Cymru yn credu bod curo’r Gwyddelod yn bosib