Neidio i'r prif gynnwys
Brython Thunder yn ennill am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd

Daeth cadarnhad mai yn haen îs gemau ail-gyfle yr Her Geltaidd y bydd y ddau dîm o Gymru yn chwarae yr wythnos nesaf, wrth i Gwalia Lightning golli o 36-24 yn erbyn y Wolfhounds.

Rhannu:

Roedd gobeithion Brython Thunder o gyrraedd yr haen uchaf eisoes wedi pylu cyn y penwythnos hwn, ond cafwyd perfformiad da ganddynt wrth iddyn nhw guro Glasgow o 22 i 12 yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn– gan hawlio eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gystadleuaeth.

Seliwyd y canlyniad hir-ddisgwyliedig i’r Cymry gan Alex Callender garlamodd dros y llinell gais yn y munudau olaf am yr olaf o bedwar cais ei thîm. Honno oedd ail gais y capten o’r prynhawn. Seren Singleton ac Amy Williams groesodd y gwyngalch am y ddau gais arall.

DFP – Leaderboard

Tiriodd Roma Fraser am ddau gais i Glasgow.

Er gwaethaf y canlyniad calonogol yn y gogledd, siom gafodd Gwalia Lightning yn Nulyn wrth i dîm cryfaf y gystadleuaeth, y Wolfhounds, ennill am y pumed tro mewn pum gêm.  36 i 24 oedd y canlyniad – ac wrth hawlio’r fuddugoliaeth – fe hawliodd y Gwyddelod chwe chais yn y broses

Sgoriodd Gwalia bedwar cais eu hunain gan hawlio pwynt bonws o’r herwydd. Katie Thicker, Jenna de Vera, Caitlin Lewis a Rebecca de Filippo oedd yn gyfrifol am y ceisiau hynny.

Alex Callender yn croesi am ei hail gais o’r ornest

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Brython Thunder yn ennill am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Brython Thunder yn ennill am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd
Brython Thunder yn ennill am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Brython Thunder yn ennill am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro