News

Amber Stamp-Dunstan wedi ei dewis ar gyfer y Chwe Gwlad

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae Amber Stamp-Dunstan wedi ei dewis yn un o bedwar swyddog fydd yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad am y tro cyntaf eleni.

Mae’r Gymraes wedi ei dewis i gynorthwyo Maggie Cogger-Orr o Seland Newydd fydd yn y canol yn y Stadio Sergio Lanfranchi ym Mharma wrth i’r Eidal herio’r Alban ddydd Sadwrn yr 20fed o Ebrill.

Bydd cyfanswm o naw o ddyfarnwyr a dyfarnwyr cynorthwyol – o wyth o wledydd gwahanol – yn gofalu am y 15 gêm brawf yn ystod y Bencampwriaeth.

Kat Roche (UDA) fydd yn dyfarnu’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc ac Iwerddon yn Le Mans ar y 23ain o Fawrth.

Bydd Maggie Cogger-Orr yn y canol ar gyfer gornest olaf y Bencampwriaeth pan fydd Lloegr yn teithio i wynebu’r Ffrancod yn Bordeaux ar y 27ain o Ebrill.

Bydd Cogger-Orr, Sara Cox (Lloegr), Hollie Davidson (Yr Alban), Aurélie Groizeleau (Ffrainc), Clara Munarini (Yr Eidal) a Roche yn dyfarnu dwy gêm yr un yn ystod y Bencampwriaeth.

Bydd Natarsha Ganley (Seland Newydd) yn gyfrifol am ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad pan fydd Iwerddon yn croesawu’r Alban i Stadiwm Kingspan ar y 27ain o Ebrill.

Bydd y profiadol Joy Neville (Iwerddon) yn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol wedi iddi ddyfarnu’r gêm rhwng Ffrainc a’r Eidal ym Mharis ar y 14eg o Ebrill.

 

Related Topics

Chwe Gwlad
International Tournaments CYM
Newyddion
Newyddion Menywod Cymru
News