Gyda thridiau i fynd nes gêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, mae’r chwaraewr rheng-ôl amryddawn, Aaron Wainwright, yn edrych ymlaen at chwarae dros ei wlad eto.
Mae hi’n debygol mai Wainwright fydd yn cipio crys yr wythwr yn ei chweched ymgyrch Chwe Gwlad, ac mae’n awchu am y cyfle hwnnw unwaith eto.
“Heb os, mae’n well gen i chwarae yn safle’r wythwr.
“Mi alla’i chwarae rhif chwech wrth gwrs ond ‘rwy’n mwynhau cael y rhif wyth ar fy nghefn.”
Mae eisoes wedi ennill Camp Lawn, dwy Bencampwriaeth Chwe Gwlad, ac mae wedi chwarae yn nwy ymgyrch ddiwethaf Cymru yng Nghwpan y Byd hefyd. Hynny oll ar ôl dysgu ei grefft gyda’r Dreigiau, lle mae newydd arwyddo estyniad ar ei gytundeb.
Yn ogystal â bod yn un o hoelion wyth ei ranbarth, mae wedi tyfu i fod yn ffigwr dylanwadol a phoblogaidd yng ngharfan Warren Gatland hefyd.
Yn fachgen â’i draed ar y ddaear, fe gyfaddefodd Wainwright ei fod yn “falch” o gael ei ddewis eto ar gyfer ymgyrch arall gyffrous yng nghrys coch Cymru.
“Rwyf wedi gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf ac roedd cael fy enwi yn y garfan eto yn fraint enfawr.
“Ry’n ni gyd yn gwthio ein gilydd yn ei sesiynau ymarfer, ac mae pawb wedi dysgu’n union beth sydd angen i ni ei wneud.
“Ry’n ni’n disgwyl gêm arbennig o galed gan flaenwyr Yr Alban ddydd Sadwrn, felly bydd yn rhaid i ni aros yn ddisgybledig trwy’r 80 munud er mwyn sicrhau buddugoliaeth – a dyna’n union beth ry’n ni’n bwriadu ei wneud.”