Neidio i'r prif gynnwys
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru

26.12.23 - Tomos Williams yn ei chanol hi'n erbyn y Dreigiau.

Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru

Bydd mewnwr Cymru Tomos Williams yn gadael Caerdydd ac yn ymuno gyda Chaerloyw ddiwedd y tymor hwn.

Rhannu:

Bydd Williams, sydd bellach yn 29 oed, yn symud i Kingsholm cyn dechrau tymor 2024/25. Gan ei fod eisoes wedi ennill 53 o gapiau rhyngwladol – bydd dal yn gymwys i gynrychioli Cymru wedi iddo groesi’r ffin.

Mae Prif Hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt yn drist ei fod yn colli gwasanaeth y mewnwr dawnus ddiwedd y tymor – ond yn dymuno’r gorau i Williams yng Nghaerloyw.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Sherratt: “Bydd Tomos yn gadael bwlch mawr ar ei ôl gan ei fod yn chwaraewr gwych – ac yn chwaraewr lleol hefyd. Mae’n 29 oed erbyn hyn ac mae’n llawn haeddu’r cyfle i gael y profiad o chwarae rygbi mewn lle gwahanol.

“Bydd wastad croeso iddo yma yng nghlwb y brifddinas gan ei fod wedi bod yn allweddol wrth ystyried nifer o eiliadau cofiadwy ein clwb dros y blynyddoedd diwethaf.

“O safbwynt personol – mae hi wedi bod yn fraint tystio datblygiad Tomos. Mae wedi dod drwy’r system yma gyda Gethin Jenkins, Nick Williams, Gareth Anscombe a’u tebyg – ac mae dylanwad y chwaraewyr hynny wedi bod yn werthfawr iawn yng nghyd-destun ei  yrfa.

“Ar hyn o bryd – gyda 53 o gapiau – mae Tomos un yn brin o gyfanswm Gareth Edwards o’i gyfnod ef gyda Chaerdydd.

“Mae’r ffaith y bydd dal yn gymwys i chwarae dros Gymru y tymor nesaf yn hynod o bwysig iddo.

“Mae’n berson hynod o gystadleuol – ac yn ddylanwad arbennig o dda yn yr ystafell newid. Mae wedi dweud wrthyf y gwnaiff bopeth o fewn ei allu i sicrhau bod addewid perfformiadau Caerdydd y tymor yma – yn troi i fuddugoliaethau cyn iddo adael.”

Gwnaeth Tomos Williams ei ymddangosiad cyntaf dros Gaerdydd fel eilydd yn erbyn Munster yn 2013 ac yn eironig fe sgoriodd gais allweddol yn erbyn Caerloyw yn Rownd Derfynol Cwpan Her Ewrop yn Bilbao yn 2018.

Mae hefyd wedi profi llwyddiant yng nghrys coch ei wlad wrth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 a 2021. Mae Williams hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tomos Williams am symud i Gaerloyw ond dal yn gymwys i Gymru