Neidio i'r prif gynnwys
Marw yr arwr JPR yn 74 oed

Llywydd Undeb Rygbi Cymru'n talu teyrnged i JPR

Marw yr arwr JPR yn 74 oed

Mae Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Terry Cobner, wedi talu teyrnged i un o arwyr mwyaf Rygbi Cymru – JPR Williams sydd wedi marw’n 74 oed.

Rhannu:

Bu Cobner yn gyd-chwaraewr gyda JPR wrth i garfan Cymru ennill y Gamp Lawn yn 1976 ac 1978, a’r Goron Driphlyg ym 1977  – ac mae wedi disgrifio’r cefnwr eigonig fel “un o’r chwaraewyr gorau i wisgo’r crys coch erioed.”

Ychwanegodd: “Mae’r byd rygbi wedi colli gwir arwr – dyn weddnewidiodd safle’r cefnwr a gŵr enillodd 55 o gapiau dros Gymru ac 8 dros y Llewod, dros gyfnod o 12 mlynedd.

DFP – Leaderboard

“Roedd yn graig wrth amddiffyn ac yn ysbrydoledig wrth ymosod. ‘Doedd colli neu fethu ddim yn rhan o’i eirfa na’i agwedd.

“Er ei fod wedi chwarae rygbi yn ystod y cyfnod amatur – ‘roedd ei agwedd wrth ymarfer ac wrth chwarae yn broffesiynol a digyfaddawd. Os oedd JPR yn eich tîm – ‘roedd wastad cyfle gennych i ennill y gêm.”

Wrth gadarnhau ei farwolaeth heddiw, dywedodd ei deulu: “Bu farw JPR yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd heddiw. ‘Roedd ei deulu – ei wraig gariadus a’i bedwar plentyn gydag ef hyd at y diwedd. Dioddefodd gyfnod byr o salwch ac fe frwydrodd yn ddewr yn erbyn bacteria llid yr ymennydd.

“Mae’r teulu’n gofyn yn garedig am y cyfle i alaru’n breifat ac mewn heddwch yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ganed John Peter Rhys Williams ym Mhenybont ar yr 2il o Fawrth 1949. Ym 1966 fe enillodd Bencampwriaeth Tenis Ieuenctid Prydain pan drechodd David Lloyd yn Wimbledon.

Serch hynny, ‘roedd yn chwaraewr rygbi hynod addawol hefyd ac fe chwaraeodd dros dîm o dan 19 Cymru cyn iddo ennill y cyntaf o’i 55 cap ym Murrayfield ym 1969 – ac yntau’n dal yn ei arddegau.

Fel ei dad, daeth yn lawfeddyg orthopaedig ac ym 1980 daeth yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Llawfeddygon.

Wrth iddo astudio meddygaeth yng Ngholeg St Mary’s yn Llundain – daeth i’r amlwg wrth chwarae rygbi dros Y Cymry yn Llundain – sef tîm gorau a mwyaf mentrus Prydain ar y pryd.

Dychwelodd i Benybont a bu’n aelod amlwg o’r tîm enillodd Gwpan Schweppes ym 1978 a 1979. Pan fu farw, ef oedd Llywydd y clwb yn ogystal.

‘Roedd JPR hefyd yn aelod anrhydeddus o Oriel Anfarwolion World Rugby ac  Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Dywedodd Terry Cobner: “Bydd teulu Rygbi Cymru’n ei gofio fel un o’n chwaraewyr gorau erioed. Mae ei 55 o gapiau, ei dair Camp Lawn a’i chwe Choron Driphlyg yn brawf clir o hynny. Mae’r ffaith iddo chwarae ym mhob un o’r wyth gêm brawf ar y ddwy daith gofiadwy i Seland Newydd a De Affrica ym 1971 a 1974 yn cadarnhau hynny ymhellach.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Rhino Rugby
Sportseen
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Marw yr arwr JPR yn 74 oed
Amber Energy
Opro
Marw yr arwr JPR yn 74 oed