Neidio i'r prif gynnwys
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas

14.10.23 - Cymru v Ariannin -Gareth Thomas ar garlam.

Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas

Tydi hi ddim yn gyfrinach fod sesiynau ymarfer Warren Gatland dros yr haf wedi bod yn hunllefus o galed, ond mae Gareth Thomas yn credu fod y gwaith yn dal i dalu ar ei ganfed.

Rhannu:

Roedd Thomas yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd deithiodd i’r Swistir a Thwrci er mwyn paratoi at y Bencampwriaeth yn Ffrainc.

Bu’n rhaid i’r garfan ymarfer yn awyr tenau y Swistir a gwres tanbaid Twrci ac mae gwthio eu cyrff i’r eithaf wedi bod yn brofiad gwerthfawr wrth baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Gareth Thomas, sydd bellach wedi cynrychioli ei wlad 26 gwaith: “Rwy’n credu fod yr bois yn y garfan yn cytuno ein bod i gyd yn teimlo’n ffit.

“Rwy’n gobeithio fod hynny yn mynd i ddangos ei werth yn ystod y Chwe Gwlad hefyd. I fod yn onest, ro’n i’n teimlo ar fy ngorau yng Nghwpan y Byd o ran ffitrwydd, ac rwyf wedi gweithio’n galed gyda’r bois eraill i gadw’r lefelau ffitrwydd lan yn uchel.” meddai prop y Gweilch.

“Sa’i wedi cael llawer o amser bant ers dod nôl o Ffrainc, ond sai’n gallu aros am y Chwe Gwlad.”

Er nad yw rhai pobl yn credu fod gan Gymru fawr o obaith o ennill y Bencampwriaeth, mae Thomas yn hyderus y bydd y Cymry yn gallu brwydro gydag unrhyw un o’r timau eraill, gan ddechrau gyda’r Albanwyr.

“Bydd pob tîm sydd yn ein wynebu yn gwybod eu bod wedi bod mewn brwydr. Does gennym ni ddim byd i’w golli, ac ry’n ni’n mynd mas i geisio ennill pob un o’n gemau.

“Mae llawer o egni yn y garfan ar y foment. Mae’n rhaid i ni roi popeth dros yr achos o’r dechrau i’r diwedd eleni, a dyna fyddwn ni’n ei wneud.

“Er mor hunllefus oedd yr ymarfer yn Nhwrci a Swistir, ry’n ni’n barod am unrhyw beth nawr.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Hunllef hyfforddi’r haf o fudd mawr medd Thomas