News

Gwalia Lightning yn ennill dwy o ddwy

07.01.24 - Abbey Constable o Gwalia Lightning yn croesi am ei chais.

Chwarae dwy – ennill dwy yw hanes Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd yn dilyn eu buddugoliaeth gadarn o 36-19 yn erbyn Glasgow yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Sgoriodd y tîm Cymreig chwe chais gyda Gwennan Hopkins (x2), Catherine Richards, Carys Hughes, Siân Jones ac Abbey Constable yn hawlio’r ceisiau – wrth i Gwalia hawlio’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.

Trosodd cefnwr Cymru, Nel Metcalfe dri o’r ceisiau hynny.

Bryonie King oedd y capten unwaith yn rhagor ac fe arweiniodd hi drwy esiampl – fyddai’n sicr wedi dal llygad hyfforddwyr y garfan genedlaethol oedd yn gwylio yn yr eisteddle.

Clovers 20 Brython Thunder 5

Yn anffodus – yn gwbl groes i Gwalia Lightning – chwarae dwy a cholli dwy yw hanes Brython Thunder hyd yn hyn – yn dilyn eu colled ym Mharc Energia, Dulyn brynhawn Sadwrn.

Y capten Alex Callender groesodd am unig gais Brython – a’i pherfformiad hi a Natalia John oedd uchafbwyntiau yr ornest i’r Hyfforddwr Ashley Beck.

Cais y mewnwr Aisla Hughes yn yr hanner cyntaf a cheisiau Ruth Campbell a’r capten Sadhbh McGrath yn ystod yr ail gyfnod sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.

Related Topics

Adroddiad Gêm
Newyddion
News