Neidio i'r prif gynnwys
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams

07.04.23 - Scarlets v Clermont Auvergne.

Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams

Mae canolwr Cymru a’r Scarlets, Johnny Williams wedi ei wahardd am chwe wythnos wedi iddo gael ei ddanfon o’r maes yng ngholled ei glwb o 38-17 erbyn ASM Clermont Auvergne yn y Stade Marcel-Michelin dros y Sul.

Rhannu:

Dangosodd y dyfarnwr Eoghan Cross o Iwerddon gerdyn coch i Williams yn y 26ain munud am dacl beryglus ar ganolwr y clwb cartref, Julien Hériteau – oedd yn tramgwyddo rheol 9.13 y gamp.

Penderfynodd Panel Disgyblu Annibynnol o dan Gadeiryddiaeth Mark Curran (Iwerddon) ynghŷd â Daniel White (Lloegr) a Valeriu Toma (Romania) – y dylid gwahardd Williams am gyfnod o chwe wythnos gan bo’r dacl yn beryglus ac esgeulus – ac wedi taro pen Hériteau.

DFP – Leaderboard

‘Roedd Williams eisoes wedi derbyn dilysrwydd y cerdyn coch ac wedi ymddiheuro i Hériteau.

Ystyriwyd y dystiolaeth honno ynghŷd â datganiadau Dwayne Peel (Prif Hyfforddwr) a Sara Davies (Rheolwr y tîm) – ac felly’n hytrach na chyflwyno’r gosb eithaf yng nghyd-destun y drosedd (Gwaharddiad 12 wythnos) – gwnaed y penderfyniad i wahardd Johnny Williams am hanner y cyfnod hwnnw.

Bydd yr union ddyddiad y caiff Williams ddychwelyd i chwarae yn ddibynol ar fanylion trefn ei gemau.

Mae gan Williams a threfnwyr y gystadleuaeth sef Clybiau Rygbi Proffesiynol Ewrop (EPCR) – yr hawl i apelio’r penderfyniad.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Rhino Rugby
Sportseen
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams
Amber Energy
Opro
Gwaharddiad o chwe wythnos i Williams