Neidio i'r prif gynnwys
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban

Harri Ackerman will captain Wales U20s against Scotland

Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban

Mae Prif Hyfforddwr Cymru tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei garfan i wynebu’r Alban yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mae Colwyn nos Wener (6.45pm, YN FYW ar S4C).

Rhannu:

Bydd y tîm yn cael ei arwain gan ganolwr y Dreigiau, Harri Ackerman, a bydd wyth chwaraewr o Gymru yn ennill eu capiau cyntaf. Gall chwe chwaraewr arall gynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf ar y lefel yma hefyd os y byddant yn camu o’r fainc.

Dim ond Ackerman, ynghyd â’i bartner canol cae Louie Hennessey a’r wythwr Morgan Morse sydd wedi goroesi o’r pymtheg ddechreuodd yn y golled yn erbyn yr Albanwyr yn Glasgow’r llynedd.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’r bechgyn wedi ymarfer dda yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae’r rhai sydd wedi cael eu dewis, wedi ennill yr hawl i wneud hynny o ganlyniad i’w gwaith caled a’u perfformiadau rhanbarthol. ‘Ry’n ni’n dechrau teimlo’r cyffro’n cynyddu ac yn methu aros i deithio i Ogledd Cymru i wneud ein gorau yno.”

Ychwanegodd bod nifer o benderfyniadau anodd a chlos wedi eu gwneud wrth drafod nifer o safleoedd – ond ei fod yn fodlon iawn gyda’r chwaraewyr fydd yn gwisgo’r crys coch ar gyfer dechrau’r ymgyrch eleni.

“Mae’r gystadleuaeth ar gyfer y tri ôl wedi bod yn arbennig o ddifyr ac mae’r trafodaethau ar gyfer safleoedd y rheng flaen wedi bod yn heriol hefyd – gan bod nifer o chwaraewyr wedi gwneud argraff ffafriol arnom fel tîm hyfforddi. Yn y pendraw, mae hynny’n beth da wrth gwrs gan ei fod yn profi bod gennym ddyfnder o ran talent yn y safleoedd hynny.”

Mae’r garfan wedi chwarae dwy gêm baratoadol ar gyfer y Bencampwriaeth ac mae’r gornestau hynny yn erbyn Aberafan a Phrifysgol Abertawe wedi cynnig cipolwg i Whiffin am safon y dalent sydd ar gael iddo.

“Roedd ein gêm yn erbyn Aberafan yn gyfle gwych i lawer o’n chwaraewyr i gael y profiad prin o chwarae yn erbyn dynion profiadol. ‘Roedd y profiad hwnnw’n werthfawr iawn i’n pump blaen yn enwedig. ‘Roedd y ffaith i ni daro yn ôl yn y gêm honno yn dangos gwir gymeriad ac yna fe roddodd y gêm yn erbyn Abertawe gyfle i mi weld y gwir ddyfnder yn y garfan.”

Mae Whiffin yn disgwyl brwydr galed yn erbyn Yr Alban gan fod y gemau diweddar yn eu herbyn wedi profi’n heriol i’r Cymry.

“Roedd hi’n gêm glos rhyngom cyn y Nadolig ac yn amlwg un pwynt wahanodd y timau yn y Chwe Gwlad y llynedd ac felly’n naturiol ‘rwy’n disgwyl gornest dynn iawn eto’r tro hwn. Mae ganddyn nhw fechgyn da iawn, yn enwedig yn y chwarae tynn ac felly maen nhw’n mynd i gynnig tipyn o her i ni. Mae’n bwysig cofio bod gennym ni dîm da hefyd a’n bwriad yw creu argraff ffafriol iawn yn ystod y Bencampwriaeth.

“Mae buddugoliaeth gynnar yn y Chwe Gwlad yn siwr o greu hyder a momentwm sylweddol ac felly mae’r canlyniad ddydd Gwener yn mynd i fod yn hynod o bwysig i’r naill dim a’r llall. Ein bwriad ni ydi perfformio’n dda ac os y gwnawn ni hynny gobeithio y bydd y canlyniad yn mynd o’n plaid hefyd.”

Cymru dan 20 v Yr Alban dan 20 – Stadiwm CSM, Gwener 2 Chwefror, 6.45pm (S4C)

15 Huw Anderson (Dreigiau)*
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)*
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Harri Ackerman (Dreigiau – Capt)
11 Walker Price (Dreigiau)*
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon)*;
1 Jordan Morris (Dreigiau)*
2 Harry Thomas (Scarlets)*
3 Kian Hire (Gweilch)
4.Jonny Green (Harlequins)
5 Nick Thomas (Dreigiau)*
6 Osian Thomas (Caerlŷr)*
7 Lucas de la Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)

Eilyddion
16 Evan Wood (Met Caerdydd)*
17 Freddie Chapman (Gweilch)
18 Sam Scott (Canolbarth Lloegr)*
19 Owen Conquer (Glyn Ebwy)*
20 Harri Beddall (Caerlŷr)*
21 Rhodri Lewis (Gweilch)
22 Harri Ford (Rygbi Gogledd Cymru)*
23 Macs Page (Scarlets)*

*Heb gap hyd yma

Gwe 2 Chwefror, Cymru v Yr Alban – Stadiwm CSM, 6.45pm
Gwe 9 Chwefror, Lloegr v Cymru, Y Rec, Caerfaddon, 7.15pm’
Gwen 23 Chwefror, Iwerddon v Cymru, Parc Virgin Media, CG 7.15pm
Iau 7 Mawrth, Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Caerdydd, 7.45pm
Gwen 15 Mawrth, Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.30pm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i herio’r Alban