Neidio i'r prif gynnwys
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi

Samson Lee yn herio Davide Giazzon o'r Eidal.

Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi

Mae’r prop rhyngwladol Samson Lee wedi’i orfodi i ymddeol o rygbi’n llwyr o ganlyniad i anaf i’w achilles.

Rhannu:

Enillodd Lee, sydd bellach yn 31 oed, 45 o gapiau i Gymru, gan chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015 a bu’n aelod o garfan fuddugol y Gamp Lawn yn 2019.

Cafodd doniau Lee eu datblygu trwy Academi’r Scarlets ac fel un sydd wedi’i fagu yn Llanelli, cafodd y fraint o gynrychioli’r Scarlets mewn 164 o gemau dros gyfnod o12 tymor.

DFP – Leaderboard

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei ranbarth yn 19 oed yn erbyn Narbonna yn 2012 ac yn fuan iawn fe greoedd enw da iddo’i hun fel prop pen tynn pwerus. O fewn blwyddyn – ‘roedd wedi ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr Ariannin.

Samson Lee angorodd sgrym y Scarlets yn ystod tymor 2016/17 pan enillodd y tîm Bencampwriaeth y PRO12.

Yn anffodus rhwygodd ei achilles yn ystod ymarferion yn Ne Affrica ym mis Mawrth y llynedd ac nid yw wedi chwarae gêm gystadleuol ers hynny.

Dywedodd Samson Lee: “Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd. Dw i wedi trial yn galed i ddod nôl i chwarae, ond  dyw’r achilles heb wella cymaint a wnes i obeithio.

“Rwy’n falch iawn, fel crwtyn o Lanelli, fy mod i wedi cynrychioli’r Scarlets 164 o weithiau a chwarae dros fy ngwlad ar y llwyfan mwyaf un.”

“Hoffwn ddiolch fy nheulu a ffrindiau, chwaraewyr, hyfforddwyr ac wrth gwrs y staff sydd wedi gwneud yr holl brofiad dros y 12 mlynedd diwethaf yn un arbennig, ac wrth gwrs y cefnogwyr. Diolch i chi gyd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Rhino Rugby
Sportseen
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi
Amber Energy
Opro
Samson Lee yn ymddeol yn llwyr o rygbi