Neidio i'r prif gynnwys
Rob Howley

Rob Howley rejoins Waren Gatland’s back-room team as Wales assistant coach

Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol

Bydd Rob Howley yn ôl yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, ond cyn hynny bydd yn cynorthwyo carfan o dan 20 Cymru yn eu hymgyrch nhw yn y Chwe Gwlad hefyd.

Rhannu:

Bu Howley’n aelod allweddol o staff Warren Gatland fel ei Hyfforddwr Cynorthwyol o’r blaen wrth gwrs -ac yn ystod y cyfnod hwnnw enillwyd y Bencampwriaeth yn 2013, cipiwyd tair Camp Lawn (2008 a 2012, 2019) ac fe gyrhaeddodd y tîm rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011.
Bydd Howley yn ail-ymuno â thîm hyfforddi Gatland fel Hyfforddwr Cynorthwyol (technegol), a bydd yn cydweithio â Mike Forshaw (amddiffyn), Jonathan Humphreys (blaenwyr), Neil Jenkins (sgiliau) ac Alex King (ymosod).

Yn ei rôl newydd, bydd gan Howley gyfrifoldeb arbennig hefyd am lwybr datblygu y dynion a’r bechgyn. Bydd yn cydweithio’n agos gyda Phrif Hyfforddwr newydd y tîm o dan 20 – sef Richard Whiffin.

DFP – Leaderboard

Bydd Howley yn ymuno â Whiffin mewn gwersyll ymarfer yn yr Alban yr wythnos nesaf ac ar gyfer gemau paratoadol yn y flwyddyn newydd i baratoi ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad o dan 20.

Mae Warren Gatland wrth ei fodd bod Howley’n dychwelyd i’r gorlan genedlaethol gyda Chymru wedi ei gyfnod gyda Chanada. Yn ogystal â’r profiad o gydweithio gyda Chymru am gyfnod sylweddol, bu Howley’n aelod gwerthfawr o dîm hyfforddi Gatland ar dair taith y Llewod (2009, 2013, 2017) hefyd. Felly wrth i Warren Gatland orfod ffarwelio â’i Hyfforddwr yr ardal y dacl a gwrthdaro – Jonathan Thomas, mae’n croesawy wyneb cyfarwydd iawn yn ôl i’w dîm hyfforddi.
Dywedodd Warren Gatland:”Rob yw un o’r hyfforddwyr Cymreig mwyaf llwyddiannus a phrofiadol ar y llwyfan rhyngwladol ar hyn o bryd.

Pan gollon ni Rob o rygbi Cymru, fe gollon ni lawer iawn o ddeallusrwydd a gwybodaeth am y gêm yng Nghymru a’r sîn ryngwladol.’Rwy’n falch iawn o’i groesawu yn ôl i’r rôl newydd hon.
“Bydd y ffaith y bydd yn gallu dylanwadu ar y llwybrau datblygu mewn modd strategol yn fuddiol i bob rhan o’r gêm, gan gynnwys y tîm o dan 20, y brif garfan, yn ogystal â’n rhanbarthau a’u hacademïau hefyd. O safbwynt y brif garfan, ry’n ni wrth ein bodd y bydd yn ymuno gyda ni – ac mae’n dipyn o gamp bod Rygbi Cymru wedi llwyddo i sicrhau ei wasanaeth a’i ddoniau sylweddol unwaith eto.”

Yn dilyn ei gyfnod diwethaf gyda charfan Cymru, daeth Howley’n uwch hyfforddwr cynorthwyol gyda Rygbi Canada yn 2020 – ond ‘roedd yr ysfa i ddychwelyd i’r gorlan Gymreig yn gryf i gyn-gapten Cymru sydd hefyd wedi profi ei hun yn un o hyfforddwyr mwyaf llwyddiannus rygbi Cymru.

Dywedodd Rob Holwey:”Rwy’n teimlo mai dyma’r amser iawn i mi ddod yn ôl ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r gorlan gyda Chymru. Mae gen i ail gyfle i wneud swydd sydd mor bwysig i mi ac rwy’n ddiolchgar i bawb yn Rygbi Cymru am osod eu ffydd ynof fi. ‘Rwy’n bwriadu ad-dalu’r ffydd hwnnw hyd eithaf fy ngallu.

“Mae’r cyfle i weithio gyda’r timau o dan 20 a’r timau iau eraill – a’u helpu i ddatblygu yn arbennig o gyffrous. ‘Rwy’n credu y gallaf eu paratoi ar gyfer heriau rygbi rhyngwladol.’Rwyf wedi bod trwy gyfnod hynod heriol yn fy mywyd, ond mae siarad yn agored am fy sefyllfa wedi fy ngalluogi i symud ymlaen. ‘Rwy’n fwy na pharod i rannu fy mhrofiad gydag eraill a allai fod yn profi cyfnodau anodd ac rwy’n ddiolchgar i bawb o’m cwmpas sydd wedi fy nghefnogi trwy’r amseroedd anodd hyn.

“Mae Richard Whiffin yn hyfforddwr ifanc talentog iawn ac mae gennym grŵp gwych o chwaraewyr o dan 20 hefyd. Mae’r dyfodol yn edrych yn gadarnhaol iawn yng Nghymru er gwaethaf yr heriau ariannol amlwg sy’n wynebu’r byd ar hyn o bryd.”

Mae Whiffin hefyd yn dychwelyd i Gymru gan iddo weithio gyda thîm Menywod Cymru fel hyfforddwr ymosod yn ystod Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd.
Cyn hynny roedd wedi treulio dwy flynedd fel hyfforddwr ymosod y Scarlets.
Bu’n gyfarwyddwr academi clwb Caerloyw cyn iddo gynorthwyo ymgyrch yr Highlanders yn y Super Rugby Pacifica y llynedd.

Dychwelodd i Gymru i gymryd yr awennau dros dro gyda thîm Colegau Caerdydd a’r Fro – enillodd Bencampwriaeth yr Ysgolion a’r Colegau y tymor diwethaf.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae gallu gweithio gyda hyfforddwr o statws Rob a chael cysylltiad clir gyda’r garfan genedlaethol yn gyffrous i mi’n bersonol ac i’r garfan o dan 20 hefyd. Bydd y cydweithio strategol hwn o fudd i bawb o’r academïau rhanbarthol i’r garfan genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y rôl newydd.”

Mae Whiffin, sydd hefyd yn gyn-hyfforddwr ymosod gyda charfan o dan 20 Lloegr a’r Gwyddelod yn Llundain yn ymuno â Howley i ddechrau ar eu gwaith ar unwaith.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Rhino Rugby
Sportseen
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol
Amber Energy
Opro
Gatland yn croesawu Howley yn ôl i’r gorlan genedlaethol