Neidio i'r prif gynnwys
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia

30.10.23 -Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham.

Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia

Mae’r Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham wedi enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia yn nhrydedd gêm brawf y crysau cochion yng nghystadleuaeth newydd y WXV1.

Rhannu:

Bydd y gêm yn digwydd yn Stadiwm Go Media Mount, Auckland ddydd Gwener Tachwedd 3ydd am 7pm amser lleol.

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith yn rhagor – sy’n cynnwys chwe newid o’r pymtheg cychwynol yn erbyn Seland Newydd yn Dunedin ddydd Sadwrn – ac mae un newid o ran safle hefyd.

DFP – Leaderboard

Mae Jasmine Joyce wedi ei dewis yn safle’r cefnwr gyda Lisa Neumann a Carys Cox yn dychwelyd i’r esgyll. Carys arall – sef Phillips – fydd yn dechrau’n fachwr – ac mae Sisilia Tu’ipulotu yn dychwelyd i gadw cwmni gyda hi a Gwenllian Pyrs yn y rheng flaen. Hon fydd y drydedd gêm ar y daith i Pyrs ei dechrau.

Georgia Evans – sgoriodd gais cofiadwy yn yr orenst agoriadol yn erbyn Canada– ac Abbie Fleming fydd y ddau glo – ond bydd cyfuniad newydd yn y rheng ôl, wrth i Ioan Cunningham ddewis Alex Callander, Kate Williams a Bethan Lewis i wynebu’r Wallaroos.

Gan iddi dderbyn ergyd i’w phen yn Dunedin – ni ystyriwyd y prop Donna Rose ar gyfer yr ornest hon. Cerys Hale sydd wedi ei dewis ar y fainc – a bydd yn ennill cap rhif 48 nos Wener os y daw hi i’r maes.

Dywedodd Ioan Cunningham: “Hon yw’n gêm olaf yn yr ymgyrch hon yn y WXV1 a’n bwriad yw gorffen ar nodyn uchel yn erbyn Awstralia yn Auckland nos Wener.

“Mae’n bwysig i ni gofio bod Awstralia wedi curo Ffrainc – wnaeth yn eu tro guro Seland Newydd – ac felly mae her gwirioneddol arall yn ein wynebu.”

“Wedi dweud hynny – dyma’r math o heriau y mae’n rhaid i ni eu gwerthfawrogi wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Lloegr yn 2025.

“Ry’n ni wedi gwneud newidiadau unwaith eto’r wythnos hon – gyda’r bwriad o gryfhau dyfnder ein carfan. Dyma’r tro cyntaf i Gymru ddanfon carfan gwbl broffesiynol ar daith o’r math yma – ac felly mae’n brofiad arbennig o werthfawr i’r chwaraewyr, yr hyfforddywr a’r staff.

“Ry’n ni wedi canolbwyntio ar ein gêm ni ein hunain ac ry’n ni wedi dewis tîm i gynnig gwir her i Awstralia – gyda llawer o brofiad ar y fainc hefyd fydd yn gallu creu argraff.

“Mae agweddau o’n chwarae sydd angen eu gwella – ond ry’n ni gyd yn ymwybodol o hynny. Does dim amheuaeth y bydd wynebu timau o’r safon hyn – er mor anodd yw hynny – yn fuddiol iawn i ni yn y pendraw. Mae’r garfan i gyd yn canolbwyntio ar herio Awstralia.”

Tîm Cymru i wynebu Awstralia:
15. Jasmine Joyce
14. Lisa Neumann
13. Hannah Jones (C)
12. Hannah Bluck
11. Carys Cox
10. Lleucu George
9. Keira Bevan;
1. Gwenllian Pyrs
2. Carys Phillips
3. Sisilia Tuipulotu
4. Abbie Fleming
5. Georgia Evans
6. Kate Williams
7. Alex Callender
8. Bethan Lewis (ÎsG)

Eilyddion:
16. Kelsey Jones
17. Abbey Constable
18. Cerys Hale
19. Alisha Butchers
20. Sioned Harries
21. Meg Davies
22. Robyn Wilkins
23. Kerin Lake

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi tîm Menywod Cymru i wynebu Awstralia