Neidio i'r prif gynnwys
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg

Dechrau taith yr iaith i'r Undeb

Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg

Mae Undeb Rygbi Cymru wastad wedi ymfalchïo yn y ffaith bod y clybiau a’r cymunedau rygbi yn allweddol bwysig ym mywyd dyddiol ein gwlad.

Rhannu:

Penderfynwyd yn ystod yr Hydref diwethaf i chwilio am berson i hyrwyddo’r defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn yr Undeb a phenodwyd cyn Reolwr Cyffredinol Cynghrair Pêl-droed Cymru, Gwyn Derfel i’r swydd ym mis Chwefror.

Penderfynwyd ceisio gwella’r ddarpariaeth gyhoeddus ar unwaith gan wneud hynny mewn modd di-ffuant. Un o’r blaenoriaethau cyntaf eraill oedd cynnig cyfleoedd i’r staff ddysgu Cymraeg yn ystod oriau gwaith.

DFP – Leaderboard

Mae dros gant o aelodau staff yr Undeb wedi datgan eu diddordeb pendant i ddechrau dysgu “Iaith y Nefoedd” gyda chydweithrediad gwerthfawr iawn Dysgu Cymraeg. Bydd y gwersi rhad ac am ddim hyn, yn dechrau ym mis Tachwedd eleni.

Gydag arweiniad Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg dros gyfnod o fisoedd – a chefnogaeth unfrydol Bwrdd Cyfarwyddwyr yr Undeb –  fe gyhoeddwyd Polisi Iaith URC ar Faes y Sioe Frenhinol, oedd yn datgan ymrwymiad clir yr Undeb tuag at y Gymraeg.

‘Roedd y Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker, yn allweddol yn y broses hon ac roedd yn bresennol yn Llanelwedd wrth lansio’r polisi – pan dderbyniodd yr Undeb gydnabyddiaeth y ‘Cynnig Cymraeg’ gan y Comisiynydd ei hun, Efa Gruffudd Jones.

Dywedodd Nigel Walker: “Byddwn yn gwella ein darpariaeth a’n gwasanaethau ac yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cynnig i ni a’n cefnogwyr.”

Wrth gynnig anogaeth a help llaw, mae rhai o brif noddwyr y cwmni, wedi dechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd marchnata, sydd wedi profi’n boblogaidd gyda’r cefnogwyr ac o’r herwydd wedi plesio’r noddwyr eu hunain wrth gwrs.

Mae’r Prif Weithredwr dros dro – Nigel Walker wedi bod yn allweddol yn y broses o hyrwyddo’r Gymraeg.

Yn ôl ystadegau Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd 84% o gwmnïau masnachol bod defnyddio’r Gymraeg yn ‘Cyfoethogi eu Brand’ tra bo 76% o’r cwmnïau hynny wedi ‘Denu cwsmeriaid newydd’ trwy ddefnyddio’r iaith.

Yn ogystal â chynnig cyngor i’r noddwyr, mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig gwasanaeth ac arweiniad am iaith a diwylliant Cymru i drefnwyr digwyddiadau eraill sy’n defnyddio Stadiwm Principality. Fe groesawodd tîm rheoli Coldplay y gwasanaeth hwn gyda breichiau agored cyn eu dau berfformiad ym mis Mehefin.

Cyd-weithiwyd er mwyn paratoi fideo rhagarweiniol dwyieithog i’r cyngerdd ac fe groesawyd y bandiau (oedd yn cynnwys Hana Lili) i’r llwyfan yn y ddwy iaith hefyd. Fe gafodd y ffaith i brif leisydd Colplay, Chris Martin ddefnyddio rhyw hanner dwsin o frawddegau Cymraeg yn ystod y perfformiadau, groeso twymgalon gan y cyhoedd.

Mae’r Undeb wedi gwneud ymdrech benodol i adlewyrchu gwhanol elfennau o ddiwylliant Cymru yn Stadiwm Principality ar ddyddiau gemau dros y misoedd diwethaf. Tra bo’r emynau, y corau a’r bandiau prês yn dal i apelio at garfan sylweddol o’r cefnogwyr, mae’r Stereophonics ac Alffa yn cynnig cyffro ychydig yn fwy cyfoes wrth arwain at y gic gyntaf.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ceisio apelio at bawb – yn enwedig felly y genhedlaeth iau. Ar ddechrau ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd fe fabwysiadwyd ‘I’r Gad Fy Nghwlad’ gan Gwcci fel y gân swyddogol.

Dywedodd Nigel Walker:

”Mae’n rhaid i ni wneud rygbi’n fwy perthnasol ac atyniadaol i’r genhedlaeth iau.

Diolch i gyd-weithio rhwng gwahanol adrannau, mae bellach yn bosib i chwaraewyr gofrestru i chwarae yn Gymraeg ac mae rhai cyrsiau hyfforddi hefyd ar gael yn y ddwy iaith.

“Mae llawer mwy o’r ohebiaeth gaiff ei danfon gan y Prif Swyddogion at y clybiau erbyn hyn yn ddwy-ieithog ac mae’r Gymraeg i’w gweld ar docynnau gemau rhyngwladol bellach ac mae’r defnydd o’r iaith yn llawer mwy amlwg ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ogystal.

“Bydd hi hefyd yn bosib ac yn ymarferol i’r rhai sy’n mynychu’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd, ddweud eu dweud yn Gymraeg os mai dyna’u dymuniad. Camau bach ond camau pwysig i’r cyfeiriad cywir. Dechrau’r daith yw hyn!”

Mae Jac Morgan a Dewi Lake yn dangos esiampl wych i’r genhedlaeth nesaf.

Un o gonglfeini Polisi Iaith URC yw bod y prif chwaraewyr am annog y genhedlaeth nesaf i fod yn falch o’r Gymraeg ac i’w defnyddio hi. Gobaith yr Undeb yw bod gweld y ddau gyd-Gapten yng Nghwpan y Byd, Dewi Lake a Jac Morgan yn defnyddio’r iaith yn naturiol, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio eu Cymraeg ac i deimlo’n hyderus yn gwenud hynny. Defnyddiwch eich Cymraeg yw’r neges glir a syml.

Aeth Hannah Jones, Capten tîm Menywod Cymru i Ysgol Dyffryn Aman yr un pryd â Jac Morgan. Yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy’r tîm yn erbyn yr Eidal yn Parma eleni – fe atebodd hi a’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham (aelod arall o ffatri rygbi Ysgol Dyffryn Aman) y cwestiynau cyntaf yng nghynhadledd y wasg yn Gymraeg. Mae’r arferiad yma yn llawer mwy cyffredin bellach yn sesiynau’r wasg ar gyfer y Dynion a’r Menywod.

Dywedodd Hannah Jones: “ Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn dangos i’r byd bod gennym ddwy iaith yng Nghymru ac fel Capten fy ngwlad ‘rwy’n falch fy mod yn dangos hynny.”

Hannah Jones Capten Menywod Cymru.

Ychwanegodd Dewi Lake: “Roedd yn brofiad braf cael fy nghyhoeddi fel cyd-Gapten ar gyfer Cwpan y Byd yn fyw ar S4C. Rwy’n mwynhau defnyddio’r iaith yn fawr ac os yw hynny’n helpu pobl eraill i dyfu’n fwy hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg nhw – gorau oll.”

Mae swyddogion Undeb Rygbi Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr clybiau a’u hannog i gysylltu gyda’u sylwadau am ddarpariaeth y Gymraeg ac mae adborth adeiladol gan aelodau’r cyhoedd wastad yn cael ei groesawu hefyd.

Bwriad Undeb Rygbi Cymru yw gweithredu’n ddi-ffuant a gwella’r ddarpariaeth yn gyson ac mae’r ymrwymiad – fel y nodir yn y Polisi Iaith yn gwbl glir:

“Mae ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i’n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl.”

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu argymhellion sy’n ymwneud â’r Gymraeg – cysylltwch efo Rheolwr y Gymraeg, Undeb Rygbi Cymru, ar bob cyfrif gderfel@wru.wales .

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Rhino Rugby
Sportseen
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg
Amber Energy
Opro
Ymdrechion yr Undeb i hyrwyddo’r Gymraeg