Neidio i'r prif gynnwys
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia

Gareth Anscombe sydd wedi ei ddewis yn faswr eto

Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Georgia yn Stade de la Beaujoire, Nantes yn eu pedawredd gêm yng Nghwpan y Byd 2023.(Sadwrn 7 Hydref 2pm BST / 3pm amser Ffrainc – yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Bydd Cymru’n teithio i Nantes brynhawn Iau o’u canolfan ymarfer yn Versailles.

Dewi Lake fydd capten y tîm wrth iddo ddechrau ei ail gêm yn y gystadleuaeth a bydd Gareth Thomas a Tomas Francis yn ymuno gydag ef yn y rheng flaen.

DFP – Leaderboard

Mae’r wythwr Taulupe Faletau a’r asgellwr Louis Rees-Zammit wedi eu cynnwys yng ngharfan y gêm am y pedwerydd tro yn ystod y Bencampwriaeth eleni.

Tommy Reffell ac Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r rheng ôl gyda Faletau.

Bydd Dafydd Jenkins yn dechrau ei ail gêm o’r gystadleuaeth yn yr ail reng ac yn ennill ei bedwerydd cap yn y broses a bydd ei gyd-glo Will Rowlands yn dechrau ei drydedd gêm o’r Bencampwriaeth yn Ffrainc.

Wedi ei berfformiad campus wrth hawlio 23 o bwyntiau yn erbyn Awstralia (record y mae’n ei rhannu gyda Dan Biggar ar gyfer gêm unigol yng Nghwpan y Byd), Gareth Anscombe fydd yn dechrau’n faswr gyda Tomos Williams yn fewnwr.

Bydd Nick Tompkins a George North yn parhau eu partneriaeth yn y canol am y trydydd tro yn y gystadleuaeth eleni. Hon fydd ymddangosiad rhif 19 i North yng Nghwpan y Byd a hynny yn ei bedwaredd Pencampwriaeth.

Bydd Rio Dyer yn dechrau ei ail ornest o’r gystadleuaeth ar yr asgell ac mae Liam Williams wedi ei ddewis yn gefnwr.

O ran eilyddion Cymru mae Elliot Dee, Nicky Smith a Henry Thomas wedi eu dewis fel opsiynau ar gyfer y rheng flaen. Bydd Christ Tshiunza yn ymddangos yn ei ail gêm o’r Bencampwriaeth os y caiff ei alw o’r fainc ac am y trydydd tro o’r bron, bydd Taine Basham yn cynnig opsiynau rheng ôl i Warren Gatland.

Gareth Davies, Sam Costelow a Mason Grady yw’r olwyr sydd wedi eu henwi ar y fainc.

——————————————————————————————–

Tîm Cymru i wynebu Georgia yn Stade de la Beaujoire, Nantes, Sadwrn 7 Hydref 2pm BST / 3pm amser Ffrainc – yn fyw ar S4C ac ITV).

15. Liam Williams (Kubota Spears – 87 cap)
14. Louis Rees Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw – 30 cap)
13. George North (Ospreys / Gweilch – 116 cap)
12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 30 cap)
11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 12 cap)
10. Gareth Anscombe (Suntory Sungoliath – 37 cap)
9. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 51 cap)
1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 24 cap)
2. Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 10 caps) capten*
3. Tomas Francis (Provence Rugby – 75 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 27 cap)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 10 cap)
6. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 41 cap)
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 11 cap)
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 103 cap)

 Eilyddion

  1. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 45 cap)
  2. Nicky Smith (Ospreys / Gweilch – 45 cap)
  3. Henry Thomas (Montpellier – 3 chap)
  4. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 8 cap)
  5. Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 15 cap)
  6. Gareth Davies (Scarlets – 72 cap)
  7. Sam Costelow (Scarlets – 6 chap)
  8. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 5 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Rhino Rugby
Sportseen
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia
Amber Energy
Opro
Warren Gatland yn enwi ei dîm i herio Georgia