Neidio i'r prif gynnwys
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru

Fe sgoriodd Rees-Zammit dri o chwe chais Cymru.

Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru

Yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Georgia yn Nantes (Naoned) – fe efelychodd tîm Cymru eu camp yng Nghwpan y Byd yn Siapan yn 2019 wrth ennill pob gêm yn eu grŵp.

Rhannu:

Talwyd y pwyth yn ôl i Georgia am eu buddugoliaeth gyntaf erioed dros Gymru yn Stadiwm Principality 11 mis ynghynt wrth i fechgyn Warren Gatland groesi am chwe chais – gyda Louis Ress-Zammit yn hawlio tri o’r rheiny yn ystod yr ail hanner.

Bu’n rhaid i Gymru wneud newid ar yr eiliad olaf i’r pymtheg cychwynol gan i Gareth Anscombe ddioddef anaf i ran uchaf ei goes wrth iddo gynhesu. O’r herwydd Sam Costelow ddechreuodd y gêm yn faswr.

DFP – Leaderboard

Er y newid hwyr hwnnw, y Cymry reolodd y chwarae am y chwarter awr agoriadol ac yn dilyn lein a hyrddiad effeithiol, fe groesodd y prop Tomas Francis am sgôr cynta’r gêm i dirio’i drydydd cais rhyngwladol.

Ychwanegodd Costelow y ddeubwynt ac yna 7 munud yn ddiweddarach fe arweiniodd ei bas ddyheig at gais campus i Liam Williams. Gwaith digon hawdd oedd trosi hwnnw a chicio gôl gosb bum munud wedi hynny hefyd, i faswr y Scarlets.

Roedd 8 o chwaraewyr Georgia ddechreuodd y gêm, wedi profi’r wefr o guro Cymru’r llynedd o dan arweiniad Merab Sharikadze a gyda dim ond pum munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl fe groesodd y capten yn gryf i hawlio pwyntiau cyntaf Georgia ar achlysur ei 99fed ymddangosiad dros ei wlad.

Yn dilyn trosiad Matkava – dim ond 10 pwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm wrth droi.

Hanner Amser Cymru 17 Georgia 7.

Roedd angen i Gymru godi’r tempo yn yr ail gyfnod a gyda chwta dri munud o’r ail hanner wedi ei chwarae, manteisiodd Louis Rees-Zammit i’r eithaf ar bas lac yng nghanol y cae. Gwibiodd yr asgellwr dros hanner hyd y cae i gynnig trosiad arall ar blat i Sam Costelow.

Taro’n ôl – nid unwaith ond ddwywaith – wnaeth Georgia toc cyn awr o chwarae a chaewyd y bwlch i 10 pwynt unwaith eto. Croesodd yr eilydd o fachwr Vano Karkadze am ei gais ef ddau funud  yn unig cyn i’r asgellwr Davit Niniashvili fanteisio ar amddiffyn gwan y Cymry i dirio trydydd cais ei dîm.

Roedd Cymru wedi ennill eu tair gêm gyntaf yng Nghrŵp C eleni gan hawlio pwynt bonws mewn dwy  ohonynt. Efelychwyd y gamp honno unwaith eto gyda chwrater awr ar ôl pan fanteisiodd Louis Rees-Zammit ar gic bwt Liam Williams i hawlio’i ail gais o’r prynhawn.

Aeth pethau ychydig yn flêr rhwng y ddau dîm gyda 10 munud yn weddill a danfonwyd Niniashvili a’r eilydd Taine Basham i’r cell cosb am ddechrau’r trafferthion.

Hawliodd Louis Rees-Zammit ei drydydd cais o’r prynhawn wrth iddo ddilyn ei gic ei hun a rhoi ychydig o sglein ar y sgôr cyn i George North gau pen y mwdwl wrth groesi am chweched cais y Cymry gyda symudiad olaf y gêm.

Sgôr Terfynol Cymru 43 Georgia 19

Bydd gêm nesaf Cymru’n digwydd yn y Stade de Marseilles am 4pm Ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 14) pan fyddant yn herio enillwyr yr ornest yng Nghrŵp D rhwng Ariannin a Siapan fydd yn cael ei chwarae am Hanner Dydd yfory. (Sul 8).

Yn dilyn y fuddugoliaeth dywedodd George North, sydd bellach wedi sgorio 49 o geisiau dros ei wlad:

“Mae ennill y gêm yna’n enfawr. Mae’r bois i gyd wedi paratoi’n dda – ond ‘roedd ennill heddiw yn ardderchog.”

Ychwanegodd Capten Cymru, Dewi Lake: “Mae’r bois wedi bod yn wych yn y pedair gêm. Ni wedi gweithio’n galed iawn ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych. Ymlaen i’r wyth olaf nawr!”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru
Amber Energy
Opro
Tri chais Rees-Zammit yn arwain y ffordd i Gymru