News

Peyper fydd â’r chwiban ar gyfer Cymru yn erbyn Ariannin

Jaco Peyper fydd yn dyfarnu Cymru v Ariannin ym Marseille.

Jaco Peyper o Dde Affrica fydd yn dyfarnu gêm Cymru yn erbyn Ariannin yn Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd ym Marseille ddydd Sadwrn.

Peyper ddyfarnodd gornest Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Chwarteri yn Siapan bedair blynedd yn ôl ac fe ddanfonodd glo’r Ffrancod Sébastien Vahaamahina o’r maes am ddefnydd anghyfreithlon o’i benelin.

Jaco Peyper fu’n gyfrifol am ofalu am gêm agoriadol y Bencampwriaeth yn Ffrainc eleni pan lwyddodd y tîm cartref i drechu Seland Newydd yn y Stade de France.

Karl Dickson (Lloegr), Andrea Piardi (Yr Eidal) fydd y dyfarnwyr cynorthwyol ddydd Sadwrn tra Marius Jonker (De Affrica) fydd y dyfarnwr teledu.

Bydd y Cymro Ben Whitehouse yn ddyfanwr teledu ar gyfer y drydedd gêm yn yn Chwarteri ddydd Sul pan fydd Lloegr yn herio Ffiji.

Related Topics

Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
News