News

Pedwar o chwaraewyr Cymru'n ymweld ag ysgol arbennig yn Versailles

Bu Jac Morgan

Aeth pedwar aelod o garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023, ac aelodau o’r tîm hyfforddi, i ymweld ag ysgol ar gyfer plant gydag anghenion addysgol ychwanegol ger Paris heddiw (Dydd Mercher).

Aeth y Cyd-gapten Jac Morgan, Josh Adams, Ryan Elias a Johnny Williams i’r Institut Medico-Educatif (IME) Le Rondo sydd gerllaw canolfan ymarfer Cymru yn Versailles, er mwyn cynnal sesiynau addysgol ac ymarferol trwy gyfrwng rygbi  – a chyfarfod y disgyblion wrth gwrs.

Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan sefydliad y Groes Goch yn Ffrainc ac ‘roedd y pedwar chwaraewr wrth eu boddau gyda’r ymweliad.

Ryan Elias yn dysgu sgiliau pasio i’r plant.

Dywedodd Ryan Elias: “Roedd ymweld â’r IME y bore ‘ma’n brofiad gwych – yn enwedig gweld ymateb cadarnhaol a hapus y plant.

“Fe ddysgon ni sgiliau pasio a chicio iddyn nhw ac roedd modd ymarfer cario’r bêl a thaclo hefyd – oedd yn boblogaidd iawn.

“Fe liwiodd rhai disgyblion faner y Ddraig Goch a logo Cwpan y Byd. Roedd pawb yn gwenu ac yn mwynhau eu hunain.

“Roedd ymweld â’r ysgol yn gyfle i ni rannu rhai sgiliau rygbi gyda’r plant a rhannu rhywfaint o’n diwylliant ni fel gwlad hefyd.

“Erbyn diwedd y sesiwn ‘roedd pawb yn gwybod am faner Cymru a’r Ddraig Goch yn benodol. Felly fe gafodd pawb amser da.”

Related Topics

Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
News