News

Hardy'n cael ei alw i garfan Cymru

Bydd Kieran Hardy'n ymuno gyda'r garfan yn Versailles heno

Mae Kieran Hardy (Scarlets) wedi ei alw i ymuno â charfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Ry’n ni’n teimlo bod gennym nifer o opsiynau yn y rheng ôl ar hyn o bryd – ac felly ry’n ni wedi galw ar Kieran i gynnig mwy o ddyfnder i ni yn safle’r mewnwr ac i leihau’r pwysau o safbwynt ein sesiynau ymarfer.”

Bydd Hardy yn ymuno gyda’r garfan yn Versailles heno, mewn da bryd i baratoi ar gyfer yr ornest allweddol yn erbyn Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf ym Marseille ddydd Sadwrn. (14 Hydref 1600 Amser Cymru / 1700 Amser Ffrainc).

Mae Taulupe Faletau wedi torri ei fraich wrth herio Georgia.

 

Related Topics

Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
News