News

Faletau wedi torri ei fraich yn erbyn Georgia

Mae Taulupe Faletau wedi torri ei fraich wrth herio Georgia.

Mae ymgyrch Taulupe Faletau yng Nghwpan y Byd eleni ar ben wedi iddo dorri ei fraich yn ystod buddugoliaeth Cymru o 43-19 yn erbyn Georgia yn Nantes (Naoned) heddiw. (Sadwrn 7fed).

Er y bydd y tîm hyfforddi a’r cefnogwyr yn falch bod Cymru wedi ennill eu pedair gêm yng Nghrŵp C – gan hawlio pwynt bonws yn nhair o’r gornestau hynny hefyd – bydd colli doniau a phrofiad Faletau – sydd wedi cynrycholi ei wlad 104 o weithiau – yn ergyd drom i obeithion Cymru yn y Gystadleuaeth.

Bydd gêm nesaf Cymru’n digwydd yn y Stade de Marseilles am 4pm Ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 14) pan fyddant yn herio enillwyr yr ornest yng Nghrŵp D rhwng Ariannin a Siapan fydd yn cael ei chwarae am Hanner Dydd yfory. (Sul 8).

Cyn y gic gyntaf yn erbyn Georgia yn Nantes (Naoned),  fe anafodd Gareth Anscombe ran uchaf ei goes a bydd yr hyfforddwyr a’r holl garfan yn gobeithio na fydd yr anaf hwnnw yn golygu bod y tîm yn colli gwasanaeth ail chwaraewr dylanwadol ar gyfer gweddill Cwpan y Byd.

Related Topics

Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
News