Neidio i'r prif gynnwys
Jonathan Davies

Jonathan Davies is back for the Scarlets

Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets

Bydd Jonathan Davies yn arwain y tîm mas i’r cae ar ei 200fed ymddangosiad Scarlets yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn y Dreigiau ym Mharc y Scarlets (19:00).

Mae canolwr Cymru a’r Llewod yn nawr rhan o grwp arbennig o chwaraewyr sydd wedi cyrraedd y carregfilltr yma yn y gêm rhanbarthol.

Rhannu:

Gwnaeth Davies ei ymddangosiad Scarlets cyntaf yn 18 oed nôl yn 2006 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Northampton.

Aeth ymlaen i ymddangos yng ngemau gyn-derfynol Ewropeaidd ac yn rhan hanfodol o’r ochr a godwyd teitl y Guinness PRO12 yn 2017. Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi gwneud sawl newid i’r ochr a gollwyd yn erbyn Caerdydd nos Wener diwethaf ym Mharc yr Arfau.

DFP – Leaderboard

Tu ôl i’r sgrym, mae Johnny McNicholl yn dod i mewn fel cefnwr gyda Tom Rogers yn newid i’r asgell. Ryan Conbeer sy’n cadw ei le ar yr asgell chwith.

Davies fydd yn bartner i Ioan Nicholas yng nghanol cae, wrth i Ioan Lloyd ymuno â Kieran Hardy fel ein haneri. Yn y pac, mae’r bachwr 19 oed Isaac Young yn cael ei ddechreuad cyntaf i’r Scarlets a fydd wrth ochr y chwaraewyr rhyngwladol Kemsley Mathias a Sam Wainwright yn y rheng flaen.

Y chwaraewr newydd sydd wedi arwyddo o Gaerloyw a gwella o anaf sydd yn barod am ei ddechreuad cyntaf i’r Scarlets wrth ochr Morgan Jones yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl mae Taine Plumtree, Dan Davis a’r wythwr Carwyn Tuipulotu wedi’u henwi.

Scarlets v Dreigiau (Parc y Scarlets; 19:00)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Ioan Nicholas, 12 Jonathan Davies (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Ioan Lloyd, 9 Kieran Hardy; 1 Kemsley Mathias, 2 Isaac Young, 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig, 5 Morgan Jones, 6 Taine Plumtree, 7 Dan Davis, 8 Carwyn Tuipulotu.
Eilyddion: 16 Lewis Morgan, 17 Steff Thomas, 18 Wyn Jones, 19 Jac Price, 20 Iwan Shenton, 21 Teddy Leatherbarrow, 22 Ben Williams, 23 Efan Jones, 24 Charlie Titcombe, 25 Eddie James, 26 Tomi Lewis.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets
Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Davies i wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets