Neidio i'r prif gynnwys
Nel Metcalfe

Bydd Nel Metcalfe yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf.

Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1

Rhannu:
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei dîm i herio Seland Newydd yn haen uchaf Pencampwriaeth y WXV yn Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin, ddydd Sadwrn, Hydref 28. (4pm amser lleol).
 
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y pymtheg cychwynnol unwaith yn rhagor – sy’n cynnwys saith newid ac un newid safle o’r tîm wynebodd Canada yn yr ornest agoriadol yn Wellington.
 
Bydd y cefnwr 18 oed Nel Metcalfe, yn dechrau gêm dros ei gwlad am y tro cyntaf – wedi iddi ennill ei chap cyntaf yn y fuddugoliaeth o 38-18 yn erbyn yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn fis diwethaf.
 
Fe chwaraeodd Metcalfe yn safle’r cefnwr ym muddugoliaeth tîm dan 20 Cymru yn erbyn Canada yn Ottowa fis Gorffennaf.
 
Mae Kelsey Jones, enillodd yr Uwch Gynghrair yn Lloegr gyda’i chlwb Caerloyw-Hartpury y tymor diwethaf, yn dychwelyd yn safle’r bachwr. Ar ei hysgwydd fydd y prop Donna Rose, sy’n dechrau gêm dros ei gwlad am y tro cyntaf ers i Gymru wynebu Seland Newydd yng Nghwpan y Byd.
 
Bydd yr wythwr profiadol Sioned Harries yn ennill cap rhif 77 ddydd Sadwrn. Bydd Alisha Butchers yn dechrau ar ochr dywyll y rheng ôl – a hi hefyd fydd yr îs-gapten ar y dydd.

 
Lleucu George sydd wedi ei dewis yn faswr ac mae Hannah Bluck yn cael ei chyfle yn y canol hefyd.
 
Mae Carys Williams-Morris wedi ei dewis ar un asgell – gyda Jasmine Joyce yn symud o safle’r cefnwr – i’r asgell arall.
 
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: “Y bwriad wrth ddodd â charfan o 30 gyda ni oedd rhoi’r cyfle i gymaint o chwaraewyr â phosibl – i gael y profiad o herio timau gorau’r byd yn y WXV.
 
“Mae wynebu Pencampwyr y Byd ar eu tomen eu hunain yn dipyn o her – ond dyna pam ‘ry’n ni yma – i brofi’n hunain yn erbyn y goreuon.
 
“Ry’n ni’n chwilio am berfformiad da – ond mae’n rhaid i ni hefyd ychwanegu at ddyfnder ein carfan – gan y bydd hynny’n allweddol yn ein hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2025 yn Lloegr.
 
“Mae Nel wedi creu argraff fawr ar bawb ac mae hi’n llawn haeddu ei chyfle i ddangos ei doniau. Mae ei siwrnai a’i datblygiad ers cynrychioli’r tîm o dan 20 yng Nghanada dri mis yn ôl wedi bod yn eithriadol.
 
“Mae Kelsey a Donna yn cael y cyfle i ddechrau’r gêm a bydd profiad sylweddol Sioned yn werthfawr i ni hefyd. Mae Lleucu a Hannah Bluck wedi ymarfer yn dda ac felly maen nhw’n haeddu eu cyfle hefyd. Ein gobaith yw cael y bêl mas i Jaz a Carys ar yr esgyll gan y gallwn fod yn fygythiol yn yr agwedd honno o chwarae.

“Bydd angen i ni ddiogelu a gwarchod y bêl yn well nag y gwnaethon ni’n erbyn Canada – ond fe ddangoson ni yn Wellington ein bod yn gallu cystadlu gydag unrhyw dîm.”

 
Tîm Cymru i herio Seland Newydd
15. Nel Metcalfe
14. Jasmine Joyce
13. Hannah Jones (Capt)
12. Hannah Bluck
11. Carys Williams-Morris
10. Lleucu George
9. Keira Bevan
1. Gwenllian Pyrs
2. Kelsey Jones
3. Donna Rose
4. Abbie Fleming
5. Kate Williams
6. Alisha Butchers (Îs-gapt)
7. Alex Callender
8. Sioned Harries

Eilyddion:
16. Kat Evans
17. Abbey Constable
18. Sisilia Tu’ipulotu
19. Bryonie King
20. Bethan Lewis
21. Meg Davies
22. Robyn Wilkins
23. Meg Webb

Gemau Cymru yn y WXV1
Seland Newydd v Cymru, Sadwrn 28 Hydref, Stadiwm Forsyth Barr Stadium, Dunedin (4pm amser lleol)
Awstralia v Cymru, Gwener 3 Tachwedd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (7pm amser lleol)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1
Amber Energy
Opro
Cymru’n enwi’r tîm i herio Seland Newydd yn y WXV1