Neidio i'r prif gynnwys
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin

Cymru'n colli a Biggar yn ymddeol.

Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin

Methiant fu ymdrech Cymru i gyrraedd Rownd Gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd am y pedwerydd tro yn eu hanes yn dilyn eu colled siomedig o 17-29  yn erbyn Ariannin yn y Stade de Marseille heddiw.

Rhannu:

Dyma oedd y trydydd tro i’r ddwy wlad gyfarfod ei gilydd yng Nghwpan y Byd gyda Chymru wedi ennill y ddwy ornest flaenorol yn 1991 a 1999. Er gwaethaf meddiant cynnar yr Archentwyr –  y crysau cochion sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ornest wrth i Dan Biggar dirio o dan y pyst wedi 13 o funudau yn dilyn gwaith creu gwych gan George North a Gareth Davies.

Gwaith hawdd oedd gan Biggar i hawlio’r ddeubwynt ychwanegol o’r herwydd. Dechrau gwych i’r gêm i Biggar – a doedd dim argoel ar y pryd – mai dyma fyddai ei ymddangosaid olaf yn y crys coch.

DFP – Leaderboard

Yn union wedi’r trosiad, bu’n rhaid i’r dyfarnwr Jaco Peyper drosglwyddo’r chwiban i Karl Dickson o Loegr gan iddo dynnu cyhyr yn ei goes ac un o’i ddyletswyddau cyntaf oedd cosbi y Pumas am gamsefyll. Llwyddodd Biggar o 43 metr i agor bwlch o 10 pwynt rhwng y ddwy wlad.

Ar ôl rheoli’r chwarae, fe gollwyd elfen o ddisgyblaeth gan y Cymry ym munudau olaf yr hanner cyntaf ac fe drodd y momentwm yn bendant o blaid Ariannin. Fe gostiodd hynny’n ddrud i’r Cymry yn y pendraw.

Caewyd y bwlch i 4 pwynt ar yr egwyl gan i asgellwr Caeredin, Emiliano Boffelli hollti’r pyst gyda dwy gôl gosb syml – gan roi hyder i’w dîm wrth droi.

Fe allai pethau fod wedi bod yn waeth i Gymru – ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd tacl hwyr Josh Adams yn haeddu cerdyn melyn yn y digwyddiad arweiniodd at bwyntiau olaf yr hanner cyntaf.

Hanner Amser Cymru 10 Ariannin 6

Fe gollodd Cymru dair lein yn ystod y cyfnod cyntaf a daeth y cyd-gapten Dewi Lake i’r maes ar gyfer yr ail hanner – ond dri munud wedi troi – fe ychwnegodd Boffelli driphwynt arall at gyfrif y Pumas er mwyn cau’r bwlch i bwynt yn unig.

Cyn yr ornest hon roedd Boffelli wedi llwyddo gyda phob un o’i 10 ymdrech tuag at y pyst yn ystod y Bencampwriaeth eleni. Wedi 47 munud – fe ddangosodd ei wir ddoniau fel ciciwr wrth iddo lwyddo â mynydd o gic o 55 metr – i roi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf yn ystod yr ornest.

Daeth Tomos Williams i’r maes i geisio newid llif y chwarae i Gymru. Fe wnaeth yn union hynny o fewn munudau – gan iddo ddod o hyd i fwlch ar gyrion y sgarmes – ac fe hedfanodd o dan y pyst i leddfu rhywfaint ar y nerfau – a chynnig deubwynt hawdd arall i Dan Biggar.

Toc wedi awr o chwarae cafwyd eiliad ddadleuol wrth i ysgwydd Guido Petit wneud cysylltiad â phen Nick Tomkins – ond penderfynodd Karl Dickson a’i dîm dyfarnu nad oedd trosedd wedi digwydd.

Tra bo Tomkins yn cael ei asesu – fe aeth yr Archentwyr ar y blaen am yr eildro, wrth i’r eilydd Joel Sclavi hawlio cais grymus ac wrth i Boffelli hawlio ei bedwerydd pwynt ar ddeg o’r prynhawn.

Defnyddiodd Warren Gatland bob un o’i eilyddion yn ystod y gêm er mwyn ceisio ad-ennill y fantais – ond gyda dim ond 3 munud ar ôl – wrth i Gymru chwilio am y pwyntiau angenrheidiol – rhyng-gipiwyd pas Sam Costelow ac fe groesodd Nicolas Sanchez yn orfoleddus o dan y pyst i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Archentwyr. Ychwnegodd Boffelli ddeubwynt arall at ei gyfrif personol.

Gyda chic ola’r gêm ychwangeodd Nicolás Sanchez halen i friwiau’r Cymry wrth iddo lwyddo â chic gosb wrth i’r cloc droi’n goch.

Ariannin yn symud ymlaen i’r 4 olaf felly a Chymru – wedi’r holl addweid – ar eu ffordd adref.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Cyd-gapten Cymru, Dewi Lake:

Ni wedi gweithio mor galed ers pedwar mis a ni’n ‘gutted’ – ond pob clod i Ariannin.

Ychwanegodd y Cyd-gapten arall, Jac Morgan: “Mae hyn yn ‘nafu lot.”

“Fe adawodd ein disgyblaeth ni lawr rhywfaint heddiw. Mae’r bois wedi dod yn bell yn ystod y pedwar mis diwethaf ac mae’n rhaid i ni fod yn prowd – er ein bod ni’n ‘gutted’.”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland:

“Mae’n rhaid llongyfarch Ariannin am aros yn y frwydr pan oedden ni’n rheoli yn yr hanner cyntaf – fe ddangoson nhw dipyn o gymeriad a llongyfarchiadau iddyn nhw.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru ar eu ffordd adref o Gwpan y Byd yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin