Neidio i'r prif gynnwys
Josh Adams

Josh Adams yn croesi am gais cyntaf y Cymry

Cymru yn curo Ffiji mewn clasur

Bu’n rhaid i Gymru ymdrechu hyd yr eitha i gadw at eu mantais fregus wrth iddyn nhw ddechre ar eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd gyda buddugoliaeth ddramatig – 32-26- yn erbyn Ffiji lawr yn Ne Ffrainc yn y Stade de Bordeaux.

Rhannu:

Croesodd y ddau dim am bedwar cais yr un i sicrhau pwynt bonws, ac fe gafodd y Ffijiaid bwynt bonwas ychwanegol wrth sgori dau gais hwyr i gau’r bwlch i 6 phwynt yn unig. A gallai hynny fod wedi bod yn fwy fyth pe na bai Semi Radrada wedi bwrw’r bel mlân yn symudiad ola’r gem, ac fe groeson nhw linell gais Cymru ar dri achlysur arall hefyd ond methu tirio’r bel yn gywir

Roedd eu gem a’u hagwedd nhw mor gorfforol nes gorfodi Cymru i wneud 248 tacl yn ystod y gem o’i gymharu â dim ond 70 iddyn nhw, a Ffiji hefyd reolodd y gem o ran tir a meddiant – 85% y naill a 61% y llall. Felly amddiffyn oedd Cymru am rannau helaeth o’r gem, ond eto fe lwyddon nhw i saernio pedwar cais iddyn nhw eu hunain hefyd

Ac yn sgil y pedwar cais yna roedd gan Gymru fantais glir 32-14 ar ol 66 muned, ond yn y diwedd roedd hi’n llawer, llawer agosach nag y bydde’r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi dymuno. Byff Ffiji nawr yn wynebu Awstralia mewn gem anferth yn y rownd, tra bydd Cymru’n disgwyl ychydig llai o her wrth wynebu Portiwgal

Cafodd Cymru’r dechreuad perffaith – ar y blân ar ol dwy funud yn unig wrth i Dan Biggar lwyddo â gol gosb o 45 metr – yr hwb cynnar oedd mor bwysig, ac fe wellodd pethe eto pan rwygodd George North amddiffyn y Ffijiaid gyda rhediad nerthol ar hyd canol y cae i fynd â’i dim i’r 22ain. Ail gylchwyd y bel gan symud i’r chwith a’r symudiad yn gorffen wrth i bas gelfydd Liam Williams ryddhau Josh Adams a wibiodd drosodd am y cais. Ni lwyddodd Biggar gyda’r trosiad, ond, yn sydyn , roedd Cymru 8 pwynt ar y blân.

Ond, ni pharhaodd y fantais am sbel, gyda’r gwrthwynebwyr yn dangos pam y’i gelwir yn ” Flying Fijians ” wrth iddyn nhw bwyso a phwyso ar linell gais y Cymry. Ac fe dalodd y pwyse ar ei ganfed wrth iddyn nhw greu 2 gais mewn dim o dro, gyda Frank Lomani’n trosi’r ddau i’w rhoi nhw ar y blân – 14-8. Y capten Waisea Nayacalevu gafodd y cynta ar ol iddo godi pel rydd a llwyddo rywsut i dorri drwy 2 dacl a brasgamu drosodd o 30 metr. Ac fe chwaraeodd y capten ran amlwg yn yr ail gais hefyd wrth iddo gyfuno’n hyfryd gyda’i bartner yn y canol Semi Radrada a ryddhaodd y blaen asgellwr Lekima Tagitagivalu i blymio drosodd i roi ei dim ar y blân

Roedd yn bendant yn adeg anodd, bryderus i Gymru , ond fe ddangoswyd cymeriad a chadernid arbennig yn yr amddiffyn, cyn llwyddo i daro nol eu hunain. Dan Biggar i ddechre yn llwyddo â gol gosb arall o 45 metr ar ol i Ffiji gam-sefyll, ac yna tacl anghyfreithlon ar Liam Williams yn rhoi’r cyfle i Biggar gicio at y gornel . Ceisiodd Cymru yrru trosodd ddwywaith o’r lein , ond fe lwyddodd Ffiji i wrthsefyll hynny ddwywaith ond wrth i’r bel gael eu lledu – Nick Tompkins â’i bas fedrus yn creu’r bwlch i’w bartner yn y canol , George North ddod yn nerthol ar ongl syth i groesi o dan y pyst . Trosiad hawdd i Biggar, a Chymru, er yr holl amddiffyn, â mantes o 19-14 ar yr egwyl.

Ond roedd Cymru eto o dan warchae wrth i flaenwyr Ffiji unwaith eto wasgu a gwasgu ar y llinell gais, ond pob clod i fechgyn Jac Morgan am barhau i’w hatal nhw dro ar ol tro, cyn codi’r gwarchae a brwydro’u ffordd nol ac ychwanegu at eu mantes. Louis Rees Zammitt gynta yn llwyddi gael gafael ar gic letraws gan y capten Jac Morgan, ac yna’r eilydd fachwr Elliott Dee yn tirio wrth i’r pac greu’r sgarmes a gyrru drosodd o lein. Trosodd Biggar y ddau ac roedd Cymru’n edrych yn gyffyrddus a diogel , eisioes wedi sicrhau pwynt bonws ar ol croesi am y pedwerydd cais , ac ar y blân 32-14 â llai na chwarter awr ar ol . Ond roedd y gem ymhell o fod drosodd â’r ddrama fawr eto i ddod

Roedd Ffiji lawr at 14 chwarewr ar ol i’r blaen asgellwr Albert Tuisue dderbyn carden felen am ddymchwel sgarmes ychydig cyn cais Elliott Dee. Ond carden felen wedyn i Gymru hefyd , i’r prop Corey Domachowski oedd newdd ddod i’r cae yn eilydd am gam sefyll wrth fon y ryc.

Bum munedd yn ddiweddarach , gyda Chymru eto’n amddiffyn am eu bywyd gan ildio sawl cic gosb daeth y canolwr pwerus Josua Tuisova ar rediad cryf i daranu trwodd am gais i Ffiji a droswyd gan Teti Tela – saith muned i fynd – saith muned ffrantig o rygbi

Roedd y tensiwn yn rhyfeddol – Ffiji’n taflu popeth i’r frwydyr – Cymru wedi llwyr ymlâdd – yn brwydro gyda phob gewyn i ammdiffyn eu mantais a’u llinell gais – ond yn aflwyddiannus . Ffiji’n cymryd cic gosb yn gyflym 5 metr o linell Cymru a Mesaka Doge yn llwydd gyrraedd – 4ydd cais i Ffiji , nol o fewn un sgor mantes Cymru lawr at 32-26

A’r ddrama’n parhau yng nghanol yr holl densiwn hyd at y chwib ola. Ffiji’n taflu popeth i’r ymdrech i geisio cipio buddugoliaeth, ac roedd hi’n ymddangos eu bod nhw wedi creu’r cyfle am 5 ed cais wrth iddyn nhw ledu’r bel a danfon pas hir mâs at yr asgell chwithlle’r oedd Semi Radrada’n rhydd a’r llinell gais yn aros. Ond – torcalon iddo fe a’i dim wrth i’r bel adlamu o’i flaen ac yna ymlaen o’i ddwylo . Rhyddhâd amlwg i Gymru – yr un eiliad dyngedfennol honno yn mynd o’u plaid – Mathew Carley’n chwythu’i chwib i ddod â gem fwya cyffrous a dramatig y gystadleuaeth i ben . Noson i’w chofio yn Bordeaux !

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur
Amber Energy
Opro
Cymru yn curo Ffiji mewn clasur