Neidio i'r prif gynnwys
Jac Morgan

Jac Morgan fydd capten Cymru yn erbyn Fiji

Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Ffiji yn y Stade de Bordeaux yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd 2023.(Sul 10 Medi 8pm BST / 9pm amser Ffrainc – yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Cyrhaeddod y garfan ddinas Bordeaux y prynhawn yma yn dilyn y daith o’u canolfan ymarfer yn Versailles ger Paris.

Mae’r pymtheg fydd yn dechrau’r ornest yn erbyn Ffiji yn cynnwys pum chwaraewr fydd yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf. Mae’r un peth yn wir am bump o’r eilyddion hefyd.

DFP – Leaderboard

Jac Morgan fydd yn arwain y tîm yn safle’r blaenasgellwr agored a bydd Aaron Wainwright a Taulupe Faletau yn ymuno gyda’u capten yn y rheng ôl. Bydd yr wythwyr Faletau yn ennill cap rhif 101 ac yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers iddo wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd George North yn chwarae ei 17eg gêm yng Nghwpan y Byd ddydd Sul – a hynny yn ei bedwaredd Pencampwriaeth. Nick Tomkins fydd ei bartner yng nghanol cae.

Gareth Davies sydd wedi ei ddewis yn fewnwr gyda Dan Biggar yn safle’r maswr. Dyma fydd y drydedd gystadleuaeth ar gyfer Cwpan y Byd i’r ddau ohonynt gymryd rhan ynddi.

Mae Davies wedi chwarae rhan yn 12 gêm ddiwethaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2015 a 2019, tra bo Biggar o fewn triphwynt i gyrraedd 100 o bwyntiau yn y gystadleuaeth.

Ddydd Sul fydd wythfed gêm y cefnwr, Liam Williams yng Nghwpan y Byd a Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn cwblhau’r tri ôl. Adams oedd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd yn Japan yn 2019 ac fe hawliodd dri o’i saith cais yn y gystadleuaeth honno yn erbyn Ffiji.

Gareth Thomas sydd wedi ei ddewis yn brop pen tynn gyda’r bachwr Ryan Elias a Tomas Francis yn cwblhau’r rheng flaen. Yr ornest yn erbyn Ffiji fydd 11eg ymddangosiad Francis yng Nghwpan y Byd hyd yma.

Will Rowlands ac Adam Beard fydd y ddau glo.

Ymhlith yr eilyddion, Tomos Williams, Sam Costellow a Rio Dyer fydd yn cynnig yr opsiynau ar gyfer yr olwyr

Elliot Dee, Corey Domachowski a Dillon Lewis fydd eilyddion y rheng flaen a chwaraewr ieuengaf y garfan, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell fydd yn cynnig yr opsiynau eraill ar gyfer y blaenwyr.

Dywedodd Gatland: “Mae’r garfan wedi gweithio’n hynod o galed dros y misoedd diwethaf wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon.

” Mae’r paratoadau penodol ar gyfer gêm Ffiji wedi bod yn arbennig yn ystod y pythefnos diwethaf. Maen nhw’n amlwg yn dîm da gydag athletwyr unigol gwych ac mae’n bwysig cydnabod bod llawer iawn mwy o strwythur i’w chwarae bellach.

“Ry’n ni’n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud a’r dull chwarae sydd angen i ni ei fabwysiadu ar gyfer gornest sy’n addo i fod yn gyffrous ddydd Sul. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm a’r achlysur.

“Mae’r bechgyn yn edrych yn dda ac yn barod ar gyfer yr her. Mae awyrgylch arbennig yn y garfan gyda’r chwaraewyr yn gweithio’n galed dros ei gilydd – ac yn mwynhau cwmni ei gilydd hefyd. Mae pawb yn ysu i ddechrau ein hymgyrch yng Nghwpan y Bydd 2023 ddydd Sul.”

Eglurodd Gatland hefyd pam nad yw’r cyd-gapten Dewi Lake wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer yr ornest agoriadol: “Mae’r tîm meddygol wedi gwenud gwaith arbennig er mwyn cael Dewi’n ôl yn holliach – ond gan nad yw e wedi ymarfer gymaint â Ryan Elias ac Elliot Dee – ‘rwyf wedi penderfynu eu dewis nhw y tro hwn.”

Tîm Cymru i wynebu Ffiji yn y Stade de Bordeaux yng Nghrŵp C o Gwpan Rygbi’r Byd 2023
Ddydd Sul 10 Medi 8pm BST. Yn fyw ar S4C ac ITV

15 Liam Williams (Kubota Spears – 85 cap)
14 Louis Rees Zammit (Caerloyw – 27 cap)*
13 George North (Gweilch – 114 cap
12 Nick Tompkins (Saraseniaid – 28 caps)*
11 Josh Adams (Caerdydd – 50 cap)
10 Dan Biggar (RC Toulonnais – 109 cap)
9 Gareth Davies (Scarlets – 69 cap);
1 Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 22 cap)*
2 Ryan Elias (Scarlets – 34 cap)
3 Tomas Francis (Provence Rugby – 72 cap)
4 Will Rowlands (Racing 92 – 25 cap)*
5 Adam Beard (Gweilch – 47 cap)
6 Aaron Wainwright (Dreigiau – 39 cap)
7 Jac Morgan (Gweilch – 11 caps) captain / capten*
8 Taulupe Faletau (Caerdydd – 100 cap)

Eilyddion
16 Elliot Dee (Dreigiau – 43 cap)
17 Corey Domachowski (Caerdydd – 2 gap)*
18 Dillon Lewis (Harlequins – 51 cap)
19 Dafydd Jenkins (Caerwysg – 7 cap)*
20 Tommy Reffell (Caerlŷr – 10 cap)*
21 Tomos Williams (Caerdydd – 48 cap)
22 Sam Costelow (Scarlets – 4 cap)*
23 Rio Dyer (Dreigiau – 9 cap)*

* ymddangosiad cyntaf yng Ngwpan Rygbi’r Byd

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd
Amber Energy
Opro
Cymru yn enwi’r tîm i herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd