Neidio i'r prif gynnwys
Elinor Snowsill

Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Elinor Snowsill, un o wir arwyr camp y menywod yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar unwaith.

Rhannu:

Mae gyrfa Snowsill wedi ymestyn ymhell dros ddegawd ac fe wnaeth ei hymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Sweden yn Sain Helen yn Abertawe yn 2009. Enillodd ei chap olaf yn erbyn Yr Eidal yn y fuddugoliaeth o 36-10 yn Parma eleni – pan chwaraeodd ran allweddol yn ymgyrch orau Cymru yn y Chwe Gwlad ers 14 mlynedd.

Chwaraeodd Snowsill, 34, mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd – 2010, 2014, 2017 a 2021 – ac roedd yn aelod allweddol o garfan ddiweddar Cymru – lwyddodd i hawlio’u lle ym mhrif haen y WXV1, sy’n cynnwys y chwe thîm gorau yn y byd.

DFP – Leaderboard

Enillodd y maswr 76 o gapiau i Gymru ac fe gynrychiolodd ei gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018 a theithio i’r Unol Daleithiau a Lloegr gyda’r Barbariaid.

Tystiodd y gêm yn newid o statws amatur i broffesiynol, a hi oedd un o’r 12 chwaraewr cyntaf i dderbyn cytundeb llawn amser gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022.

Mae ‘Snowy’ yn ymddeol fel unigolyn sy’n hynod uchel ei pharch yn y cylchoedd rygbi – ac mae’n gadael etifeddiaeth barhaol i’r genhedlaeth nesaf i adeiladu arni.

Bydd yn dechrau ar rôl newydd gyda Phrifysgol Met Caerdydd fel Arweinydd Datblygu Chwaraewyr ar gyfer Canolfan Datblygu Chwaraewyr newydd Dwyrain Cymru – partneriaeth rhwng Met Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru. Bydd hi’n allweddol wrth adnabod a datblygu merched addawol, er mwyn gwneud yn siwr bod y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rhyngwladol Cymru’n cael eu meithrin.

Dywedodd Elinor Snowsill, maswr Cymru: “Mae’n biti fy mod yn cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Ar ôl blynyddoedd o fod ar daith rygbi fu’n llawn uchafbwyntiau – gyda nifer o siomedigaethau ar y ffordd hefyd –  mae’n teimlo fel ein bod ni wir yn ennill momentwm fel carfan ac yn agosáu at gyflawni pethau gwych o fewn y gêm.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd y garfan yn mynd ymlaen i wthio rygbi yng Nghymru i uchelfannau newydd yn y WXV, Cwpan Rygbi’r Byd 2025 a thu hwnt.

“Hoffwn ddiolch i rai pobl yn benodol sydd wedi bod yn ganolog i’m gyrfa rygbi dros yr 16 mlynedd diwethaf. I ddechrau, ni fyddwn wedi  gwneud y penderfyniad i newid y bêl gron am y bêl hirgron oni bai am Catrin Edwards, ddechreuodd y tîm rygbi cyffwrdd yn Ysgol Plasmawr, a’m perswadio i chwarae.

“Roedd gwylio Catrin yn rhedeg allan ym Mharc yr Arfau i chwarae yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn eiliad bwysig i mi. ‘Roedd hi’n ysbrydoliaeth ac yn gosod esiampl wych i mi – rhywbeth oedd yn brin ar y pryd ym myd chwaraeon menywod.

Elinor Snowsill

Elinor Snowsill ar y gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Sweden yn 2009

“Rhaid i mi ddiolch i Sophie Bennett, cyn-reolwr perfformiad merched Cymru hefyd, a hynny am sylwi ar fy mhotensial wrth fy  ngweld yn chwarae rygbi cyffwrdd mewn twrnament ysgol – a’m perswadio i fynd i lawr i fy nghlwb lleol – Cwins Caerdydd – i roi cynnig arni.

“Fe wnaeth hi’n bersonol berswadio hyfforddwyr dan 19 Cymru ar y pryd i’m dewis er ei bod hi’n amlwg nad oedd gen i syniad beth roeddwn i’n ei wneud. O’i herwydd hi hefyd y cefais fy ngalw yn ôl i garfan dan 20 Cymru ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Fyddwn i ddim wedi parhau gyda rygbi oni bai amdani.

“Trwy gydol uchafbwyntiau ac isafbwyntiau fy nghyrfa, mae fy nheulu wastad wedi bod yno i mi. O Seland Newydd i Ganada, maen nhw wedi bod yno i fy nghefnogi ym mwyafrif llethol y gemau rhyngwladol a 7 bob ochr yr wyf wedi eu chwarae ynddynt.

“I’m brawd Aron a fy nhad Gary, diolch am yr holl oriau rydych chi wedi’u treulio yn cicio pêl gyda fi ers fy mhlentyndod. Dau hyfforddwr da iawn.

“I’m mam, Nerys. Diolch am bopeth. Diolch am y miloedd o gacennau pice ar y mâ’n rydych chi wedi’u pobi ar gyfer y timau dros y blynyddoedd. Diolch i chi am fy nghefnogi ar y daith o dan 20 oed yng Nghanada flynyddoedd yn ôl – a gwneud ein holl welyau ! Diolch i chi am chwifio’ch cennin pedr yn angerddol yn ystod pob anthem i sicrhau fy mod yn gwybod ble roeddech chi’n eistedd, a diolch i chi am ddangos i mi sut beth yw gwir gryfder a gwytnwch.

“Diolch i’r hyfforddwyr sydd wedi fy nghefnogi a dangos ffydd ynof dros y blynyddoedd. I Dave & Tom ym Mryste, diolch i chi am fy narbwyllo i barhau i chwarae ddwy flynedd yn ôl, pan oeddwn i wedi dechrau colli ffydd yn fy nghyrfa – ac yn barod i roi’r gorau iddi. Fyddwn i ddim wedi gwybod sut brofiad oedd bod yn athletwr proffesiynol oni bai amdanoch chi.

“Diolch i Ioan (Cunningham) am fod â ffydd ynof fi, gan fy herio i fod yn well a’m cefnogi i wthio ymlaen i uchelfannau newydd yn ystod y 18 mis diwethaf. Ry’ch chi a Shaun (Connor) wedi dod â’r gorau allan ohonof –  ar y cae ac oddi arno hefyd.

“Diolch i’r chwaraewyr ddaeth o’m blaen. Y menywod a weithiodd yn ddiflino i osod rygbi Cymru ar y map. Dyma’r bobl oedd yn gorfod cyfuno gweithio’n llawn amser, tra’n gorfod ymddwyn a pharatoi fel chwaraewyr rhyngwladol – heb unrhyw gydnabyddiaeth a chefnogaeth fel ry’n ni wedi ei gael yn ddiweddar. Er nad oes llawer efallai yn gwybod eu henwau, mae dylanwad aruthrol y menywod hyn wedi’i wau yn ffibr y crysau rydyn ni’n eu gwisgo heddiw.

“Yn olaf, diolch i gefnogwyr ffyddlon ac angerddol Cymru. Doedd hi ddim wastad yn hawdd ein cefnogi dros y blynyddoedd, ond does gen i ddim amheuaeth y cewch eich gwobrwyo am eich ffydd yn y tîm – gan fod llwyddiant pellach ar y gorwel i’r garfan hon.

“Mae fy ngyrfa wedi bod yn siwrnai a hanner! Diolch yn fawr.”

Elinor Snowsill

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae wedi bod yn fraint hyfforddi Snowy ac mae’n bwysig bod Cymru’n dathlu chwaraewr sydd wedi rhoi cymaint i’r crys.

“Mae ei pharodrwydd i ddysgu a’i phroffesiynoldeb yn esiampl i’r garfan bresennol ac i unrhyw chwaraewr ifanc sydd eisiau chwarae dros Gymru.

“Rwy’n gwybod pa mor uchel ei pharch yw hi fel chwaraewr ac fel person yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei ffyddlondeb a’i hagwedd gadarnhaol yn esiampl i ni i gyd.

“Mae Snowy wastad wedi gosod pwyslais a dangos parch mawr at y chwaraewyr a ddaeth o’i blaen – osododd y sylfeini iddi hi a’r garfan bresennol allu cystadlu ar y lefel uchaf. Mae hi bellach yn un o’r chwaraewyr dylanwadol hynny y bydd y genhedlaeth nesaf yn ei hedmygu am dorri tir newydd – a byddant yn hynod ddiochgar iddi hi am hynny.

“Er ei bod bob amser yn drist gweld chwaraewyr yn ymddeol, mae gwybod na fydd hi’n cael ei cholli i’r gêm yn newyddion gwych. Bydd ei phrofiad, ei sgiliau cyfathrebu a’i dealltwriaeth o’r gêm yn amhrisiadwy i’r chwaraewyr y bydd hi’n eu hyfforddi ym Met Caerdydd.”

Dywedodd Nigel Walker, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro URC a Chyfarwyddwr Perfformiad yr Undeb: “Mae Elinor wedi bod yn un o’r ffigyrau mwyaf amlwg wrth i rygbi menywod yng Nghymru wella a dal sylw’r cyhoedd. Mae ei hagwedd hi wastad wedi bod yn broffesiynol.

“Yn bersonol, rwy’n drist ei gweld yn rhoi’r gorau iddi, ond rwyf wrth fy modd y bydd yn rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad gyda chwaraewyr talentog y dyfodol yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Met Caerdydd.

“Bydd cael rhywun mor brofiadol – sy’n gwybod yn iawn beth yw’r gofynion i chwarae ar y lefel uchaf – yn hynod werthfawr i’r holl chwaraewyr ifanc sydd bellach yn chwarae’r gêm.’Rwy’n siwr bod mwyafrif y chwarewyr hynny wedi cael eu hysbrydoli gan ei doniau ar y cae – ac hefyd gan ei hymddygiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr System Rygbi Met Caerdydd, Gareth Baber: “Hoffwn longyfarch Elinor ar ei gyrfa anhygoel a’r dylanwad y mae hi wedi’i gael yn ystod cyfnod mor allweddol yn hanes gêm y menywod. Fel un o’r chwaraewyr cyntaf i dderbyn cytundeb proffesiynol yng Nghymru, nid oes amheuaeth ei bod hi’n gadael gwaddol gwirioneddol ar ei hôl. Wrth edrych ymlaen, rydym yn falch iawn o groesawu Elinor i Met Caerdydd.

“Mae’r prosiect newydd yma’n hynod gyffrous i ni ac Undeb Rygbi Cymru  wrth i ni ddatblygu chwaraewyr rygbi rhyngwladol newydd ar gyfer ein gwlad. Bydd profiad Elinor yn amhrisiadwy i’r chwaraewyr sy’n rhan o’r cynllun. ‘Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ei gweld yn cyd-weithio gyda Lisa Newton – ein Prif Hyfforddwr Merched yma yn y Met,i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr i’r Met ac i Gymru.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Rhino Rugby
Sportseen
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol
Amber Energy
Opro
Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol