Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023

Bydd Dewi Lake a Jac Morgan yn cyd-gapten Cymru yng Nghwpan y Byd

Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi cadarnhau ei garfan ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2023, fydd yn cael ei chynnal yn Ffrainc yr hydref hwn.

Rhannu:

Mae 19 o flaenwyr ac 14 o olwyr wedi eu cadarnhau yn y garfan derfynol o 33 gyda chyfartaledd oedran o 27. Mae gan 17 o’r chwaraewyr brofiad blaenorol o gystadlu yng Nghwpan y Byd.

Aelodau o’r teulu rygbi, o gymunedau o bob cwr o Gymru, gafodd y fraint o gyhoeddi’r garfan a hynny mewn fideo eiconig oedd yn cynnwys delweddau trawiadol o wahanol leoliadau adnabyddus o’n gwlad.Defnyddiwyd lluniau o’r garfan o ddyddiau cynnar iawn eu gyrfaoedd yn y fideo hefyd.

Gallwch wylio’r holl fideo yma:

Mae Dewi Lake a Jac Morgan wedi cael eu dewis yn gapteiniaid ar y cyd. Dyma fydd y tro cyntaf iddynt gystadlu yng Nghwpan y Byd.

George North, yw’r chwaraewr mwyaf profiadol i gael ei gynnwys yn y garfan. Mae ganddo 114 o gapiau hyd yma a dyma fydd y pedwerydd tro iddo gystadlu yng Nghwpan y Byd.

Mae gan Dan Biggar 109 o gapiau hyd yn hyn a bydd ef a’r mewnwr Gareth Davies, y prop pen tynn Tomas Francis, y blaen-asgellwr Dan Lydiate a’r cefnwyr Leigh Halfpenny a Liam Williams yn cymryd rhan yn eu trydedd cystadleuaeth ar gyfer Cwpan y Byd.

Enillodd prop pen rhydd Caerdydd, Corey Domachowski a phrop pen tynn Montpellier, Henry Thomas eu capiau cyntaf lai na mis yn ôl – ac mae’r ddau wedi llwyddo i hawlio’u lle yn y garfan derfynol.

Dafydd Jenkins, sy’n ugain oed, fydd aelod ifancaf y garfan.

“Y rhan anoddaf o fy swydd yw gwneud dewisiadau fel hyn – yn enwedig felly pan fo lle yng ngharfan Cwpan y Byd yn y fantol” dywedodd Gatland.

“Dros y tri mis diwethaf, mae’r grŵp cyfan o 48 o chwaraewyr sydd wedi ymarfer gyda’r garfan wedi arddangos agwedd ac ymdrech hollol wych – ac felly mae gorfod torri’r garfan i lawr i 33 wedi bod yn galed iawn. Yn ystod y 36 awr diwethaf, mae llawer o benderfyniadau agos iawn am nifer o safleoedd wedi gorfod cael eu gwneud.

“Dim ond 33 o chwaraewyr yr ydym yn cael eu cymryd i Ffrainc ac ‘rwy’n credu ein bod wedi dewis carfan gytbwys o ran dawn a phrofiad.

“Mae gennym ychydig mwy o sesiynau ymarfer yma yng Nghymru cyn i ni ei throi hi am Ffrainc ar Fedi’r 3ydd. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth ac hefyd at weld beth y gallwn ei gyflawni allan yno.
“Bydd derbyn cadarnhad eu bod wedi cael eu cynnwys yn y garfan derfynol yn eiliad arbennig o gofiadwy i’r chwaraewyr yma – ac i’w teuluoedd a’u ffrindiau hefyd. Hoffwn eu llongyfarch am gael eu dewis.”

Mae Cymru yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd gyda Awstralia, Fiji, Georgia a Phortiwgal. Mae eu gemau fel a ganlyn:
Dydd Sul, 9 Medi: Cymru v Fiji, Stade de Bordeaux (cic gyntaf 8.00 BST)
Dydd Sadwrn, 16 Medi: Cymru v Portiwgal, Stade de Nice (4.45pm BST)
Dydd Sul, 24 Medi: Cymru v Awstralia, Stadiwm OL, Lyon (8.00pm BST)
Dydd Sadwrn, 7 Hydref: Cymru v Georgia, Stade de la Beaujoire, Nantes (2.00pm BST).

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn Ffrainc

(Chwaraewr | Clwb cyntaf | Clwb | Capiau dros Gymru | Profiad Cwpan y Byd)

BLAENWYR (19)
Taine Basham – Talywaun | Dreigiau (13 cap)
Adam Beard – Gellifedw | Gweilch (47 cap) (CyB 2019)
Elliot Dee – Trecelyn | Dreigiau |  (43 cap) (CyB 2019)
Corey Domachowski – Gilfach Goch | Caerdydd (2 gap)
Ryan Elias – Clwb Athetig Caerfyrddin | Scarlets (34 cap) (CyB 2019)
Taulupe Faletau – RTB Glyn Ebwy | Caerdydd | (100 cap) (CyB 2011)
Tomas Francis – Malton & Norton | Provence | (72 cap) (CyB 2015 & 2019)
Dafydd Jenkins – Porthcawl | Caerwysg (7 cap)
Dewi Lake – Valley Ravens | Gweilch (9 cap)
Dillon Lewis – Beddau | Harlequins (51 cap) (CyB 2019)
Dan Lydiate –Rhaeadr Gwy | Dreigiau (71 cap) (CyB 2011 & 2015)
Jac Morgan – Cwmtwrch | Gweilch (11 cap)
Tommy Reffell – Pencoed | Caerlŷr (10 cap)
Will Rowlands – Dreigiau (25 cap)
Nicky Smith – Waunarlwydd | Gweilch (44 cap) (CyB 2019)
Gareth Thomas – Castell Newydd Emlyn | Gweilch (22 cap)
Henry Thomas – Tîm Ieuenctid Caerfaddon | Montpellier (2 gap)
Christ Tshiunza – Rhiwbeina | Caerwysg (7 cap)
Aaron Wainwright – Whiteheads | Dreigiau (39 cap) (CyB 2019)

OLWYR (14)
Josh Adams – Yr Hendy | Caerdydd (50 Cap) (CyB 2019)
Gareth Anscombe – Ponsonby | Tokyo Suntory Sungoliath (35 cap) (CyB 2015)
Dan Biggar – Gorseinon | Toulon (109 Cap) (CyB 2015 & 2019)
Sam Costelow – Pencoed | Scarlets (4 cap)
Gareth Davies – Castell Newydd Emlyn | Scarlets (69 Cap) (CyB 2015 & 2019)
Rio Dyer – Rhisga | Dreigiau (9 cap)
Mason Grady – Y Barri | Caerdydd (4 cap)
Leigh Halfpenny – Gorseinon | heb glwb (100 Cap) (CyB 2011 & 2019)
George North – Llangefni | Gweilch (114 Cap) (CyB 2011, 2015 & 2019)
Louis Rees-Zammit – Tredelerch | Caerloyw (27 cap)
Nick Tompkins – Old Elthamians | Saraseniaid (28 cap)
Johnny Williams – Rams | Scarlets (6 cap)
Liam Williams – Waunarlwydd | Penlan | Kubota Spears (85 Cap) (CyB 2015 & 2019)
Tomos Williams – Treorci | Caerdydd (48 cap) (CyB 2019)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023
Amber Energy
Opro
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd 2023