Neidio i'r prif gynnwys
Wales Women

Abbey Constable, Courtney Keight, Hannah Bluck, Carys Williams-Morris, Meg Davies, Bryonie King a Kate Williams wedi sicrhau cytundebau llawn amser

Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi saith chwaraewr proffesiynol llawn amser ychwanegol ar gyfer carfan Menywod Cymru, cyn cystadleuaeth haen uchaf y WXV yn Seland Newydd ym mis Hydref.

Roedd gan garfan Ioan Cunningham 24 o chwaraewyr proffesiynol ar gyfer ymgyrch ddiweddar y Chwe Gwlad – pan hawliwyd y trydydd safle â sicrhaodd y chweched safle i’r tîm ymhlith detholion y byd.

Y cefnwr Courtney Keight, y canolwr Hannah Bluck, yr asgellwr Carys Williams-Morris, y prop Abbey Constable, y blaenwyr Kate Williams a Bryonie King a’r mewnwr Megan Davies yw’r ychwanegiadau i’r statws proffesiynol.

Bydd yr olwyr Jasmine Joyce a Kayleigh Powell yn dychwelyd i’r garfan hŷn ar gytundebau mewn partneriaeth â thîm 7 bob ochr Prydain – fydd yn withredol dros gyfnod y WXV a Phencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.

Bydd gan Gymru bellach 32 o chwaraewyr proffesiynol, llawn amser, ar gyfer ymgyrch 2023/24.
Bydd Joyce, sydd wedi cystadlu ddwywaith yn y Gemau Olympaidd ac sydd wedi ennill 31 o gapiau dros Gymru, yn dychwelyd i’r tîm cenedlaethol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd.

Mae’r asgellwr Carys Williams-Morris, sydd â statws athletwr elît yn yr awyrlu, bellach ar gytundeb llawn amser mewn partneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r awyrlu.

Enillodd Kate Williams, Bryonie King a’r prop Abbey Constable eu capiau cyntaf dros Gymru yn ystod y Chwe Gwlad eleni tra bo’r canolwr Hannah Bluck, wedi ennill wyth cap dros ei gwlad, a theirgwaith y mae’r mewnwr Megan Davies wedi gwisgo’r crys coch hyd yma.

Ni fydd Keight na Powell yn ymddangos yn y WXV gan eu bod wedi eu hanafu.

Enillodd Cymru o 36-10 yn Yr Eidal yn Parma yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i goroni’r ymgyrch orau ganddynt yn y Bencampwriaeth ers 14 mlynedd.

Bydd tîm Cunningham yn wynebu UDA yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, 30 Medifed (CG: 2:30pm) mewn gêm baratoi ar gyfer eu taith i Seland Newydd.

Gemau Cymru yn y WXV
· Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (CG: 4pm amser lleol)
· Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (CG: 4pm amser lleol)
· Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3ydd, Go Media Mount Smart Stadium, Auckland (CG: 7pm amser lleol)

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cytundebau hyn i’r chwaraewyr. Mae’n fuddsoddiad sylweddol gan yr Undeb ac mae’n dangos y gwerth y mae URC yn ei weld yn rygbi menywod.

“Dyma ddechrau ein trydydd tymor fel carfan broffesiynol ac rydym eisoes wedi gweld y manteision gyda’n perfformiadau yn y Chwe Gwlad a’r ffaith ein bod wedi hawlio’n lle yn haen uchaf y WXV, pan fyddwn yn chwarae timau gorau’r byd yn Seland Newydd.

“Mae’r chwaraewyr i gyd bellach yn deall yr hyn sydd ei angen i fod yn athletwr elitaidd ac mae cyhoedd Cymru wedi dangos eu bod yn gwerthfawrogi’r holl waith caled hwnnw. Dangoswyd hynny’n glir pan werthwyd pob tocyn ar gyfer gêm Lloegr yn y Chwe Gwlad.

“Mae ychwangeu mwy o chwaraewyr proffesiynol i’r garfan yn golygu ein bod yn cael mwy o amser i’w hyfforddi a gall hynny ond ein gwneud yn well tîm.

“Mae creu cystadleuaeth am lefydd yn y tîm wastad yn codi safonau ym mhob carfan ac rydym eisoes wedi elwa ar hynny dros y ddau dymor diwethaf.

“Rydym wedi gweld gwledydd eraill yn cynyddu nifer y chwaraewyr sydd o dan gontract hefyd ac mae’n rhaid i ni werthfawrogi a manteisio ar y ffaith bod cymaint o’cn chwaraewyr ni bellach yn athletwyr llawn amser.”

Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredol Dros Dro URC: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y garfan hon yng Nghymru, ac rydym yn gwybod na all y tîm sefyll yn llonydd. Er mwyn cystadlu gyda’r goreuon – mae’n rhaid eu hwynebu’n gyson ac er bo her y WXV yn sylweddol – mae hefyd yn gyffrous.
“Mae’r chwaraewyr wedi dangos gwerth y cytundebau hyn yn ystod y Chwe Gwlad diwethaf.

“Mae Ioan, ei hyfforddwyr a’i staff wedi creu diwylliant proffesiynol ac mae’r chwaraewyr wedi deall yr hyn sydd ei angen i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Maen nhw’n amlwg yn mwynhau bod gyda’r garfan ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu ar y cae hefyd.

“Roedden ni i gyd wedi mwynhau a gwerthfawrogi sut wnaeth Ioan a’i chwaraewyr ddal dychymyg y cyhoedd y tymor diwethaf ac mae’r posibilrwydd o fesur eu hunain yn erbyn timau gorau’r byd yn Seland Newydd yn tynnu dŵr i’r dannedd”

Rhannu:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV
Amber Energy
Opro
Cymru’n cadarnhau saith cytundeb proffesiynol arall cyn y WXV