Neidio i'r prif gynnwys
WXV

Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1

Mae carfan Menywod Cymru a’u Hyfforddwr Ioan Cunningham bellach yn gwybod trefn eu gemau  a’u gwrthwynebwyr ym mhencampwriaeth aroesol y WXV yn Seland Newydd ym mis Hydref.

Rhannu:

Yn cystadlu yn haen uchaf y WXV, bydd y tri thîm gorau ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni – Cymru, Lloegr a Ffrainc – a thri thîm gorau Rhanbarth y Môr Tawel (Pac Four) – Seland Newydd, Awstralia a Chanada – mewn cyfres o gemau prawf yn Seland Newydd dros gyfnod o fis.

Bydd y chwe thîm – Seland Newydd, Awstralia, Canada, Lloegr, Ffrainc a Chymru – yn cystadlu mewn naw gêm brawf mewn tair dinas, ar dri phenwythnos gwahanol, er mwyn ceisio cael eu coroni’n Bencampwyr cyntaf WXV1.

DFP – Leaderboard

Bydd Cymru’n wynebu Canada yn Wellington, ac yna Seland Newydd yn Dunedin, cyn herio Awstralia yng nghartref tîm rygbi cynghrair Seland Newydd, y Warriors, yn Auckland.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r cyhoeddiad am drefn ein gemau yn wirioneddol gyffrous ond mae hefyd yn tanlinellu’r dasg sydd o’n blaenau – gan ein bod am wynebu rhai o dimau gorau’r byd.

“Ry’n ni wedi ennill yr hawl i chwarae’n rhan yn y gystadleuaeth bwysig hon – fydd yn dechrau wrth i Gwpan y Byd y dynion dynnu at ei therfyn. Bydd Canada, Seland Newydd – pencampwyr presennol y byd, ac Awstralia yn wrthwynebwyr aruthrol, ond rydym yn falch iawn o’r cyfle i brofi ein hunain yn eu herbyn.

“Mae’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a staff yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi hawlio’n lle yn y bencampwriaeth newydd sbon a hanesyddol yma. Fe wellodd ein perfformiadau a’n canlyniadau yn ystod y Chwe Gwlad diwethaf ac ry’n ni wedi cymryd camau breision i’r cyfeiriad cywir gan osod rhai sylfeini cadarn yn y broses hefyd.

“Ry’n ni’n gwybod yn iawn bod yr her sy’n ein wynebu yn sylweddol gan bod safon ein gwrthwynebwyr yn arbennig. Ond mae’r holl garfan yn teimlo’n gyffrous am fod ar y llwyfan mawr gyda gwrthwynebwyr o’r fath.

“Fel carfan dyma lle rydyn ni eisiau bod, yn chwarae’r timau gorau yn y byd, mewn stadiymau rygbi gwych wrth i ni barhau ar ein taith ac adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2025 yn Lloegr.

“Mae gwella ein gêm a datblygu cryfder ein carfan yn allweddol i ni. R’yn ni’n gwybod popeth am Seland Newydd ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddar. Fe dreulion ni amser gwerthfawr iawn gyda’n gilydd fel carfan bryd hynny – ac fe dalodd hynny ar ei ganfed i ni yn y Chwe Gwlad.”

Gemau WXV Cymru

  • Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21Sain, Stadiwm Sky, Wellington (CG: 4pm amser lleol)
  • Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (CG: 4pm amser lleol)
  • Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3Rd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (CG: 7pm amser lleol)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1
Amber Energy
Opro
Cymru ar fin wynebu goreuon y byd yn WXV1