Neidio i'r prif gynnwys
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada

Lucy Isaac yn cystadlu'n y lein yn erbyn UDA

Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada

Mae Liza Burgess, Prif Hyfforddwr Menywod dan 20 Cymru, wedi enwi’r tîm ar gyfer ail gêm taith Gogledd America pan fyddant yn wynebu Canada ym Mharc Rygbi Elms, Ottawa, Canada, ddydd Iau, Gorffennaf 13eg (CG: 6:30pm amser lleol).

Rhannu:

Collodd Cymru o drwch blewyn yn y gêm gyntaf er iddyn nhw sgorio 22 o bwyntiau heb eu hateb yn erbyn yr Unol Daleithiau’r wythnos ddiwethaf. 28-27 oedd y canlyniad.

Bydd y canolwr Jenna De Vera, a gafodd ei dewis ar gyfer prif garfan Menywod Cymru ar gyfer ymgyrch ddiweddar y Chwe Gwlad, yn gapten ar y tîm am yr eildro, gyda Jess Rogers yn is-gapten.

DFP – Leaderboard

Mae’r Prif Hyfforddwr, Burgess wedi gwneud pum newid i’r pymtheg cychwynol. Mae dau newid yn y pac, gyda’r prop Dali Hopkins a’r bachwr Molly Wakely yn hawlio’u lle yn y rheng flaen.

Mae Carys Hughes wedi cael ei dewis yn safle’r maswr gyda Kate Davies wedi ei chynnwys ar yr asgell. O’r herwydd mae Nel Metcalfe yn symud i safle’r cefnwr.

Collodd tîm o dan 20 Canada o 40-24 yn erbyn yr Americanwyr y penwythnos diwethaf – ddylai roi gobaith i’r Cymry am ganlyniad cadarnhaol ddydd Iau.

Fe wnaeth Cymru enwi carfan o 28 o bobl ifanc a chyffrous i wynebu tîm dan 20 Canada ac UDA dan 20 oed mewn dwy gêm yn Ottawa yr haf hwn.

Dywedodd Liza Burgess, Prif hyfforddwr Merched dan 20 Cymru:

“Mae’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at wynebu ein gwesteion ar eu tomen eu hunain ac rydym yn disgwyl iddynt ymateb yn bositif wedi iddyn nhw golli yn erbyn yr Unol Daleithiau.

“Ond, ry’n ni’n canolbwyntio ar ein cryfderau ein hunain ac adeiladu ar ein perfformiad ni erbyn yr UDA.
Fe ddangoson ni gymeriad go iawn yn enwedig yn ystod yr ail hanner.

“Mae gennym chwaraewyr yn y garfan hon sydd ag awydd mawr i ddysgu a gwella ac maen nhw wedi dangos bod ganddyn nhw ddyfodol disglair ar lefel uchaf y gêm.

“Roedd colli o drwch blewyn yn erbyn UDA yn siomedig ond rydyn ni’n gwybod beth allwn ni fel carfan ei gyflawni ac mae’r chwaraewyr eisiau perfformiad 80 munud llawn y tro yma.

“Mae’n addo bod yn gystadleuol iawn ac mae’n ornest ac achlysur yr ydyn ni gyd yn edrych ymlaen ato.”

Cymru dan 20 v Canada Dan 20 oed

• 15. Nel Metcalfe
• 14. Kate Davies
• 13. Ellie Tromans
• 12. Jenna De Vera (C)
• 11. Seren Singleton
• 10. Carys Hughes
• 9. Molly Reardon

• 1. Dali Hopkins
• 2. Molly Wakely
• 3. Katie Carr
• 4. Alaw Pyrs
• 5. Jenn Jones
• 6. Jess Rogers
• 7. Lucy Issac
• 8. Gwennan Hopkins

Eilyddion: Rosie Carr, Cana Williams, Chloe Thomas-Bradley, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Sian Jones, Finley Jones, Maisie Davies, Molly Anderson-Thomas, Chelsea Williams, Kim Thurlow.

Carfan o dan 20 Cymru ar gyfer Taith Gogledd America:

Blaenwyr:
Alaw Pyrs – (Hartpury)
Cadi-Lois Davies – (Llanbedr Pont Steffan)
Cana Williams – (Prifysgol Loughborough)
Chloe Thomas Bradley – (Academi y Dreigiau)
Dali Hopkins – (Hartpury)
Erin Jones – (RGC)
Finley Jones – (Porth Tywyn)
Gwennan Hopkins- (Hartpury)
Jess Rogers- (Met Caerdydd, is-gapten)
Katie Carr- (Met Caerdydd)
Lucy Isaac- (Academi y Dreigiau)
Maisie Davies- (Porth Tywyn)
Molly Wakely- (Coleg Gwent)
Robyn Davies – (Hartpury)
Rosie Carr- (Met Caerdydd)

 

Olwyr:
Bethan Adkins- (Heb Glwb)
Carys Hughes- (Hartpury)
Chelsea Williams- (Nelson)
Ellie Tromans – (Prifysgol Caerdydd)
Jenna De Vera- (Prifysgol Bryste, Capten)
Kate Davies – (Prifysgol Bangor)
Kim Thurlow- (Prifysgol Caerfaddon)
Molly Anderson-Thomas – (Prifysgol Loughborough)
Molly Mae Powell- (Academi y Dreigiau)
Molly Reardon- (Nelson)
Nel Metcalfe- (Hartpury)
Seren Singleton- (Met Caerdydd)
Sian Jones- (Sale)

DIWEDD

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Rhino Rugby
Sportseen
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada
Amber Energy
Opro
Menywod dan 20 Cymru’n cyhoeddi pum newid i wynebu Canada