Mae Ieuan Evans wedi cadarnhau ei fod yn gadael Bwrdd Undeb Rygbi Cymru ac o’r herwydd yn gadael ei swydd fel Cadeirydd yr Undeb. Bydd hynny’n digwydd yn ffurfiol ar yr 17eg o Orffennaf pan fydd y Cadeirydd Annibynnol newydd, Richard Collier-Keywood yn cymryd yr awennau. Ymunodd Ieuan Evans â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn […]
Mae Ieuan Evans wedi cadarnhau ei fod yn gadael Bwrdd Undeb Rygbi Cymru ac o’r herwydd yn gadael ei swydd fel Cadeirydd yr Undeb.
Bydd hynny’n digwydd yn ffurfiol ar yr 17eg o Orffennaf pan fydd y Cadeirydd Annibynnol newydd, Richard Collier-Keywood yn cymryd yr awennau.
Ymunodd Ieuan Evans â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn 2020 a dwy flynedd wedi hynny cafodd ei ethol yn Gadeirydd. Ers ei benodiad i’r Gadair yn Nhachwedd 2022, fe arweiniodd Evans gynllun i foderneiddio URC o’r cychwyn cyntaf ac elfen greiddiol o’r cynllun hwnnw oedd penodi Cadeirydd Annibynnol.
Gweithiodd Ieuan Evans yn ddiflino i sicrhau cefnogaeth y clybiau i’w gynlluniau ac mae wedi chwarae rhan amlwg iawn yn y broses o benodi’r Cadeirydd newydd.
Cyhoeddwyd ar Fehefin 15ed mai Richard Collier-Keywood fyddai’n olynu Evans yn y Gadair. Cyhoeddwyd hefyd y byddai Alison Thorne yn ymuno gyda’r Bwrdd fel aelod annibynnol wrth ddechrau’r gwaith o greu newid aruthrol yng nghoridorau grym Undeb Rygbi Cymru.
Bydd Ieuan Evans, sydd hefyd yn Gadeirydd y Llewod, yn camu’n ôl o Fwrdd URC i ganiatáu i’r cynlluniau gafodd eu cefnogi mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol fis Mawrth diwethaf gael eu gweithredu. Dywedodd Ieuan Evans:
“Mae penodiad y Cadeirydd newydd yn sbardun i bopeth arall yr ydym wedi bod yn ymgyrchu drosto o ran moderneiddio Undeb Rygbi Cymru ac felly, er gwaethaf y ffaith ei fod yn golygu camu yn ôl fy hun, rwy’n falch iawn o fod yn trosglwyddo’r awennau i Richard.
“Mae hi wedi bod yn fraint arbennig cael bod yn Gadeirydd. Er bod y cyfnod diweddar wedi bod yn heriol mewn cyfnod o newid mawr, ‘rwy’n gadael y swydd yn hyderus iawn am ddyfodol rygbi Cymru.
“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gynrychioli Cymru ar y maes chwarae, ac ‘rwyf hefyd wedi mwynhau cynnig fy ngwasanaeth i’r Bwrdd dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae fy nhydweithwyr a minnau wedi rhoi o’n gorau i wneud yn siwr y bydd y gwelliant yn ein llywodraethiant yn talu ar ei ganfed yn y pendraw.
“Pan gefnogodd 97% o’r clybiau ein cynlluniau i foderneiddio yn y Cyfarfod Eithriadol Arbennig ym mis Mawrth, fe gafodd y Bwrdd fandad clir i wireddu potensial rygbi Cymru ar lefel gymunedol a phroffesiynol.
“Doedd neb yn hapusach na fi ar y diwrnod hwnnw ym Mhort Talbot er my mod yn gwybod y byddai fy amser ar flaen y gad yn dod i ben yn fuan wedi hynny.
“Pan oeddwn yn chwarae, ‘roedd gennym ddywediad mai benthyg y crys oedden ni er mwyn ei basio ‘mlaen i’r genhedlaeth nesaf mewn gwell cyflwr. ‘Rwy’n teimlo’n debyg iawn wrth drosglwyddo y baton i Richard, Alison a’r Cyfarwyddwyr newydd eraill ac ‘rwy’n gwneud hynny yn llawn optimistiaeth a hyder bod y gêm y mae’r genedl hon yn ei charu, sy’n rhan annatod o DNA ein gwlad, mewn dwylo diogel.”
Mae’r broses o benodi mwy o Gyfarwyddwyr Annibynnol a Phrif Weithredwr parhaol yn parhau a bydd y penodiadau hyn yn cael eu cadarnhau erbyn diwedd yr haf.
Mae’r Cadeirydd newydd, Richard Collier-Keywood, wedi talu teyrnged bersonol i Ieuan Evans am ei waith wrth foderneiddio llywodraethiant yr Undeb – ac hefyd fel pencampwr y gêm gymunedol.
Fe ganmolodd Evans hefyd am ei waith wrth selio partneriaeth chwe blynedd newydd ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru. Dywedodd Collier-Keywood:
“Rwy’n gwybod bod Ieuan wedi bod yn bencampwr dros newid a moderneiddio ers iddo ymuno â’r Bwrdd, ac mae wedi ymgyrchu yn ddi-baid ers ei benodi’n Gadeirydd yn 2022. Bydd yn cael ei gofio yn y llyfrau hanes fel y dyn a foderneiddiodd strwythur llywodraethu rygbi Cymru.
“Mae’r clybiau’n haeddu eu canmol am gefnogi newidiadau Ieuan – ond fe a’i Fwrdd fu’r catalydd ar gyfer newid.
“Mae Ieuan wedi chwarae rhan amlwg iawn wrth sicrhau gwelliannau yn y gêm broffesiynol ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwyddiant ein timau proffesiynol ac i gynaliadwyedd ar bob lefel o’r gêm yng Nghymru.
“Mae’r cyfrifoldeb nawr arnom ni – aelodau newydd y Bwrdd – i barhau â’r gwaith hwn.”