News

Dilyn taith Luchia i ddysgu Hen Wlad Fy Nhadau

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae Luchia, o Lanedern, Caerdydd wedi ysgrifennu at Undeb Rygbi Cymru o fyn am help llaw i ddysgu Hen Wald Fy Nhadau.

Fe ddywedodd Luchia: “Ers i mi fod yn ferch fach, ‘rwyf wedi ei chael hi’n anodd i ddysgu Cymraeg – ond ers diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd a nawr yn yr ysgol uwchradd – mae pethau’n llawer iaws ac yn llawer o hwyl.”

Aeth Luchia i Tafwyl y penwythnos diwethaf – Gŵyl Gymraeg arbennig yng nghanol Canol Caerdydd. Fe gafodd hi amser da a chyngor gwych gan y Prif Weinidog hyd yn oed !

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio ffilmio tair eitem yn dilyn taith Luchia i ddysgu’r anthem yn ystod y misoedd nesaf ac fe gawn weld sut hwyl y bydd hi wedi ei gael erbyn y Chwe Gwlad. Ychwanegodd Luchia:

“O fod yn Gymraes, ‘rwy’n meddwl ei bod hi’n dda i ni wybod ein Hanthem Genedlaethol a’n iaith frodorol. ‘Rwy’n meddwl bod hynny’n anhygoel.”

Gallwch ddilyn taith Luchia dros y misoedd nesaf – ac os oes gennych ddiddordeb ceisio dysgu Cymraeg – bydd Undeb Rygbi Cymru yn cydweithio gyda Dysgu Cymraeg i gynnig sesiwn flasu i holl gefnogwyr Cymru cyn Cwpan y Byd ym mis Medi.

Related Topics

News