Mae’r Capten, Jenna De Vera yn edrych ymlaen yn fawr at arwain tîm Menywod o dan 20 Cymru yn ystod eu dwy gornest ar daith yng Ngogledd America.
Bydd De Vera a’i thîm yn wynebu’r Unol Daleithiau heno (Mawrth) yn Ottowa, Canada am 6.30pm amser lleol.
Mae 28 o chwaraewyr sydd eto i ennill cap o dan 20 wedi eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y daith fydd yn rhoi’r cyfle i’r Cymry wynebu chwaraewyr gorau Gogledd America o’r un oedran.
Bydd ail gêm y daith yn rhoi’r cyfle i’r crysau cochion wynebu Canada – ar yr un maes – ar y 13eg o Orffennaf. (Hefyd am 6.30 amser lleol).
Cafodd De Vera, sy’n 19 oed, ei chynnwys ym mhrif garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni. Jess Rogers yw ei hîs-gapten ar gyfer y daith hon.
Dywedodd Jenna De Vera, Canolwr o dan 20 a Chapten Cymru: “ Mae’n fraint anhygoel cael arwain fy ngwlad ac ‘rwy’n cymryd fy nghyfrifoldeb o ddifrif. Mae cael y cyfle i chwarae yng ngemau’r Her Celtaidd a threulio amser gyda phrif garfan Cymru wedi dylanwadu’n fawr arnaf ac wedi fy helpu i osod safonau penodol i fi fy hun.
“Mae’r profiad o fod ar y daith hon yn gyffrous iawn ac mae’r garfan i gyd yn teimlo yr un fath. ‘Ry’n ni wedi dysgu llawer iawn wrth dreulio amser gyda’n gilydd ac mae’n rhaid i ni ddangos yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu yn y gemau sydd i ddod.
“Ry’n ni’n gwybod y bydd y gemau hyn yn cynnig her arbennig o gorfforol i ni ond mae gennym y sgiliau a’r gallu i ennill y ddwy ornest.
‘Mae’n anodd credu weithiau, pa mor freintiedig yr ydym ni i gael y cyfle yma. Doedd y genhedlaeth o’n blaenau ni’n bendant ddim wedi profi’r un cyfleoedd. Mae’n arwydd clir o’r datblygiad cyffrous sy’n digwydd yn rygbi merched a menywod ar hyn o bryd.
“Er ein bod yn anelu at guro’r Unol Daleithiau heno – ein perfformiad a’n datblygiad yw’r peth pwysicaf gan ein bod yn adeiladu tuag at y dyfodol”.
Bydd pob un o’r Menywod fydd yn cynrychioli Cymru yn ystod y daith yn ennill eu capiau cyntaf o dan 20.
Mae 16 o’r chwaraewyr wedi graddio o’r garfan o dan 18 ac mae’n cynnwys 7 o chwaraewyr â gystadlodd yn yr Her Celtaidd yn erbyn gwrthwynebwyr o’r Alban ac Iwerddon.
Cymru dan 20 v Yr Unol Daleithiau dan 20
15 Bethan Adkins
14 Seren Singleton
13 Ellie Tromans
12 Jenna De Vera (C)
11 Nel Metcalfe
10 Chelsea Williams
9 Molly Reardon;
1 Cana Williams
2 Rosie Carr
3 Katie Carr
4 Alaw Pyrs
5 Erin Jones
6 Jess Rogers
7 Lucy Issac
8 Gwennan Hopkins
Eilyddion: Molly Wakely, Chloe Thomas-Bradley, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Masie Davies, Finley Jones, Sian Jones, Molly Anderson Thomas, Molly Powell, Carys Hughes, Kim Thurlow.
Carfan o dan 20 Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America:
BLAENWYR:
Alaw Pyrs – (Hartpury)
Cadi-Lois Davies – (Llanbedr Pont Steffan)
Cana Williams – (Prifysgol Loughborough)
Chloe Thomas Bradley – (Academi’r Dreigiau)
Dali Hopkins – (Hartpury)
Erin Jones – (Rygbi Gogledd Cymru)
Finley Jones – (Porth Tywyn)
Gwennan Hopkins- (Hartpury)
Jess Rogers- (Met Caerdydd – Îs-gapten)
Katie Carr- (Met Caerdydd)
Lucy Isaac- (Academi’r Dreigiau)
Maisie Davies- (Porth Tywyn)
Molly Wakely- (Coleg Gwent)
Robyn Davies – (Hartpury)
Rosie Carr- (Met Caerdydd)
OLWYR:
Bethan Adkins- (Heb glwb)
Carys Hughes- (Hartpury)
Chelsea Williams- (Nelson)
Ellie Tromans – (Prifysgol Caerdydd)
Jenna De Vera- (Prifysgol Bryste, Capten)
Kate Davies- (Prifysgol Bangor)
Kim Thurlow- (Prifysgol Caerfaddon)
Molly Anderson-Thomas – (Prifysgol Loughborough)
Molly Mae Powell- (Academi’r Dreigiau)
Molly Reardon- (Nelson)
Nel Metcalfe- (Hartpury)
Seren Singleton- (Met Caerdyd)
Sian Jones- (Sale)