Neidio i'r prif gynnwys
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20

Morgan Morse yn anelu at y llinell gais

14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20

Daeth gobeithion Cymru dan 20 o ennill Pencampwriaeth y Byd i ben yn Stadiwm Athlone, Cape Town heddiw wrth i 14 dyn Ffrainc ddangos eu doniau unwaith yn rhagor.

Rhannu:

Les Bleuets sydd wedi ennill y Bencampwriaeth hon ar y ddau achlysur diwethaf ac ‘roedd eu perfformiadau yn nwy gêm agoriadol Grŵp A yn erbyn Japan a Seland Newydd y arwydd clir o’u safon a’u bygythiad eto eleni.

Chwalwyd Cymru yn Oyonnax yn y Chwe Gwlad o 67-17 ym mis Mawrth pan sgoriodd y Ffrancod 11 cais ac fe grëon nhw argraff fawr ar y sgorfwrdd yn ystod y 10 munud cyntaf heddiw hefyd.

DFP – Leaderboard

Wedi 3 munud agorodd Clément Mondinat y sgorio gyda gôl gosb syml ac yna wedi hynny gwelwyd cyfnod o reolaeth a bygwth gan y Cymry yn eu crysau gwynion. Gwrthodwyd y cyfle am driphwynt hawdd ond wrth fynd am y gwyngalch, rhyngipiodd Mael Moussa y bêl gan greu cais hawdd i’r capten Nicolas Depoortere. Y Ffrancod ar y blaen o 10 pwynt wedi dim ond deng munud o chwarae.

Dri munud yn ddiweddarach, rhoddwyd hwb i obeithion y Cymry wrth i’r bachwr Barnabe Massa weld cerdyn coch am dacl esgeulus. Ond gwta 3 munud wedi hynny – eto yn erbyn rhediad y chwarae – croesodd Mondinat am gais fanteisiodd ar daclo gwallus y gwrthwynebwyr.

Mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau funud yn ddiweddarach wrth i wrthymosod hyfryd Ffrainc arwain at eu trydydd cais – y mewnwr Léo Carbonneau yn croesi’r tro hwn. Gyda chicio cywir Mondinat, ‘roedd 14 dyn Les Bleuets ar y blaen o 24 pwynt o fewn yr hanner awr cyntaf.

Gyda symudiad olaf y cyfnod cyntaf – hawliodd Cymru eu pwyntiau cyntaf o’r prynhawn wrth i Ffrainc fethu ag atal hyrddiad y blaenwyr o lein ymosodol. Seb Driscoll o’r Harlequins gododd o waelod y pentwr cyrff i ddathlu ei gais cyntaf o’r Bencampwriaeth. Gyda throsiad campus Dan Edwards, roedd rhywfaint o obaith yn perthyn i ystafell newid y Cymry ar yr egwyl.

Hanner Amser: Cymru 7 Ffrainc 24

Gyda’r gwynt ar eu cefnau,’ ‘roedd y gwynt yn hwyliau’r Ffrancod eto wedi llai na dau funud o’r ail hanner gan i Depoortere dirio ei ail gais o’r gêm gan hawlio pwynt bonws i’w wlad yn y broses. Parhaodd anel berffaith Mondinat gyda’i drosiad.

Dangosodd Ryan Woodman a’i chwaarewyr wir gymeriad a dyfalbarhad ac ‘roedd cryfder Tom Florence ar yr asgell yn amlwg wrth iddo hawlio’i ail gais o’r gystadleuaeth wedi 47 munud. Llwyddodd Edwards gyda’r trosiad hefyd.
Ddeng munud wedi hynny, sgoriodd y crysiau gleision eu pumed cais ddangosodd gyfuniad o gryfder, dadlwytho a sgiliau trafod gwych. Y prop Julien gwblhaodd y symudiad cyn i Mondinat barhau gyda’i gywirdeb at y pyst.

Gyda’r fyddugoliaeth y tu hwnt i gyrraedd y Cymry, eu tasg oedd sicrhau nad oedd y bwlch yn y sgôr yn cyrraedd 32 o bwyntiau. Wrth osgoi hynny byddai Mark Jones a’i dîm yn cadw’u lle yn ail haen y Bencampwriaeth.
Gydag 8 munud yn weddill fe sicrhaodd gais Harri Houston hynny gan adlewyrchu menter y Cymry – ond y pendraw, safon y Ffrancwyr aeth â hi.

Cafwyd diweddglo cyffrous i ornest gyffrous wrth i’r clo Liufau weld cerdyn melyn – cyn i’r asgellwr Mussa dirio 6ed cais ei dîm i gau pen y mwdwl ar y sgorio.

Bydd gan Gymru ddwy gêm arall cyn gadael De Affrica er mwyn penderfynu pa safle y byddan nhw’n gorffen y Bencampwriaeth a bydd y cyntaf o’r rheiny yn digwydd yn Paarl am 3pm ddydd Sul wrth i’r Cymry herio Georgia. Naill ai Seland Newydd neu Awstralia fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru yn y Bencampwriaeth.

Dywedodd Mark Jones, Prif Hyfforddwr Cymru:” Rwy’n siomedig dros y bechgyn gan na lwyddon nhw berfformio hyd eithaf eu gallu. ‘Roedd hynny’n wir yn erbyn y pymtheg dyn a’r cyfnod hir o wynebu 14 dyn hefyd. Fe geision nhw eu gorau, ond doedden ni ddim yn ddigon clinigol – oedd yn siomedig. Does dim arall y gallwn ei wneud – dim ond edrych ymlaen at y gemau nesaf.”

Canlyniad Cymru 19 Ffrainc 43.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
Rhino Rugby
Sportseen
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20
Amber Energy
Opro
14 dyn Ffrainc yn rhy gryf i’r Cymry dan 20