Neidio i'r prif gynnwys
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru

O'r chwith i'r dde - Max Taylor, Prif Swyddog Masnachol Vodafone, Hannah Jones, Taulupe Faletau a Nigel Walker, Prif Weithredwr Cyfredol URC.

Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru

Mae’r cytundeb aml-flwyddyn newydd yn parhau i dyfu partneriaeth Vodafone ag URC

Rhannu:

Mae Vodafone heddiw yn dod yn Brif Bartner i dîm rygbi dynion Cymru a’r tîm  o dan 20 hefyd – mewn cytundeb aml-flwyddyn fydd yn golygu bod Vodafone yn dod yn Brif Bartner gyda dynion, menywod a thimau datblygu Cymru (o dan 18 & 20) er mwyn datblygu’r gamp ar bob lefel yng Nghymru. Bydd y cytundeb yn dod i rym ar Orffennaf 1af.

Mae’r cytundeb pwysig hwn yn ychwanegu at bartneriaeth bresennol Vodafone gydag Undeb Rygbi Cymru, yn dilyn eu blwyddyn gyntaf fel Prif Bartner a noddwyr Craidd rygbi Merched & Menywod Cymru. Bu’r cwmni hefyd yn bartner trawsnewid darpariaeth digidol i Stadiwm Principality.

DFP – Leaderboard

Bydd Vodafone yn cefnogi perfformiad a lles chwaraewyr ar hyd a lled Rygbi Cymru drwy gynnig atebion technoleg a datblygiad parhaus eu platfform arloesol PLAYER.Connect.

Heddiw, mae Vodafone wedi cryfhau ac adeiladu ar eu partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru (URC), mewn cytundeb nodedig – gan ddod yn Brif Bartner i garfan a thimau datblybu hŷn y dynion. Mae hyn atgyfnerthu ymrwymiad Vodafone i rygbi Cymru yn gyffredinol.

Mae Vodafone bellach yn Brif Bartner rygbi dynion, menywod a datblygu (dan 20) yng Nghymru, gan uno’r tri thîm o fewn un bartneriaeth. Mae hyn yn ymrwymiad gwirioneddol i dyfu rygbi ar bob lefel yng Nghymru.

Trwy gydol y bartneriaeth gydag URC, bydd Vodafone yn cefnogi perfformiad a lles chwaraewyr ar draws Rygbi Cymru gyfan trwy ddyfeisgarwch technoleg arloesol. Mae hyn yn cynnwys y buddsoddiad parhaus yn eu platfform arloesol PLAYER.Connect.

Mae’r dechnoleg wedi gweld datblygiadau mawr yn ystod y flwyddyn, gyda chyflwyniad monito’r cylch mislif sy’n helpu tîm rygbi Menywod Cymru i ddadansoddi’r effaith ar berfformiad, lles ac adferiad. Mae hyn yn enghraiff bellach o ymrwymiad y cwmni i dyfu’r gamp.

Bydd Vodafone hefyd yn defnyddio ei rwydwaith 5G i wella profiadau diwrnod gêm i gefnogwyr yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n gwylio gartref.

Mae’r bartneriaeth newydd gyda thîm y dynion yn adeiladu ar flwyddyn gyntaf Vodafone gyda thîm Menywod Cymru fel Prif Bartner Craidd y Merched a’r Menywod. Yn ystod y tymor hwnnw, gwelwyd record o dorf o 8,862 yn mynychu’r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr ym Mharc yr Arfau Caerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ddechrau cyfnod hynod o brysur i rygbi Cymru gyda Phencampwriaeth y Byd dan 20 oed yn dechrau ar Fehefin 24fed yn Ne Affrica ac yna Cyfres Haf Vodafone, Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, a chystadleuaeth gyntaf y W.XV yn Seland Newydd.

Dywedodd Prif Swyddog Masnachol Vodafone, Max Taylor: “Mae’r bartneriaeth newydd gyda phrif  dîm rygbi’r dynion a’r tîm o dan 20 yn ychwanegu enw eiconig arall at bortffolio nawdd sylweddol Vodafone. Gyda Chwpan y Byd rownd y gornel mae’n gyfnod hynod gyffrous i rygbi, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i wthio rygbi i’r lefel nesaf.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol URC, Nigel Walker: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau Vodafone fel ein noddwr ar gyfer blaen ein crysau ar gyfer timau datblygu o dan 20 y dynion a’n tîm Cenedlaethol hŷn hefyd.

“Mae partneriaeth Vodafone yn ein galluogi i ddatblygu ein timau iau gan gynnig llwybr i’n bechgyn a’n merched gyrraedd y llwyfan rhyngwladol. Mae eu gwaith fel ein partneriaid digidol yn Stadiwm Principality hefyd eisoes yn dwyn ffrwyth.

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r gêm yng Nghymru, gyda sefydlogrwydd oddi ar y cae wedi ei sicrhau bellach, gallwn ganolbwyntio ar ffrwyno’r potensial tymor hir, i greu llwyddiant tymor hir ar y meysydd chwarae.

“Trwy eu partneriaeth, bydd Vodafone yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol y gêm yng Nghymru ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus i rygbi Cymru heddiw.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r tîm o dan 20ain fydd yn wynebu Seland Newydd yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd yn Paarl, De Affrica y Sadwrn yma – pan fyddan nhw’n gwisgo crys coch Cymru gyda chefnogaeth Vodafone arno – yn hynod falch”.

Mae ymrwymiad Vodafone i hybu a hyrwyddo rygbi ar bob lefel o’r gêm ar draws y byd, yn cynnwys eu partneriaethau â Thimau Rygbi Dynion a Merched y Lluoedd Arfog a thîm Siarcod DMP yng Nghynghrair y Premier XVs. Yn ogystal, cyflwynodd Vodafone nawdd nodedig i’r Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2021.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
Amber Energy
Opro
Vodafone yn cryfhau eu partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru