Neidio i'r prif gynnwys
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd

Prif Hyfforddwr y bechgyn dan 20 - Mark Jones.

Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd

 Mae prif hyfforddwr Cymru, Mark Jones, wedi enwi ‘tîm cyffrous’ i wynebu Seland Newydd yn eu gêm agoriadol yng Nghrŵp A ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd yn Paarl, De Affrica, ddydd Sadwrn (3pm)

Rhannu:

 Mae bachwr y Gweilch, Lewis Lloyd, wedi hawlio’i le yn y 15 fydd yn dechrau am y tro cyntaf i ennill ei ail gap – tra bydd Evan Hill, Seb Driscoll a Harri Wilde yn ennill eu capiau cyntaf os y byddant yn cael eu galw i’r maes o’r fainc.

“Mae’n dîm cyffrous ac rwy’n credu bod ganddo ni lawer o botensial,” meddai Jones.

DFP – Leaderboard

“Os y bydd y bechgyn yn asio fel maen nhw wedi gwneud wrth ymarfer – fe allwn ni wneud yn dda.

“Mae agwedd y bechgyn wedi bod yn ardderchog. Maen nhw wir wedi gwrando a dysgu’n gyflym ac mae na safon gwirioneddol yn perthyn i’r garfan. Wedi dweud hynny, mae pawb yn ymwybodol o’r ffaith fod yn rhaid i safon ein perfformiadau diweddar wella”.

Ar ôl gorffen ymgyrch eleni ar waelod tabl y Chwe Gwlad, mae Jones yn cyfaddef nad ydi sefyllfa’r garfan yn ddelfrydol wrth geisio creu argraff ffafriol ar Bencampwriaeth y Byd – ond mae’n bles iawn gydag agwedd ac ymroddiad y bechgyn, yn yr amser prin y maent wedi eu dreulio gyda’i gilydd:

“Nid ni yw’r ffefrynnau o bell ffordd ac mae hynny’n ddigon teg wedi ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad. Y cwbl allwn ni ei wneud yw canolbwyntio ar ein gwelliant a’n perfformiad nesaf.

“Rwy’n disgwyl gêm agored a chyflym yn erbyn Seland Newydd – mae eu blaenwyr – heb sôn am eu hasgellwyr yn gallu cadw’r bêl yn fyw yn hynod o dda. Un o’n blaenoriaethau ni felly fydd bod yn hynod o gystadleuol – yn enwedig yn ardal y dacl a’r llinell fantais.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad ni’n hunain. Dyna’r peth pwysicaf i ni. Mae’n rhaid i ni gael ffydd yn yr hyn yr ydym yn ei wneud.

“Os ydyn ni’n perfformio’n dda ac yn gweld gwelliant yn yr agweddau yr ydym wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw – mae’n mynd i roi hyder i’r bechgyn am weddill y Bencampwriaeth ac i’r dyfodol hefyd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i’r holl garfan – gan ei bod hi’n bosib y bydd yn rhaid i ni chwarae pum gêm mewn 25 niwrnod yn hwyrach yn y gystadleuaeth.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiadau ni’n hunain a pherfformio hyd eithaf ein gallu. Wedi hynny – fe gawn ni weld beth ddaw.”

Cymru dan 20 v Seland Newydd Dan 20, Paarl,De Affrica, Sad 24 Mehefin, 3pm (S4C)

15 Cameron Winnett (Caerdydd)

14 Llien Morgan (Gweilch)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)

12 Bryn Bradley (Harlequins)
11 Harri Houston (Gweilch)

10 Dan Edwards (Gweilch)

9 Archie Hughes (Scarlets);
1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dreigiau)
2 Lewis Lloyd (Gweilch)
3 Ellis Fackrell (Gweilch)
4 Liam Edwards (Gweilch)
5 Jonny Green (Harlequins)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Lucas De La Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)

 

Eilyddion
16 Sam Scarfe (Dreigiau)
17 Josh Morse (Scarlets)
18 Louis Fletcher (Gweilch)
19 Evan Hill (Gweilch)
20 Seb Driscoll (Harlequins)
21 Che Hope (Dreigiau)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Tom Florence (Gweilch)

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd
Amber Energy
Opro
Tîm dan 20 Cymru i herio Seland Newydd