Neidio i'r prif gynnwys
Ryan Woodman

Wales U20 skipper Ryan Woodman

Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20

Mae hyfforddwr dros dro Cymru o dan 20, Mark Jones wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd fydd yn dechrau yn Ne Affrica yn ddiweddarach y mis yma. 

Rhannu:

Ryan Woodman o’r Dreigiau fydd yn arwain y garfan o 30 – sy’n cynnwys 17 o flaenwyr ac 13 olwr. Mae pum chwaraewr sydd eto i ennill cap ar y lefel yma wedi eu cynnwys yn y garfan.

Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi digwydd ers 2019 a bydd y gemau’n cael eu cynnal yn ardal Cape Town rhwng Mehefin 24ain a Gorffennaf y 14eg. Bydd 12 prif wlad y byd rygbi ar y lefel hon yn cymryd rhan.

DFP – Leaderboard

Bydd Cymru yn cystadlu yng Ngrŵp A gyda Seland Newydd, Japan a Ffrainc.

“Mae’n carfan yn gymysgedd o ran ieuenctid a phrofiad,”meddai Jones. “Mae llawer o chwaraewyr cyffrous gennym ac mae set cryf a thalentog o flaenwyr wedi eu cynnwys.”

Mae Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Seland Newydd sydd wedi ennill coron y byd ar bum achlysur, ond mae Jones yn dawel obeithiol y gall ei dîm ifanc fod yn gystadleuol iawn yn eu herbyn.

“Yn hanesyddol maen nhw wedi bod yn gryf iawn yn y gystadleuaeth hon dros y blynyddoedd. Wedi dweud hynny – rydyn ni wedi eu curo ddwywaith yn ddiweddar.

“Dyw hi ddim yn her ry’n ni’n ei hofni – ond ry’n ni’n barchus iawn o rygbi Seland Newydd yn enwedig ar lefel Dan 20. Mae eu system ysgolion yn anhygoel. Rydw i wedi gweld hynny â’m llygaid fy hun. Pan rydych chi’n chwarae tîm o Seland Newydd mae’n fesur da o ble rydych chi – fel unigolyn ac fel tîm.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod y Ffrancwyr wedi bod yn gryf iawn yn y Chwe Gwlad. Fe gafon ni grasfa ganddyn nhw ac felly mae angen i ni wella ein perfformiad. Dyw e ddim yn grŵp hawdd o gwbl gan fod Japan yn un o’r gwledydd sy’n codi gyflymaf yn rygbi’r byd felly maen nhw’n mynd i fod yn wrthwynebwyr anodd iawn hefyd. ”

Ychwanegodd Jones: “Rydyn ni eisiau bod yn well na beth oedden ni yn y Chwe Gwlad – dyna’r targed a’r llinyn mesur cyntaf,” meddai.

“Ry’n ni’n hyderus iawn y gwelwn ni welliant yn ein perfformiadau ac ry’n ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y canlyniadau yn y gystadleuaeth yn ffafriol i ni.”
Amserlen gemau Cymru

Cymru dan 20 v Seland Newydd Dan 20 – Dydd Sadwrn, 24 Mehefin,  Paarl – CG 3pm BST
Cymru dan 20 v Japan Dan 20 – Dydd Iau, 29 Mehefin, Stadiwm Danie Craven, Stellenbosch – CG 1pm BST
Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20 – Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf, Stadiwm Chwaraeon Athlonone, Cape Town – CG 3.30pm BST

Mae amselen lawn y gystadleuaeth ar gael yma: Gwefan World Rugby, ac mae tocynnau  ar gael yma.

Carfan o dan 20 Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

BLAENWYR
Josh Morse (Scarlets)
Dylan Kelleher-Griffiths (Y Dreigiau)
Lewis Lloyd (Y Gweilch)
Sam Scarfe (Y Dreigiau)
Lewis Morgan (Scarlets)
Louis Fletcher (Y Gweilch)
Ellis Fackrell (Y Gweilch)
*Llogi Kian (Gweilch)
Liam Edwards (Y Gweilch)
*Evan Hill (Y Gweilch)
Mackenzie Martin (Caerdydd)
Jonny Green (Harlequins)
Ryan Woodman (Y Dreigiau) – Capten
Morgan Morse (Y Gweilch)
Lucas De la Rua (Caerdydd)
*Seb Driscoll (Harlequins)
Gwilym Evans (Caerdydd)

OLWYR
Archie Hughes (Scarlets)
Harri Williams (Scarlets)
Che Hope (Y Dreigiau)
Dan Edwards (Y Gweilch)
*Harri Wilde (Caerdydd)
Bryn Bradley (Harlequins)
Joe Westwood (Y Dreigiau)
Tom Florence (Y Gweilch)
Louie Hennessey (Caerfaddon)
Harri Houston (Y Gweilch)
*Huw Anderson (Y Dreigiau)
Llien Morgan (Y Gweilch)
Cameron Winnett (Caerdydd)

*Heb ennill Cap o dan 20 hyd yn hyn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20
Amber Energy
Opro
Cymru’n cyhoeddi carfan Cwpan y Byd o dan 20