Neidio i'r prif gynnwys
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl

Siom Bryn Bradley'n amlwg ar y chwiban olaf

Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl

Siom aruthrol brofodd tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd wrth golli o bwynt yn unig i Seland Newydd.

Rhannu:

Fel yr hen ystrydeb, profodd yr ornest hon yn Paarl, De Affica i fod yn gêm o ddau hanner.

Perfformiodd bechgyn Mark Jones yn arwrol yn yr hanner cyntaf. Er iddyn nhw ildio cais cynnar wedi 7 munud i Caleb Tangitau, fe sgoriod y Cymry dri chais eu hunain cyn troi o ganlyniad i ymdrechion Lewis Lloyd, Dan Edwards a Morgan Morse. Gyda dau o’r tri chais yn cael eu trosi gan Edwards – ‘roedd gan y cochion fantais o 19-5 wrth droi.

DFP – Leaderboard

Ond stori dra gwahanol gafwyd yn 20 munud agoriadol yr ail gyfnod gyda’r Baby Blacks yn sgorio 22 o bwyntiau’n ddi-wrthwynebiad. Macca Springer, Sam Hainsworth-Fa’ofo a Che Clarke groesodd am y ceisiau sicrhaodd y pwynt bonws ychwanegol i’w tîm hefyd.

Er i Sam Scarfe sgorio pwyntiau cyntaf y Cymry ym munud ola’r gêm – gan hawlio pwynt bonws haeddiannol – ‘roedd tîm Mark Jones dal yn brin o gyfanswm Seland Newydd o bwynt yn unig hyd yn oed wedi i Edwards drosi’r cais.

Er gwaetho’r siom yn Paarl – fe hawliodd Ryan Woodman a’i dîm ddau bwynt bonws a bydd ganddynt y cyfle i gadw’u gobeithion yn fyw yn y Bencampwriaeth pan fyddan nhw’n herio Japan yn Stellenbosch ddydd Iau y 29ain o Fehefin. Fe gollodd Japan o 75-12 yn erbyn Ffrainc yn eu gornest agoriadol nhw o’r Bencampwriaeth.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru dan 20 yn colli o un pwynt yn unig yn Paarl