Neidio i'r prif gynnwys
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod

Y gobaith yw creu chwaraewyr rhyngwladol y genhedlaeth nesaf.

Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i adeiladu ar seiliau cadarn sydd wedi eu gosod yn ddiweddar yng ngêm y merched a’r menywod.

Rhannu:

Mae tair Canolfan Datblygu Chwaraewyr – un yr un yn y Dwyrain, Gorllewin a’r Gogledd – wedi eu sefydlu i gynorthwyo datblygiad chwaraewyr addawol ar draws Cymru wrth iddyn nhw ddilyn eu breuddwyd o fod yn chwaraewyr elît.

Bydd y chwaraewyr hyn yn gallu mwynhau adnoddau ac arweiniad o safon arbennig o uchel wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y nôd o gynrychioli eu gwlad.

DFP – Leaderboard

Bydd y canolfannau yn cael eu hariannu ar y cyd gan Undeb Rygbi Cymru a’i bartneriaid – datblygiad sy’n cydnabod ac yn arwain y cynnydd sylweddol yn nhwf y gêm yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’r Undeb yn cydnabod bod y buddsoddiad yma’n angenrheidiol er mwyn galluogi Cymru i gystadlu ar y llwyfan byd-eang.

Bydd y cynllun newydd yn cydweithio law yn llaw gyda chyfres yr Her Celtaidd a sefydlu rhaglen Menywod Cymru o dan 20.

Cynhaliwyd proses dendro drylwyr cyn dewis y tair canolfan er mwyn gallu sicrhau bod merched addawol Cymru – o dan y lefel rhyngwladol – yn derbyn y cymorth ymarferol gorau posib.

Bydd y tair canolfan wedi eu lleoli yn:

  • Dwyrain: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Gorllewin Cymru: Prifysgol Abertawe
  • Gogledd Cymru: Rygbi Gogledd Cymru ym Mharc Eirias.

Bydd y canolfannau o safon Academi fydd yn cynnig llwybr gyrfa glir i chwaraewyr allu gwireddu eu potensial a’u breuddwydion yn y gêm broffesiynol ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd y tair canolfan yn cydweithio er mwyn dod o hyd i rhwng 25-35 o chwaraewyr i gymryd rhan yn y cynllun yn flynyddol.

Bydd chwaraewyr yn parhau i gynrychioli eu clybiau, ysgolion, colegau a phrifysgolion wrth iddyn nhw baratoi i gynrychioli Cymru dan 18 ac 20, tîm yr Her Celtaidd a phrif dîm Cymru.

Pwysleisir safon yr hyfforddi, y cymorth meddygol a ffitrwydd yn y canolfannau o safbwynt datblygiad y chwaraewyr ond mae’n bwysig cadarnhau y bydd y rhaglen yn cymryd gofynion addysgol aelodau’r cynllun i ystyriaeth hefyd ac yn sicrhau bod y chwaraewyr yn cael y gorau o’r ddau fyd.

Yn gynharach eleni cadarnhawyd 25 o chwaraewyr proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru ac yn dilyn eu hymgyrch orau ym Mhencampwraieth Chwe Gwlad TikTok ers 2009 o dan arweiniad Ioan Cunningham, mae Menywod Cymru bellach yn chweched ymhlith detholion y byd – eu safle uchaf erioed. O ganlyniad i hynny bydd Cymru’n cystadlu ym mhrif haen cystadleuaeth newydd y WXV yn Seland Newydd yn yr Hydref.

Dywedodd cyn gapten Cymru Siwan Lillicrap – sydd bellach yn Rheolwr Llwybr Datblygiad URC ac hefyd yn hyfforddwr timau rhyngwladol oedrannau iau Cymru:

“Mae hwn yn ddatblygiad allweddol i’r gêm yng Nghymru sy’n cynnig llwybr clir i chwaraewyr addawol allu gwireddu eu potensial trwy gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf.

“Trwy sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad Met Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Rygbi Gogledd Cymru – mae siwrnai gyffrous o’n blaenau.

“Mae perfformiadau diweddar tîm Cymru wedi dangos y potensial sydd gennym yma yng Nghymru ac mae’r torfeydd diweddar wedi dangos bod diddordeb mawr gan y cyhoedd yn natblygiad gêm y menywod.

“Fe fydden i wedi dwlu cael y math yma o gyfle pan oeddwn i’n chwarae ac mae’r cynllun hwn yn dangos pa mor bell mae rygbi merched a menywod wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diweddar”.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru:

“Mae’r Canolfannau Datblygu yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni fuddsoddi yn y talent sydd gennym yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau ein bod yn cystadlu o ddifrif ar y lefel rhyngwladol. Bydd hyn hefyd yn galluogi chwaraewyr y genhedlaeth nesaf i gystadlu gyda goreuon y byd”.

Ychwanegodd Nigel Walker, Prif Weithredwr URC:

“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi cymryd cam sylweddol arall yn natblygiad rygbi merched a menywod yma yng Nghymru. Bydd y strwythr newydd a’n gallu i adnabod talent y dyfodol yn allweddol wrth i ni gymryd camau cadarnhaol pellach.

Dywedodd Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon Met Caerdydd:

“Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wrth ein boddau ein bod wedi ein dewis yn un o’r tair canolfan. Mae gennym hanes hir a balch o ragoriaeth ym myd y campau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ychwanegu at y gwaddol hwnnw trwy gyfrwng y bartneriaeth newydd hon – fydd yn y pendraw yn datblygu chwaraewyr elît yn y crys coch ar y llwyfan rhyngwladol.

Ychwanegodd Alun Pritchard, Rheolwr Cyffredinol Rygbi Gogledd Cymru:

“Mae’n wych o beth bod merched Gogledd Cymru yn cael y cyfle hwn i ddatblygu fel chwaraewyr rygbi. Roedd 9 o ferched o’r gogledd yng ngharfan ddiweddar Cymru o dan 18 ac rydym yn benderfynol o sicrhau’r llwybr datblygiad gorau posib i chwaraewyr y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Rydym yn hapus iawn ein bod am gydweithio gydag URC a’r Gweilch i sefydlu’r ganolfan bwysig hon yn Ne Orllewin Cymru.

“Mae gennym enw da ar draws y byd ym myd y campau ac ym maes Technoleg Chwaraeon ac mae’r cynllun newydd hwn yn ychwanegu at ein hapêl fel Prifysgol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae ein rhan yn natblygiad pellach Rygbi Merched a Menywod yng Nghymru”.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Rhino Rugby
Sportseen
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod
Amber Energy
Opro
Tair canolfan newydd i ddatblygu rygbi merched a menywod