Neidio i'r prif gynnwys
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol

Hwyl Fawr a Diolch Alun Wyn.

Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol

Mae Alun Wyn Jones wedi cadarnhau ei fod wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Rhannu:

Wrth siarad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Jones: “Er fy mod wedi cael fy newis ar gyfer carfan ragbrofol Cwpan y Byd – yn dilyn sgwrs gyda’r tîm hyfforddi, ‘rwyf wedi penderfynu ymddeol o’r gêm ryngwladol.

Felly gallaf edrych yn ôl ar atgofion arbennig iawn yr wyf wedi eu rhannu gyda rhai o fawrion y gêm yng Nghymru a rhai o sêr y dyfodol hefyd.

“Fy nhad a’m tad-cu daniodd fy angerdd tuag at y gêm pan o’n i’n ifanc ac mae’r angerdd hwnnw wedi aros gyda mi. ‘Roedd cael y cyfle i fod yn chwaraewr proffesiynol yn y gamp yr oeddwn yn ei charu yn freuddwyd. ‘Roedd cael cynrychioli fy rhanbarth lleol – y Gweilch a chlybiau Bonymaen a’r Mwmbwls yn fraint aruthrol ac ‘rwy’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am eu harweiniad.

“Hoffwn ddiolch i’r staff a’r chwaraewyr sydd wedi rhannu fy siwrnai. Dymunaf y gorau i chi yn y dyfodol.

“I’r cefnogwyr – diolch am eich cefnogaeth ac am wneud yr achlysuron arbennig yn fwy cofiadwy fyth.

“Fyddai dim o fy ngyrfa wedi bod yn bosib heb gefnogaeth fy nheulu. Mae’r gefnogaeth yn ystod anafiadau a buddugoliaethau wastad wedi bod yno i mi.

“Er fy mod wedi profi llwyddiant ar y maes – cael fy mhlant fydd fy llwyddiant mwyaf mewn bywyd.

Diolch.”

Alun Wyn Jones yw’r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol erioed gan iddo gynrychioli Cymru 158 o weithiau a’r Llewod 12 gwaith. Bu’n gapten ar Gymru a’r Llewod hefyd mewn gyrfa ryngwladol barodd am bron i 18 mlynedd.

Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2006 ac fe gynrychiolodd ei wlad am y tro diwethaf ym Mharis yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad eleni.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Hoffwn longyfarch Al ar ei yrfa ryfeddol. Mae ei arweiniad, ymroddiad a’r ffaith ei fod wastad mor benderfynol, wedi golygu bod Cymru wedi cael gwasanaeth chwaraewr arbennig iawn ers 18 mlynedd.

“Yn ddieithriad – ar y maes ymarfer neu yng nghrys Cymru – mae wastad yn gosod y safon i eraill ac yn arwain trwy esiampl.’Rwy’n ffodus iawn fy mod wedi cael y fraint o weithio gydag ef i Gymru a’r Llewod.

“Mae ei angerdd tuag at ei wlad yn ddi-ddiwedd. Fe all Al a’i deulu fod yn arbennig o falch o’i lwyddiannau a’r ffaith ei fod yn gadael gwaddol gwirioneddol ar ei ôl. Hoffwn ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

“Diolch yn fawr iawn am bopeth Al.”

‘Roedd Jones wedi cynrychioli Cymru o dan 18 ac fe enillodd y tîm o dan 21ain yr oedd yn aelod ohonno y Gamp Lawn yn 2005. Ers hynny mae wedi ennill tair Camp Lawn gyda’r prif dîm wrth gwrs yn 2008, 2012 a 2019 a bu’n rhan allweddol o dîm 2013 enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn ogystal, chwaraeodd yn nhîm buddugol y crysau cochion yn Bloemfontein ym mis Gorffennaf 2022 – y tro cyntaf i Gymru ennill gêm brawf ar dir De Affrica.

Ar lefel ddomestig, cynrychiolodd Ysgol yr Archesgob Gore,Coleg Llanymddyfri, Y Mwmbwls a Bonymaen cyn iddo ymuno gydag Academi’r Gweilch. Chwaraeodd i Abertawe am gyfnod pan oedd gyda’r academi.

Daeth yn gapten ar y Gweilch yn nhymor 2010/11 a bu wrth y llyw tan ddiwedd ymgyrch 2017/18.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Gweilch enillodd y Cwpan Eingl-Gymreig a Rownd Derfynol Cynghrair Magners. Hawliodd goron Ffeinal y Pro 12 hefyd wrth drechu Leinster yn 2010.

Dim ond 128 o ddynion oedd wedi cael y fraint o gapteinio Cymru cyn Alun Wyn Jones ac aeth ymlaen i arwain ei wlad ar 48 achlysur.

Mae Jones wedi graddio’n y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, ac ef  oedd y pumed chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir o 100 o gapiau dros Gymru.

Cynrychiolodd y Llewod ar bedair taith – yn Ne Affrica yn 2009 ac yna yn Awstralia bedair blynedd yn ddiweddarach. O ganlyniad i anaf i Sam Warburton – Jones gafodd y fraint o arwain y Llewod yn y drydedd gêm brawf allweddol yn Sydney – welodd yr ymwelwyr yn hawlio cyfres am y tro cyntaf mewn 16 o flynyddoedd.

Chwaraeodd ym mhob un o’r profion yn Seland Newydd yn 2017 ac fe gafodd ei enwi’n gapten ar gyfer y tair gêm brawf yn Ne Affrica bedair blynedd yn ddiweddarach – a hynny wedi iddo wella’n rhyfeddol o anaf â ddioddefodd i’w ysgwydd yn yr ornest baratoadol yn erbyn Japan.

Mae Jones yn aelod o griw dethol iawn sydd wedi ennill Prawf gyda’r Llewod yn Seland Newydd, Awstralia a De Affrica.

Ychwanegodd Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Mae Alun wedi bod yn was gwych i rygbi Cymru. Mae ei gryfder ar y cae – ac oddi arno wedi bod yn ysbrydoledig. Mae ei yrfa anhygoel yn brawf o’i broffesiynoldeb a’i angerdd i gynrychioli ei wlad.

“Mae’n unigolyn arbennig iawn sy’n hawlio edmygedd a pharch pobl sydd wedi cael y fraint o’i wylio ar y cae, chwarae gydag ef – neu ei herio ar y maes rygbi. Diolch”.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Rhino Rugby
Sportseen
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol
Amber Energy
Opro
Alun Wyn i Ymddeol o Rygbi Rhyngwladol