Neidio i'r prif gynnwys
Tîm Cymru v Yr Eidal

Tîm Cymru v Yr Eidal

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham wedi dewis ei dîm i wynebu’r Eidal yn rownd olaf gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod TikTok 2023, yn Stadio Sergio Lanfranchi, Parma, ddydd Sadwrn y 29ain o Ebrill (3.30pm).

Rhannu:

Hannah Jones fydd y capten unwaith eto a bydd hi’n arwain tîm sy’n cynnwys 5 newid o’r 15 ddechreuodd y gêm yn erbyn Ffrainc yn Grenoble. Chwaraeodd 14 o’r tîm yn y buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a’r Alban. Wedi ei pherfformiad addawol yn erbyn Ffrainc, mae Lleucu George yn cadw’i lle fel partner Jones yn y canol.

Oni bai am ddychweliad y mewnwr, Keira Bevan – mae’r holl newidiadau eraill ymysg y blaenwyr.

DFP – Leaderboard

Mae’r rheng flaen gyfan wedi ei newid gyda Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones a Sisilia Tu’ipulotu yn dychwelyd, tra bo Alex Callender yn ad-ennill ei lle yn y rheng ôl.

Mae Amelia Tutt, sydd eto i ennill cap, wedi ei galw i’r fainc. Os y daw y wibwraig i’r cae yn ystod y gêm – hi fydd y pedwerydd chwaraewr i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn y Bencampwraieth eleni.

Anafodd Kerin Lake ei phigwrn yn y gêm yn yr Alban – ac mae’r canolwr yn dychwelyd i’r fainc ar gyfer yr ornest yn Parma.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham:

“Ein nod ar ddechrau Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok oedd sicrhau dwy fuddugoliaeth cyn ein gêm olaf yn yr Eidal. Dyw hi ddim yn gyfrinach ein bod wedi targedu ennill tair o gemau eleni.

“Mae’r chwaraewyr a’r holl staff wedi gweithio’n arbennig o galed er mwyn cyrraedd ble’r ry’n ni ar hyn o bryd a does dim amheuaeth ein bod wedi cymryd camau cadarnhaol iawn i’r cyfeiriad cywir yn ystod y Bencampwriaeth.

“Ry’n ni wedi dangos yn erbyn Lloegr a Ffrainc – dau o dimau gorau’r byd – ein bod yn gallu cystadlu gyda nhw – ond ‘ry’n ni’n gwybod ein bod yn gorfod perfformio am yr 80 munud cyfan yn Parma os y’n ni am ennill.

“Amelia Tutt fydd y pedwerydd chwaraewr i ennill cap cyntaf i ni yn ystod y gystadleuaeth ac mae hi wedi haeddu ei lle yn y garfan ar gyfer y gêm. Mae cael profiad Kerin Lake ar y fainc yn hwb arall hefyd.

“Mae’r Eidal wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn ein herbyn ni ac maen nhw ddau safle’n uwch na ni ymysg detholion y byd. Wedi dweud hynny, ‘ry’n ni’n hynod gyffrous am yr her sydd o’n blaenau ni – sef wynebu’r Eidal ar eu tomen eu hunain.”

Tîm Menywod Cymru i herio Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023

15. Courtney Keight (Bryste)

14. Lisa Neumann (Hartpury Caerloyw)

13. Hannah Jones (Capten, Hartpury Caerloyw)

12. Lleucu George (Hartpury Caerloyw)

11. Carys Williams-Morris (Loughborough)

10. Elinor Snowsill (Bryste)

9. Keira Bevan (Bryste)

1. Gwenllian Pyrs (Bryste)

2. Kelsey Jones (Hartpury Caerloyw)

3. Sisilia Tuipulotu (Hartpury Caerloyw)

4. Abbie Fleming (Caerwysg)

5. Georgia Evans (Saraseniaid)

6. Bethan Lewis (Hartpury Caerloyw)

7. Alex Callender (Caerwrangon)

8. Sioned Harries (Caerwrangon)

Eilyddion

16. Carys Phillips (Caerwrangon)

17. Caryl Thomas (Bryste)

18. Cerys Hale (Hartpury Caerloyw)

19. Bryonie King (Bryste)

20 Kate Williams (Hartpury Caerloyw)

21. Ffion Lewis (Caerwrangon)

22. Kerin Lake (Hartpury Caerloyw)

23. Amelia Tutt (Loughborough)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru v Yr Eidal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru v Yr Eidal
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Tîm Cymru v Yr Eidal
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru v Yr Eidal