Neidio i'r prif gynnwys
Lowri Norkett

Lowri Norkett sy'n cael dechrau cyntaf yr ymgyrch

Tîm Cymru i chwarae Lloegr

 

Rhannu:

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham wedi dewis ei dîm i wynebu Lloegr yn Nhrydedd Rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok, ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ddydd Sadwrn y 15ed o Ebrill (2.15pm).

Bydd y Capten, Hannah Jones yn arwain ei thîm unwaith eto – a gyda phob tocyn wedi ei werthu – bydd dros 8,000 o gefnogwyr yn llenwi Parc yr Arfau.

DFP – Leaderboard

Mae Lowri Norkett wedi ei dewis ar yr asgell yn lle Carys Williams-Morris sydd yn cynrychioli y Llu Awyr ym Mhencampwriaeth y lluoedd arfog.

Hannah Bluck – yn hytrach na Kerin Lake – fydd partner Hannah Jones yn y canol, sy’n golygu bod dau newid i’r tîm gurodd Yr Alban o 34-22 yng Nghaeredin

Mae Lake wedi anafu ei phigwrn ac yn cael ei hasesu ar hyn o bryd.

Mae Bryonie King, sydd eto i ennill cap, wedi ei galw i’r fainc. Os y daw y chwaraewr rheng ôl i’r cae yn ystod y gêm – hi fydd yr ail Gymraes i ennill ei chap cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni.

Bydd chwech o flaenwyr, gan gynnwys King – a dau o olwyr – ar y fainc.

Yn ngêm agoriadol y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd eleni, tystiodd Cunningham berfformiad a chanlyniad gwych gan ei dîm wrth iddyn nhw drechu Iwerddon o 31-5 a hynny o flaen record o dorf.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham: “Does dim mwy o brawf i’w gael na herio Lloegr – gan mai’r Saeson sy’n gosod y safon i’r gweddill ohonon ni ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok ac i weddill y byd. Ond rydym wir yn edrych ymlaen at yr her sydd o’n blaenau ni.

“Ry’n ni’n teimlo’n gyffrous am wynebu Lloegr ac mae cefnogwyr Cymru’n teimlo yr un peth hefyd gan bod pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer y gêm hanesyddol hon ar ein tomen ein hunain.

“Mae Lloegr wedi bod yn broffesiynol am gyfnod hirach na’r rhanfwyaf o’r gwledydd eraill – ond y sialens fawr i ni, yw dangos ein bod ni’n barod i wynebu eu her.

“Mae pob un o’n tîm ni yn chwaraewyr amlwg yn Uwch Gynghrair Allianz – cynghrair sy’n cael ei ystyried fel y gorau’n y byd ac mae’n perfformiadau ni yn erbyn Iwerddon a’r Alban wedi dangos ein bod yn gallu sgorio ceisiau a delio gyda sefyllfaoedd heriol iawn.

“Mae na deimlad cryf o undod yn ein carfan.

“Mae’r seibiant o wythnos wedi ein caniatau i adolygu ein perfformiadau hyd yma a hefyd edrych ymlaen at yr ornest fawr y penwythnos hyn.

“Roedden ni’n gwybod na fyddai Carys ar gael i ni o ganlyniad i’w hymrwymiadau i’r Llu Awyr a hoffwn ddymuno pob lwc iddi wrth gwrs. Wedi dweud hynny mae Lowri wedi ymarfer yn galed ac effeithiol iawn ac mae’r gystadleuaeth o fewn y garfan wedi cryfhau popeth yr ydym wedi ei wneud ers dechrau Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni.

“Mae’r holl garfan a’r staff yn edrych ymalen at weld beth allwn ni ei gyflawni yn erbyn Lloegr – fydd yn cynnig llinyn mesur da i ni o’n datblygiad.”

Tîm Menywod Cymru i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023
15 Courtney Keight (Bryste)
14 Lisa Neumann (Hartpury Caerloyw)
13 Hannah Jones (Capten, Hartpury Caerloyw)
12 Hannah Bluck (Caerwrangon)
11 Lowri Norkett (Caerwrangon)
10 Elinor Snowsill (Bryste)
9 Keira Bevan (Bryste);
1 Gwenllian Pyrs (Bryste)
2 Kelsey Jones (Hartpury Caerloyw)
3 Sisilia Tuipulotu (Hartpury Caerloyw)
4 Abbie Fleming (Caerwysg)
5 Georgia Evans (Saraseniaid)
6 Bethan Lewis (Hartpury Caerloyw)
7 Alex Callender (Caerwrangon)
8 Sioned Harries (Caerwrangon)

Eilyddion
16 Carys Phillips (Caerwrangon)
17 Cara Hope (Hartpury Caerloyw)
18 Cerys Hale (Hartpury Caerloyw)
19 Natalia John (Caerwrangon)
20 Kate Williams (Hartpury Caerloyw)
21 Bryonie King (Bryste)
22 Ffion Lewis (Caerwrangon)
23 Robyn Wilkins (Caerwysg)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Tîm Cymru i chwarae Lloegr
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i chwarae Lloegr