News

Tîm Cymru i herio’r Alban

Keira Bevan
25.03.23 - Wales v Ireland

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham wedi dewis ei dîm i wynebu’r Alban yn Ail Rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok, yn Stadiwm DAM Health Caeredin, ddydd Sadwrn y 1af o Ebrill (5.30pm).

Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto tra bydd y mewnwr Keira Bevan yn ennill ei 50fed cap.

Sicrhaodd Cunningham a’i dîm fuddugoliaeth swmpus o 31-5 yn erbyn Iwerddon – a hynny o flaen record o dorf – ym Mharc yr Afau’r Sadwrn diwethaf.

Mae un newid wedi ei orfodi ar yr hyfforddwr wedi’r ornest honno, gan bo’r clo Gwen Crabb wedi anafu ei phen-glin. Mae dau o newidiadau eraill o ran safle hefyd.

Bydd Georgia Evans yn partneru Abbie Fleming yn yr ail reng gyda Sioned Harries yn dechrau’n safle’r wythwr. Bydd Bethan Lewis yn symud i safle’r blaen-asgwellwr ochr dywyll.

Parhau mae partneriaeth y capten Hannah Jones a Kerin Lake yn y canol, gydag Elinor Snowsill yn safle’r maswr.

Mae’r tri ôl yn cael cyfle arall i arddangos eu doniau gyda Courtney Keight yn gefnwr a Lisa Neumann a Carys Williams Morris ar yr esgyll.

Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones and Sisilia Tuipulotu sydd wedi eu dewis unwaith eto’n y rheng flaen, gydag Alex Callender ar y flaen asgell agored – gan gwblau’r drindod yn y rheng ôl gyda  Harries and Lewis.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr: “Mae’r tîm yma’n haeddu cyfle i adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Iwerddon gan ein bod yn gwybod bod her fawr o’n blaenau yn yr Alban

“Bydd yr yr Albanwyr yn dal i gofio’r boen o golli’n ein herbyn yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.

“Er i ni berfformio’n dda yn erbyn y Gwyddelod y Sadwrn diwethaf mae nifer o agweddau o’n chwarae y gallwn wella arnyn nhw ac ry’n ni wedi gweithio’n galed ar y pethau hyn yn ystod yr wythnos.

“Mae’r ffaith i ni gael pwynt bonws yr wythnos ddiwethaf yn dangos ein bod yn gallu sgorio ceisiau a bod ein gwaith caled yn cael ei wobrwyo. Bydd hynny’n rhoi hyder mawr i ni wrth i ni ddatblygu steil mwy ymosodol o chwarae.

“Mae’r holl garfan yn hynod o siomedig am anaf Gwen Crabb gan iddi weithio mor galed i ddychwelyd i’r tîm. Fe wnawn yn siwr y bydd hi’n cael y cymorth a’r gefnogaeth orau gennym wrth iddi wella o’i hanaf.

Tîm Menywod Cymru i herio’r Alban ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023
15 Courtney Keight
14 Lisa Neumann
13 Hannah Jones (capten)
12 Kerin Lake
11 Carys Williams-Morris
10 Elinor Snowsill
9 Keira Bevan;
1 Gwenllian Pyrs
2 Kelsey Jones
3 Sisilia Tuipulotu
4 Abbie Fleming
5 Georgia Evans
6 Bethan Lewis
7 Alex Callender
8 Sioned Harries

Eilyddion
16 Carys Phillips
17 Cara Hope
18 Cerys Hale
19 Natalia John
20 Kate Williams
21 Ffion Lewis
22 Lleucu George
23 Hannah Bluck

Related Topics

Newyddion
News